"Dyma gasgliad o stor茂au 'hunangofiannol' . . .".
Mae'n rhaid cyfaddef bod fy nghalon wedi suddo trwy wadnau fy sgidiau yn wyneb y datganiad hwn - ond cefais fy siomi o'r ochr orau gan y gyfrol hon.
Nid stor茂au wedi eu llunio o amgylch defodau plentynod a thyfu, megis y diwrnod cyntaf yn yr ysgol, y trip Ysgol Sul, dyfodiad y teledu a thorri gwallt bob sut a geir yma, diolch byth, ond cyfrol o stor茂au gwirioneddol ddifyr am hynt a helynt yr awdur.
Mae rhai o'r stor茂au yn dwyn atgofion am blentyndod Tony Bianchi yn North Shields, rhai wedi eu lleoli yng Nghaerdydd yr unfed ganrif ar hugain ac eraill hwnt ac yma mewn lleoliadau amrywiol.
I'r rhai sy'n gyfarwydd 芒'r nofel arobryn Pryfeta, ni fydd y modd y mae'r awdur yn chwarae gyda'r ffin rhwng ffaith a ffuglen yn rhai o'r stor茂au hyn yn syndod. Ac, yn sicr, yn y gyfrol hon o waith sydd, ar y cyfan, yn adrodd hanesion mewn dull realaidd, mae ambell i gyffyrddiad digon swreal, megis y cyfeiriad at ddial yn y stori Lawr ar L芒n y M么r.
Yteulu
Yn bersonol, y stor茂au ble mae'r awdur yn darlunio aelodau o'i deulu aeth a'm bryd i. Cameos bychain yw'r rhain gan fwyaf, er y cawn gwmni ambell aelod o'r teulu, megis tad yr awdur ac Wncwl Len ac Anti Mollie am gyfnod estynedig.
Mae'r portread o Tad-cu, Thomas Nesbitt, yn, "eistedd wrth yr organ, yn tynnu'r stopiau allan" yn un arbennig.
Felly hefyd y darlun o Wncwl Len ac Anti Mollie, yn: ". . . ddiddig yng nghwmni'i gilydd, yn cloncan a rhannu atgofion fel petai hynny'r peth mwyaf naturiol yn y byd."
Wedi mynd 芒 mam yr awdur allan am bryd fel 'treat', yn dilyn ei gwaith caled dros y Nadolig, ymdeimlwn 芒 hi yn ei phryder wedi gadael ei g诺r, sy'n gaeth i'w wely, yn y t欧 ar ei ben ei hun:
". . . mae Mam eisoes yn edrych at ei wats, yn dechrau anesmwytho, er mai dim ond un o'r gloch yw hi, a dyw hi ddim wedi bwyta hanner ei chinio".
Mae yma stor茂au am gymeriadau eraill, megis 'Miskin Meg' y clirweledydd, a chyfarfyddiad ag Arkan yn un o barciau Caerdydd.
Ni does yma lawer o ysgrifennu disgrifiadol ond cyfl毛ir naws ac awyrgylch y lleoliadau a'r digwyddiadau trwy gyffyrddiadau fel: "Sandalau. Sach ysgwyddau. Bocs brechdanau. Poteli diod' yr wyresau ar ddiwrnod allan.
Y coeth a'r llafar
Mae iaith y gyfrol yn gymysgedd o'r coeth a'r llafar, cyhyrog, naturiol ac yn hawdd ei dilyn. Yn y stori olaf crybwyllir yn ogleisiol y modd y mae cenedl enwau yn gallu amrywio rhwng y de a'r gogledd: tra byddai Tony Bianchi yn mynd i'r 'tafarn', mynd i'r 'dafarn' fyddwn i.
Ac yna symudwn o'r gosodiad mai " Peth afiach yw bod yn gaeth i'r gorffennol" i "[d]dawnsio rhyw fath o gonga anfwriadol o gwmpas tafarn" y New Conway.
A hyn i gyd wrth geisio stori am y presennol, am y dwthwn hwn.
Daw broliant y gyfrol i ben gyda chyfeiriad at ein "[h]ymdrechion pitw i gadw'r bwgan draw" yng nghanol hynt a helynt ein bywydau bob dydd.
Yn sicr, mae Tony Bianchi wedi llwyddo yn ei gais i bortreadu'r ymdrech honno gyda sensitifrwydd a gonestrwydd.
Dywedodd, mewn cyfweliad yn y Western Mail, bod ysgrifennu'n Gymraeg wedi cynnig rhyddid iddo drafod pethau a phobl na fyddai efallai wedi medru eu trafod yn yr un modd trwy ysgrifennu'n Saesneg. Bu i lenyddiaeth Gymraeg gyfoes elwa oherwydd hynny.