1980
Hugh Griffith Actor o Fôn a enillodd Oscar am ei ran yn Ben Hur Roedd gan yr actor o Fôn, Hugh Griffith (1912 - 1980) lais arbennig, ac wyneb neilltuol a chofiadwy. Gydol ei yrfa, fe fynnodd gadw ei acen Gymraeg. Enillodd fri am actio yn nramâu Shakespeare, ac fe ddaeth Oscar iddo am ei ran yn y ffilm Ben Hur. Ystyriwyd ef hefyd yn un o actorion gorau gwaith Brecht. 'Roedd ei bresenoldeb ar lwyfan yn hudolus. Deallai'r gwahaniaeth rhwng ffilm, theatr a radio ac addasai ei lais a'i symudiadau i siwtio bob un. Dywedodd droeon fod ei berfformiad o'r Brenin Llyr wedi'i seilio ar lais a 'stumiau y pregethwr enwog o Fôn, John Elias!
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Cofio Hugh Griffith darlledwyd yn gyntaf 15/05/1980
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|