91热爆

Elwyn Jones - holi cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru

Elwyn Jones

13 Gorffennaf 2009

Cyfarwyddwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru yn ateb ein cwestiynau am lyfrau a 'ballu

  • A wnewch chi ddweud ychydig am eich swydd newydd?
    Yr wyf newydd fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru a byddaf yn ymgymryd 芒'm dyletswyddau newydd ym mis Tachwedd.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Bum yn ddirprwy drefnydd Eisteddfod yr Urdd ac yn Swyddog Marchnata gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus Stratamatrix. Ymunais 芒'r Cyngor Llyfrau yn 1997 fel Swyddog Marchnata.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • O'r Bala.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Aberystwyth.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Bu'r cyfnod yn Ysgol Gynradd Y Bala ac Ysgol y Berwyn yn gyfnod hynod o hapus. Treuliais bedair blynedd yn astudio Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin - amser difyr iawn.

  • Beth sy'n eich calonogi am gyhoeddi yng Nghymru?

  • Brwdfrydedd awduron, cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr Cymru sydd bob amser eisiau'r gorau i'r darllenwyr.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Roeddwn wrth fy modd yn darllen y straeon amrywiol yng nghyfrolau Llyfr Mawr y Plant - yn enwedig stori Wil Cwac Cwac.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Daeth ailgyhoeddi casgliad o'r straeon 芒 nifer o atgofion melys yn 么l.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Anodd iawn enwi un ond rwy'n edmygu gwaith Caryl Lewis, Wiliam Owen Roberts ac Aled Jones Williams yn arw.
    Yn Saesneg, mae ysgrifennu sensitif Stevie Davies a Lloyd Jones yn ysgytwol.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Fe wnaeth nofel Marged, T Glynne Davies argraff ddofn arnaf pan oeddwn yn yr Ysgol Uwchradd.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Myrddin ap Dafydd - 芒'i ddawn i gyflwyno gwirioneddau mewn iaith syml.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Y Clwb Jazz, Dafydd John Pritchard - sy'n dod ag atgofion melys yn 么l.

  • Pa un yw eich hoff linellau o farddoniaeth?

  • Hen linell bell nad yw'n bod
    Hen derfyn nad yw'n darfod.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Ffilm - Twelve Angry Men.
    Teledu - Teulu.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff gymeriad - Winni Ffinni Hadog.
    Cas gymeriad - Mrs Danvers - Rebecca, Daphne du Maurier.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Deuparth gwaith yw ei ddechrau.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Dawn Caryl Lewis gyda geiriau a dawn Bryn Williams yn y gegin.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Brwd,
    Penderfynol,
    Cyfeillgar.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Gwynfor Evans - am ei gred di-syfl yn nyfodol Cymru a'r Gymraeg.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Cerdded hefo Nelson Mandela i'w ryddid.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • George Bush - Pam na wnest ti wrando?


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Sgallops i ddechrau, ffiled oen a phwdin lemon mam - a hynny yng nghwmni ffrindiau.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Darllen wrth gwrs ac arbrofi wrth goginio.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Coch, Gwyn a Gwyrdd.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Amryliw.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Caniat谩u i Elwyn Jones yrru'n gyflymach ar draffyrdd!

  • Oes yna ddyfodol i lyfrau?

  • Oes yn sicr. Fe fydd llyfrau printiedig ac e-lyfrau i'w cael ochr yn ochr am flynyddoedd ac yn rhoi'r un pleser ag erioed i ddarllenwyr.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.