91热爆

Ioan Kidd - 'Un o Ble Wyt Ti?'

Rhan o glawr y llyfr

07 Tachwedd 2011

Adolygiad o Un o Ble Wyt Ti?, nofel gan Ioan Kidd. Gomer. 拢8.99.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf bu mynd 芒 dod mawr rhwng yr Ariannin a Chymru. Athrawon o Gymru yn mynd i fwrw tymor ymhlith Cymry Patagonia a dysgwyr o Batagonia yn cyrchu am yr 'Hen Wlad' i gryfhau eu Cymraeg a blasu peth o hen win eu cynfyd,

Cyhoeddwyd nofel am y naill yn 2006, Glas gan Hazel Charles Evans, ac wele'n awr Ioan Kidd yn mynd i'r afael a'r profiad Patagonaidd o Gymru yn ei bedwaredd nofel.

Mae'n cael ei disgrifio fel stori "am y berthynas arbennig rhwng Cymru a'r Wladfa" ond mae hi'n fwy na hynny mewn gwirionedd a'i phwyslais ar berthynas pobl 芒'i gilydd waeth o ble maen nhw'n dod.

Clawr y llyfr

Mae rhywun yn blino dweud hyn ond rhaid ymddiheuro am ymatal unwaith eto rhag s么n gormod am y stori ei hun - rhag difetha'r llyfr i ddarllenwyr - gan gyfyngu'r sylwadau i fawr mwy nag a ddywedir ar y clawr.

Mae'r nofel yn cychwyn gyda Luis Arturo Richards 29 oed yn cyrraedd maes awyr Caerdydd wedi cefnu ar ei fywyd gyda'i gariad, Gabriela, yn Buenos Aires i chwilio am ei wreiddiau a lleddfu anniddigrwydd sy'n ei fywyd.

"Roedd dod i Gymru i fod i'w helpu i ddeall pwy oedd e a beth oedd e am ei wneud 芒'i yrfa ddisglair ar 么l dychwelyd i'w wlad ei hun," meddir yn y nofel.

Dim croeso

Ond ar sawl gwedd dyw Cymru ddim yr hyn roedd e'n ei ddisgwyl a'i brofiad cyntaf o'r wlad, yn y maes awyr, yn un anghroesawgar iawn a'i phobl hefyd yn wahanol i'r hyn a dybiasai.

Erbyn diwedd y nofel "roedd dod i Gymru wedi codi llawn cymaint o gwestiynau ag o atebion".

Ar ben hynny y mae yn y Gymru annisgwyl hon gyfrinach deuluol ysgytwol i'w datgelu.

Mae cryn ddryllio delwau.

Cychwyn ei arhosiad yng Nghymru ar aelwyd Llinos a Gerallt Morgan lle mae Luis yn talu am ei lety gyda gwersi Sbaeneg i'w mab Tomos.

Trwy'r teulu, ac wedi i'w berthynas ag ef chwalu, daw i adnabod mewn amryfal ffyrdd griw o Gymry digon brith, Lynwen sy'n cadw gwesty, Kayleigh sy'n gweithio mewn cartref henoed a Siwan Gwilym, ffotograffydd dlos sy'n peri inni amau tybed a yw dyddiau Gabriela wedi eu rhifo.

Caerdydd a Dyffryn Afan yw'r lleoliadau pwysig ond trwy Luis yr ydym yn cael hefyd gip ar yr Ariannin a'r gymuned Gymraeg yno.

Ac ar ben arall y ff么n, wyth mil o filltiroedd i ffwrdd yn Nhrelew, y mae mam Luis yn gymeriad pwerus, er nad yw'n 'ymddangos' yn y nofel fel petai.

Ond mae ei darlun rhamantaidd o Gymru ac o arwriaeth teuluol sy'n ymestyn yn 么l i ddyddiau cynnar sefydlu'r Wladfa pan ddihangodd yr aelod cyntaf o'r teulu yno yn bethau y mae'n rhaid i Luis ddod i delerau a nhw.

Yn waeth nag mewn bywyd go iawn hyd yn oed; does yna ddim byd yn syml mewn nofel ac mae hynny'n wir am Un o Ble Wyt Ti?.

Wrth fynd drwy'r hanes mae Ioan Kidd yn tynnu llun digon anghysurus, a chrafog weithiau, o elfennau o fywyd ein gwlad a'i phobl ac yn anffodus yr ydym yn adnabod yr elfennau hynny yn ein Cymru go iawn ninnau hefyd.

Yn cydio

Dyw UOBWT? ddim yn nofel sy'n carlamu'n wyllt tua'i threfnu ond yn rhyw ddadweindio'n araf deg ond y mae hi serch hynny yn cydio a'r cymeriadau yn ein denu a rhai ohonyn nhw a chyfrinachau yn eu cypyrddau.

Weithiau, fodd bynnag, teimlwn y gellid fod wedi tynhau rhywfaint ar y ddeialog yn y mannau hynny o f芒nsiarad.

Dydw i ddim yn si诺r ychwaith a fu'r awdur yn gwbl lwyddiannus yn gosod yr acen a'r idiom Batagonaidd unigryw ar bapur. Caiff well hwyl gyda'r acenion Cymreig.

Yr hyn sydd gan y nofel i'w gynnig yn arbennig yw ei golwg ar berthynas pobl 芒'i gilydd - gydag ambell i, wel ddwedai ddim pregeth, ond ambell i foeswers bwrpasol yn cael ei chynnwys bob hyn a hyn.

Yn gelfydd iawn mae taith Luis i ddod i adnabod ei hun a wynebu ei ansicrwydd a'i amheuon personol yn fodd i'r cymeriadau eraill y mae'n eu cyfarfod ddod o hyd i'w 'hunan' hwythau hefyd ac mae dewis anhwylus i'r Archentwr ifanc i'w wneud ar y diwedd.

Nofel n锚t fyddai rhywun yn ei ddweud.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.