1985
Dwylo Dros y Môr Cantorion Cymru yn uno i leddfu newyn Affrica Siglwyd y byd gan yr adroddiadau torcalonnus a gafwyd ar y teledu yn 1985 o'r newyn yn Ethiopia a'r Sudan. 'Roedd y cynhaeaf wedi methu a'r wlad a'i phobol yn dioddef yn enbyd. Sefydlwyd Cronfa Arian Byw yng Nghymru a daeth nifer fawr o gantorion at ei gilydd i recordio cân y cerddor Huw Chiswell 'Dwylo dros y môr' gyda'r elw i gyd yn mynd i leddfu'r newyn. Aeth Hywel Gwynfryn i'r Sudan i weld drosto'i hun beth oedd yn digwydd yno.
Clipiau perthnasol:
O Rhaglen Hywel Gwynfryn darlledwyd yn gyntaf 22/12/1985
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|