Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for 91热爆 Embedding terms in English.
Mae'r 91热爆 yn eich hannog i fewnosod ei gemau ar eich gwefan ond ar yr amod eich bod yn cytuno i rai telerau (gweler isod). Noder os gwelwch yn dda:
- fe'ch caniateir i'w defnyddio ar eich gwefan bersonol yn unig
- defnyddiwch y cod a ddarparwyd a pheidiwch 芒 golygu'r gemau
- gall y 91热爆 ddileu'r gemau heb rybudd
- mae'r 91热爆 yn gwneud y gemau ar gael ar eich risg chi yn unig
- peidiwch 芒 mewnosod neu ymgorffori'r gemau mewn gwefannau sydd yn cynnwys deunydd anghyfreithiol neu ddeunydd sy'n cythruddo
- ni ystyrir mewnosod y gemau ar eich gwefan, fel unrhyw fath o gymeradwyaeth neu s锚l bendith gan y 91热爆 o'ch gwefan.
Caiff y gemau eu gwneud ar gael ar sail an-ecsgliwsif ac ni fyddwch yn honni fod y gemau ond ar gael ar eich gwefan chi neu fod gennych unrhyw fath o berthynas ecsgliwsif gyda'r 91热爆.
Os ydych o'r farn na ddylai'r gemau neu unrhyw gynnwys arall y 91热爆 ymddangos ar wefan, yna cysylltwch 芒 ni os gwelwch yn dda - cliciwch yma i gysylltu 芒 ni ac fe wnawn ni adolygu'r wefan.
('91热爆 Application' yw ystyr 'Rhaglen y 91热爆' yn y cyd-destun hwn)
Telerau Trwydded Safonol y Gorfforaeth Ddarlledu Prydeinig (y '91热爆') ar gyfer Rhaglen i'w Mewnosod
Trwy fewnosod neu lawrlwytho dyfais chwarae, widget, neu raglen arall sydd 芒 brand y 91热爆 arno ("Rhaglen y 91热爆" / "91热爆 Application") ac unrhyw gynnwys testun, sain a/neu fideo a arddangosir o fewn Rhaglen y 91热爆 ("Cynnwys y 91热爆") ar eich gwefan (y "Wefan"), yr ydych yn cytuno i'r telerau a bennir isod.
1. Trwydded
- 1.1 Yn amodol ar y Telerau Trwydded Safonol hyn, mae'r 91热爆 yn eich trwyddedu ar sail an-ecsgliwsif i arddangos Rhaglen y 91热爆 a Chynnwys y 91热爆 a ddarperir ac a weinir gan y 91热爆 ar eich Gwefan. Ni allwch gop茂o nac ail-gyhoeddi unrhyw ffeiliau Cynnwys y 91热爆.
- 1.2 Bydd yr holl hawliau gan gynnwys yr holl hawliau eiddo deallusol yn Nghynnwys y 91热爆 a Rhaglen y 91热爆 yn parhau'n eiddo'r 91热爆.
- 1.3 Nid yw'r drwydded hon yn cwmpasu ag unrhyw ddefnydd o unrhyw logo y 91热爆 neu unrhyw nod masnach arall y 91热爆.
Defnydd o Raglen y 91热爆
2.1 Gallwch fewnosod Rhaglen y 91热爆 ar wefannau sydd heb eu gwahardd gan y 91热爆. Mae'r categor茂au o wefannau sydd wedi eu gwahardd wedi eu nodi isod.
Mae gwefannau:
- sydd yn cam-wahaniaethu yn erbyn unrhyw gr诺p cymdeithasol penodol neu sydd fel arall yn cymryd mantais o rannau bregus o gymdeithas
- sydd yn hyrwyddo, annog neu'n hybu trais
- sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu gweithgaredd anghyfreithiol
- sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu terfysgaeth neu weithgareddau eraill sydd yn bygwth diogelwch y wlad
- ble y byddai presenoldeb Rhaglen y 91热爆 ar y wefan yn cael ei weld fel rhywbeth oedd yn niweidio enw da'r 91热爆 am gywirdeb neu ddidueddrwydd
- nad sydd yn gwbl agored i bob canran o'r cyhoedd
- sydd yn hyrwyddo'r diwydiant tybaco neu'r diwydiant arfau (gan gynnwys clybiau saethu ac ati)
- sydd yn annog casineb ar sail hil, crefydd, rhywogaeth, anabledd, oedran neu rywioldeb neu sy'n hyrwyddo, annog neu'n hybu ymddygiad gwrth-gymdeithasol
- sydd fel arall yn dwyn gwarth ar y 91热爆
wedi eu gwahardd.
2.2 Gellir defnyddio Rhaglen y 91热爆 a Chynnwys y 91热爆 at eich dibenion personol an-fasnachol yn unig ac, oni bai bo hynny wedi ei ganiat谩u'n ysgrifenedig gan y 91热爆, ni ellir eu defnyddio at ddibenion corfforaethol neu broffesiynol (e.g. mewn blogiau proffesiynol neu fasnachol neu at bwrpasau marchnata) o gwbl. Tra y gellir defnyddio Rhaglen y 91热爆 ar flog neu wefan a ariennir gan hysbysebion, ni allwch godi t芒l ar ddefnyddwyr i wylio Cynnwys y 91热爆 neu fel arall ddefnyddio neu elwa yn fasnachol ar Gynnwys y 91热爆 mewn unrhyw fodd.
2.3 Ni fyddwch yn caniat谩u i hysbysebion gael eu harddangos ar yr un sgrin 芒 Rhaglen y 91热爆 ble mae yna gysylltiad rhwng yr hysbysebion a Chynnwys y 91热爆. Os mai Rhaglen y 91热爆 sy'n cynrychioli mwyafrif y cynnwys ar unrhyw dudalen ar y wefan, neu lle na fyddai'r dudalen yn bodoli heb Rhaglen y 91热爆, byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw hysbysebion yn ymddangos ar y dudalen honno.
2.4 Ni allwch olygu, newid neu ychwanegu at Gynnwys y 91热爆 mewn unrhyw fodd, na chyfuno Cynnwys y 91热爆 ag unrhyw ddeunydd arall. Rhaid arddangos y cyfan o Gynnwys y 91热爆 o fewn Rhaglen y 91热爆. Mae'n rhaid i chi weithredu a chynnal pob cysylltiad rhwng Rhaglen y 91热爆 芒 gwefan y 91热爆.
2.5 Ni allwch awgrymu bod y 91热爆 wedi cymeradwyo neu roi ei s锚l bendith i'ch Gwefan neu i unrhyw endid, cynnyrch neu gynnwys nad sy'n rhai swyddogol y 91热爆 neu unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir ar eich Gwefan. Ni allwch honni nac awgrymu fod gennych berthynas ecsgliwsif gyda'r 91热爆 neu fel arall fod unrhyw Gynnwys y 91热爆 ond ar gael gennych chi [ar sail ecsgliwsif].
2.6 Ni allwch ddefnyddio Cynnwys y 91热爆 mewn unrhyw fodd y gall niweidio enw da'r 91热爆 neu fel arall bery unrhyw golled i'r 91热爆.
2.7 Yr ydych yn derbyn a chytuno mai'r 91热爆 sydd 芒 rheolaeth olygyddol lwyr dros holl Gynnwys y 91热爆 ar bob adeg a gall y 91热爆 newid neu ddileu unrhyw Gynnwys y 91热爆 ar unrhyw adeg fel y dymuna'r 91热爆. Yn benodol yr ydych yn derbyn a chytuno y gall y 91热爆 gyfyngu ar argaeledd Cynnwys y 91热爆 fel ei fod ond ar gael i ddefnyddwyr yn y DU yn unig.
2.8 Rhaid defnyddio Rhaglen y 91热爆 fel ei darparwyd gan y 91热爆 ac ni ellir ei newid, ei haddasu neu ei datod a'i dadansoddi mewn unrhyw fodd.
3. Gwarantau ac Atebolrwydd
3.1 Yr ydych yn gwarantu fod eich Gwefan yn cydymffurfio'n llawn 芒'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.
3.2 Gwneir Rhaglen y 91热爆 a Chynnwys y 91热爆 ar gael ar sail 'fel ag y maent' a 'fel y b么nt ar gael' ac nid yw'r 91热爆 yn rhoi unrhyw warant o unrhyw fath mewn perthynas 芒 Rhaglen y 91热爆, Cynnwys y 91热爆 neu unrhyw gynnwys ar wefan y 91热爆. I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae'r 91热爆 yn eithrio ac yn hepgor pob gwarant a awgrymir gan y gyfraith a/neu bob gwarant stadudol.
3.3 Mae'r 91热爆 wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau nad yw Rhaglen y 91热爆 ac unrhyw god meddalwedd cysylltiedig yn cynnwys unrhyw gamgymeriadau, feirws neu namau, ond, er hynny, nid yw'r 91热爆 yn gwarantu fod hyn yn wir. Yr ydych yn defnyddio Rhaglen y 91热爆 yn 么l eich disgresiwn eich hun ac ar eich risg chi eich hun ac fe'ch cynghorir i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich cyfrifiadur rhag cael ei heintio gan feirws.
3.4 I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y 91热爆 yn atebol am unrhyw golled neu niwed yr ydych yn dioddef o ganlyniad i, neu sy'n gysylltiedig 芒'ch defnydd chi o Raglen y 91热爆 neu Gynnwys y 91热爆.
3.5 Mae pob un o ddarpariaethau'r Cymal 3 hwn yn gweithredu ar ben ei hun ac yn bodoli a goroesi yn annibynnol o'r lleill.
4. Indemniad
4.1 Os digwydd i drydydd parti gychwyn achos cyfreithiol yn erbyn y 91热爆 o ganlyniad i'ch defnydd chi o Raglen y 91热爆 yn groes i'r Telerau Trwydded Safonol hyn, 'rydych yn cytuno i indemnio'r 91热爆 mewn perthynas ag unrhyw a phob iawnd芒l, costau a threuliau, gan gynnwys ff茂oedd cyfreithiol a threuliau ymgyfreitha rhesymol, a ddioddefir neu a delir gan y 91热爆 o ganlyniad i'r fath achos.
5. Terfynu
5.1 Gall y 91热爆 gyfyngu ar, atal dros dro, neu derfynu'r cyfan neu unrhyw ran o Gynnwys y 91热爆 neu eich hawl i gael defnyddio Rhaglen y 91热爆 neu Gynnwys y 91热爆 ar unrhyw adeg yn 么l disgresiwn llwyr y 91热爆 heb unrhyw atebolrwydd.
5.2 Mae Cymalau 3, 4, 5 a 6 yn goroesi terfynu'r Cytundeb hwn.
6. Cyffredinol
6.1 Ni allwch drosglwyddo neu is-drwyddedu unrhyw un o'ch hawliau neu ddyletswyddau o dan y Telerau Trwydded Safonol i unrhyw drydydd parti.
6.2 Dehonglir y Cytundeb hwn yn unol 芒 chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth ecsgliwsif llysoedd Cymru a Lloegr.
6.3 Ni ystyrir unrhyw fethiant neu oedi ar ran y 91热爆 i ymarfer ei hawliau o dan y Telerau Trwydded Safonol hyn fel ildiad o'r hawliau hynny.
Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for 91热爆 Embedding terms in English.