13 Ebrill 2011
Cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 ar 'Wedi 7' Ebrill 13
Pedair nofel, dau lyfr hunangofiannol, cyfrol o straeon byrion, cyfrol o ysgrifau a chasgliad o gerddi sydd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn eleni.
Disgrifwyd y rhestr fel un o "amrywiaeth a chyfoeth" gan un o'r beirniaid, Gerwyn Williams.
Cyhoeddwyd pa lyfrau sydd ar y rhestr ar y rhaglen deledu Wedi 7, Ebrill 13 2011, gan droi cefn ar yr arfer o wneud y cyhoeddiad o ddau leoliad, un yn y gogledd a;r llall yn y de.
Y deg llyfr a ddewisodd y tri beirniad, Simon Brooks, Gerwyn Wiliams a Kate Crockett i gystadlu am y wobr fawr o 拢10,000 yw (Cliciwch ar y teitlau i ddaren mwy amdanynt):.
- Lladd Duw , nofel gan Dewi Prysor.
- Caersaint , nofel gan Angharad Price.
- Gwenddydd gan Jerry Hunter, nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.
- Creigiau Aberdaron , nofel gan Gareth F. Williams.
- Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet gan Gwyn Thomas, yr unig gyfrol o farddoniaeth.
- C芒n yr Alarch gan William Owen, casgliad olaf yr awdur o ysgrifau.
- Cyffesion Geordie Oddi Cartref gan Tony Bianchi, casgliad o straeon byrion.
- Bydoedd: Cofiant Cyfnod , gan Ned Thomas.
- Ar F么r Tymhestlog gan Elin Haf yn disgrifio ei champ yn rhwyfo ar draws yr Iwerydd.
- Hugh Griffith gan Hywel Gwynfryn.
Wedi i'r rhestr gael ei chyhoeddi dywedodd Gerwyn Wiliams:
"Nodweddir Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 gan amrywiaeth a chyfoeth.
Amlygir yr amrywiaeth gan ystod o genres: pedair nofel gwbl wahanol i'w gilydd, dau lyfr hunangofiannol ffres, cyfrol bob un o stor茂au byrion ac ysgrifau, cofiant anarferol a chasgliad bywiog o gerddi.
Amlygir y cyfoeth gan y deunydd sy'n amrywio o'r personol i'r epig ac o'r lleol i'r rhyngwladol. Ond yr hyn sy'n gyffredin i'r deg teitl yw rheolaeth y gwahanol awduron ar eu mathau penodol o ysgrifennu. Dyma ddatganiad clir o hyder mewn ysgrifennu Cymraeg cyfoes!"
Hwn yw'r trio cyntaf i'r gystadleuaeth gaell ei threfnu yn enw Llenyddiaeth Cymru fel yr adnabyddir yr Academi ers dechrau'r flwyddyn a dywedodd y prif weithredwr, Peter Finch:
"Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn aml yn achosi cynnwrf. Mae ei ddetholiad eclectig, cyffrous ac egn茂ol yn dangos dawn ysgrifennu gorau Cymru. Nid yw'r dewis eleni yn eithriad."
Yr awduron sydd ar y rhestr hir Saesneg yw Gladys Mary Coles, Stevie Davies, John Harrison, Tyler Keevil, Patrick McGuinness, Pascale Petit, Alastair Reynolds, Dai Smith, M. Wynn Thomas ac Alan Wall wedi eu dewis gan, Francesca Rhydderch, Deborah Kay Davies a Jon Gower.
Y cam nesaf fydd didoli'r llyfrau hyn ar gyfer rhestr Fer o dair cyfrol Cymraeg a thair cyfrol Saesneg a ddatrgelir ddydd Iau, Mai 19 2011 yn Galeri Caernarfon a Bar Espresso John Lewis, Caerdydd, sy'n noddi'r gystadleuaeth.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a nos Iau Gorffennaf 7 yn Cineworld, Caerdydd.