Yn ystod penwythnos y Pasg eleni, aethom yn deulu bach i'r Ynys Werdd, i Limerick i weld gêm bwysig rhwng Munster a'r Gweilch.
Dyma'r tro cyntaf i ni fentro i grochan ferwedig a brwdfrydig Parc Thomond a dyna i chi brofiad!
Roedd cefnogwyr Munster hyd yn oed wedi ymaelodi â chlwb cefnogwyr y Gweilch yn unswydd er mwyn sicrhau tocyn i'r gêm!- sôn am frwdfrydedd!
Roedd yr awyrgylch yn y stadiwm a'r strydoedd o gwmpas yr un peth ag a geir yng Nghaerdydd pan fo Cymru'n chwarae yn erbyn Lloegr.
A bod yn onest, nid ellid ei ddisgrifio'n brofiad pleserus gan fod y canu'n orfoleddus, y gweiddi'n fyddarol a'r ysbryd yn y chwaraewyr ar y cae ac ymhlith y cefnogwyr yn yr eisteddle'n danboeth!
Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen a'r Gweilch heb adael y nyth heb sôn am hedfan, aeth pethau o ddrwg i waeth ac â bod yn gwbl onest roedd yn rhyddhad i glywed y chwiban olaf.
Roedd yn anodd derbyn cydymdeimlad sarcastig y cefnogwyr cartref. Beth bynnag, rhaid derbyn y siom a chofio nad cefnogwyr tywydd braf mohonom.
Credwch fi, anghofiwn ni mo'r profiad - mae'n dal i atseinio yn y glust a'r co' !.
Ar y daith, er hynny cwrddasom ag un neu ddau wyneb cyfarwydd, oedd yn gwneud yr un siwrne i daflu llygad barcud dros y chwaraewyr.
Gobeithio y bu'r siwrne yn fwy llewyrchus iddynt hwy.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |