Cyflwynydd Blue Peter ac un o gystadleuwyr Strictly Come Dancing 2007
Gethin Jones, un o gyflwynwyr y rhaglen Blue Peter ar C91Èȱ¬ oedd un o'r dawnswyr yn y gyfres Strictly Come Dancing ar 91Èȱ¬1 yn 2007.
Ganwyd Gethin Jones yng Nghaerdydd ar 12 Chwefror, 1978 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Coed-y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Dechreuodd gyflwyno Blue Peter ar 26 Ebrill 2005, ond cyn hynny roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C yn cyflwyno Uned 5, a rhaglen gerddoriaeth i blant, Popty ymhlith pethau eraill. Ymddangosodd fel Cyberman yn Doctor Who yn 2006.
Y mae'n cadw blog ar wefan Blue Peter ac mae'n amlwg yn falch iawn o'i Gymreictod. Ar ddydd Gŵyl Dewi 2007 paratodd fideo yn y Gymraeg yn dysgu brawddegau i ddefnyddwyr y wefan!
Graddiodd mewn Daearyddiaeth ac Economeg o Brifysgol Manceinion. Un o'i brif ddiddordebau yw rygbi ac roedd yn gapten ar dîm rygbi yn y Brifysgol. Yn ôl un cyfweliad papur newydd, mae'n meddwl weithiau tybed a fyddai wedi medru bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, cymaint y mae'n mwynhau'r gêm
Mae ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon eraill megis pêl-droed a chriced ac yn gerddor o fri. Mae wedi pasio arholiad Gradd 8 yn chwarae'r fiolÃn a Gradd 6 yn canu'r piano.
Daeth i amlygrwydd yn y wasg yn 2003 pan enillodd y teitl 'Bachelor of the Year' y cylchgrawn Company.
Camilla Dallerup oedd ei bartner dawnsio yn Strictly Come Dancing 2007 a chyrhaeddodd y rownd gyn derfynol, cyn gadael yn drydydd o'r gystadleuaeth.
Gwrandewch ar Dylan Wyn a Meinir Gwilym yn holi Gethin Jones o flaen y gyfres newydd o Strictly Come Dancing ar Radio Cymru.
Gwrandewch ar ddyddiadur Gethin Jones ar C2
Lluniau: Gethin yn dychwelyd i Ysgol Gyfun Glantaf
Y ddawns olaf i Gethin