Golygyddion creadigol yn allweddol ar gyfer y dyfodol
Elwyn Jones yw cyfarwyddwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru - dim ond y trydydd i ddal y swydd ers sefydlu'r Cyngor yn 1961.
Mae'n dilyn Alun Creuant Davies a Gwerfyl Pierce Jones a ddechreuodd gyda'r Cyngor pan oedd yn cael ei adnabod fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg.
Bu Elwyn Jones yn siarad gyda Gwilym Owen ar 91热爆 Radio Cymru am ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Yn sicr mae'n her," meddai. "Er bod rhywun yn sylweddoli y cyfrifoldeb [mae] hefyd yn edrych ymlaen yn fawr i'r sialens."
Yn enedigol o'r Bala, bu Mr Jones yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru a chwmni StrataMatrix cyn ymuno 芒'r Cyngor Llyfrau yn Swyddog Marchnata yn 1997. Er 2002 ef yw'r Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus.
Disgrifiodd cadeirydd y Cyngor, yr Athro M. Wynn Thomas, y penodiad diweddaraf fel un "rhagorol" i swydd allweddol.
"Mae gan Elwyn Jones gyfoeth o brofiad a sgiliau. Bydd hynny'n help i sicrhau dyfodol cadarn i sefydliad cenedlaethol amlwg sydd o'r pwys mwyaf o ran diogelu diwylliant Cymru yn y ddwy iaith," meddai.
Adnabod a meithrin talent
Yngl欧n 芒'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol dywedodd Elwyn Jones wrth Gwilym Owen:
"Dwi'n credu mai datblygu'r diwydiant cyhoeddi da ni eisiau'i wneud. Mae yna lot fawr wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn y ddwy iaith ond dwi'n credu ein bod ni'n gwybod hefyd bod yna gamau eraill i'w cymryd."
Ychwanegodd bod y Cyngor a'r cyhoeddwyr yn unfarn mai'r peth pwysig i'w wneud yn y Gymraeg yw buddsoddi mewn golygyddion creadigol yn y gweisg.
"Gwaith golygydd creadigol ydi adnabod a meithrin talent ifanc ar un llaw ac wedyn cydweithio efo awduron profiadol ar y llaw arall.
"A beth mae o'i gyd yn wneud ydi cryfhau y cynnyrch," meddai.
Gormod o gyhoeddi?
Yngl欧n 芒'r pryder fod gormod o bethau "na ddylai byth weld golau dydd", yng ngeiriau Gwilym Owen, yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a bod angen mwy o chwynnu dywedodd:
"Dydw i ddim yn creu eich bod chi'n wir yn fanna. Mae'n bwysig iawn bod Cymry Cymraeg yn cael yr amrywiaeth mae bron i bob darllenwr arall mewn unrhyw iaith [yn ei gael}. Mae'r amrywiaeth yna yn bwysig. "Os yda chi'n s么n bod eisiau codi safon llyfrau yna fe fyddem ni gyd wrth ein bodd yn cydweithio efo'n gilydd i wneud hynny."
Dyna, meddai, union swyddogaeth golygyddion creadigol.
"Maen nhw'n cryfhau llyfrau a dyna'r union beth sydd eisiau'i wneud," meddai.
Dywedodd mai un o'r enghreifftiau amlycaf o gymorth golygyddol yn llwyddo yw Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis.
"[Mae hi] wedi dweud ar goedd sawl gwaith mai gweithio efo golygydd ddaru gryfhau y nofel Martha Jac a Sianco - dwi'n sicr bod y llawysgrif gyntaf gan Caryl yn dda ond o weithio efo'r golygydd creadigol mi roedd hi'n troi i fod yn nofel arbennig," meddai.
Mwy a mwy o werthu
Arwydd calonogol arall o iechyd y diwydiant llyfrau Cymraeg yn 么l Mr Jones yw fod gwerthiant llyfrau Cymraeg "yn cynyddu drwy'r amser" gyda'r Nadolig diwethaf y gorau a gafwyd erioed.
"Ac mae hynny dwi'n credu yn arwydd bod y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yng Nghymru yn plesio'r farchnad ac rydym yn edrych ymlaen [yn awr] i'r Sioe Amaethyddol a'r Steddfod Genedlaethol ac mi fydd yna werthiant rhagorol dwi'n sicr yn fanno," meddai.
"Mae'r hinsawdd economaidd wedi newid rhywfaint ond yn sicr mae llyfrau yn dal i werthu," ychwanegodd.
Ymladd a brwydro
Dywedodd hefyd mai ei ddyletswydd yn ei swydd newydd fydd ymladd a brwydro dros y byd cyhoeddi.
" Da ni'n gwneud hynny dwi'n gobeithio bob amser drwy ddangos ein track record - nid gofyn am arian drwy'r amser a methu dangos ein record. Da ni'n adeiladu dwi'n credu ar sylfaen gadarn a dyna sydd bob amser yn bwysig," meddai.
Saesneg a Chymraeg
Yngl欧n 芒 "gofalu" am ochr Saesneg yn ogystal ag ochr Gymraeg y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru dywedodd:
"Mae'r Cyngor yn cynrychioli'r byd cyhoeddi yng Nghymru ac mae hynny yn sicr yn cynnwys y ddwy iaith. Hynny yw, mae'n bwysig iawn bod darllenwyr yng Nghymru ym mha bynnag iaith maen nhw'n ddarllen yn cael llyfrau sydd yn ymwneud 芒 Chymru ac yn rhoi stori Cymru i'r darllenydd ac felly mae yr un mor bwysig ein bod yn datblygu cyhoeddi yn y ddwy iaith ochr yn ochr.
"Dydy nhw ddim bob amser yn mynd yn yr un cylch amserol ond mae'n sicr ein bod ni yn datblygu y ddwy," meddai.