91热爆

D Geraint Lewis - thesawrws i blant

Rhan o glawr y llyfr

18 Mawrth 2011

  • Gwerthfawrogiad o Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i blant gan D. Geraint Lewis Gwasg Gomer. 拢8.99.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888 - neu Gwrecsam fel yr oedd yr adeg honno - yr oedd yna gystadleuaeth llunio casgliad o "gyfystyron" y Gymraeg gyda'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn beirniadu - ef, wrth gwrs, wedi cyhoeddi ei eiriadur Cymraeg poblogaidd erbyn hynny.

Pump gystadlodd a chyhoeddwyd yr ymgais fuddugol o eiddo Griffith Jones (Glan Menai) dan y teitl, Cyfystyron y Gymraeg.

Llyfryn bychan sy'n ffitio i boced gesail ydi o ac iddo 144 o ddalennau.

Mewn "sylwadau arweiniol" mae'r awdur yn egluro beth yw geiriau cyfystyr:

Sef, ". . . y cyfryw rai, er meddu ohonynt debygolrwydd mawr a hanfodol o ran ystyr, a feddant ar yr un pryd wahaniaeth bychan, israddol, a rhanol-gwahaniaeth parth tarddiad neu arferiad; neu y cyfryw wahaniaeth y mae yn bosibl iddynt ei dderbyn oddiar law athrawon doeth a medrus yn yr iaith."

Whiw!

Wn i ddim os mai dyma thesawrws cyntaf yr iaith Gymraeg ond mae'n amlwg i w欧r da Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888 weld, wrth osod y gystadleuaeth, bwlch yr oedd angen ei lenwi.

Tan y cyfnod diweddar ma fu'r Gymraeg ddim yn gyfoethog iawn ei geiriaduron. Bu'n dlotach fyth ei thesawr茂au a bu'n rhaid disgwyl tan 1993 nes cyhoeddi Y Thesawrws Cymraeg - Y Drysorfa Eiriau gan Wasg Pobl Cymru, Abertawe.

O edrych ar y cyhoeddiadau hyn a chymharu 芒'r hyn sydd ar gael yn y Saesneg un peth sy'n taro rhywun yn syth yw bod y Saesneg hefyd gryn dipyn yn gyfoethocach - os dyna'r gair - na'r Gymraeg yn ei chyfystyron neu yn ei stoc neu st么r o eiriau sydd yn ymylu ar olygu yr un peth.

A hynny'n aml yn peri cur pen i'r amryfal gyfieithwyr neu droswyr sydd yn ein plith - a'u gorfodi weithiau i fathu geiriau Cymraeg i ddygymod a'r hunllef hon o amlder geiriau am yr un peth, ddigon agos.

Yn sgil hynny y daeth opsiwn, er enghraifft,r yn air mor boblogaidd ei ddefnydd er bod gennym ni'n barod y gair dewis - ond o holi'r Opsiynwyr, fel petai, egluro'r gwahaniaeth rhwng opsiwn a dewis allan nhw ddim.

Gallem ddweud yr un peth am Rules a Regulations.

A dyna'r llwybr a ddilynodd yr hyllbeth negydu i'r iaith am i rywun gredu nad oedd trafod yn gwneud ei waith yn iawn.

Mae Griffith Jones yn ei Gyfystyron yn lled gyffwrdd a'r mater diddorol ai arwydd o nerth ynteu o wendid mewn iaith yw bod iddi luosogrwydd geiriau yn golygu bron iawn yr un peth.

"Gwastraff noeth ar iaith," medda fo, "ydyw fod dau air yn golygu yn gyfangwbl yr un peth - cymeryd dau neu ychwaneg o eiriau tra gellid cyfleu yr un syniad gydag un gair."

Ond gw锚l ochr arall i'r geiniog hefyd:

"O'r tu arall, cyfoethogir iaith yn fawr pan lwyddir gyda dau neu ychwaneg o eiriau a ddefnyddid unwaith yn ddiwahaniaeth i osod iddynt eu tiriogaeth briodol eu hunain, dros derfynau yr hon ni feiddient gamu, ac ar yr hon ni feiddia eraill ormesu."

A dyna ichi Whiw! arall wrth iddo gamu mlaen i s么n am "athrylith weithiol iaith" yn peri i gyfystyron "syrthio yn ddiarwybod oddi wrth eu gilydd ac i feddu ystyron gwahanol a neilltuol," gan ddyfynnu awdurdod Saesneg ar y pwnc o'r enw, Trench.

Clawr y llyfr

A chyn i ni gael ein hunain yn sownd mewn ffos gwell prysuro at Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant gan D Geraint Lewis, awdur sy'n gryn gymwynaswr yn y maes hwn ac yn un sydd, yn 么l y cyhoeddwyr, Gomer, yn "byw a bod yng nghwmni geiriau" ac yn awdur "llu o lyfrau iaith defnyddiol".

Mae patrwm Mewn Geiriau Eraill yn un hwylus iawn gyda defnydd pob gair yn cael ei egluro yn gyntaf trwy ei ddefnyddio mewn brawddeg.

Yna, dangosir geiriau eraill tebyg o ran ystyr mewn blychau cochion.

Gyferbyn 芒 chroes werdd nodir hefyd eiriau croes eu hystyr a chyferbyn 芒 llun o chwyddwydr cyfeirir y defnyddiwr at wybodaeth bellach.

Defnyddir bwlb trydan yn olau i dynnu sylw at briod-ddulliau sy'n defnyddio'r gair dan sylw.

Mae'r cyfan yn hwylus, yn atyniadol ac yn hawdd ei ddilyn.

Felly, gyda'r berfenw aflonydd cawn frawddeg, wedyn y geiriau cyfystyr, bywiog, prysur, anesmwyth, anniddig ac afreolus; y croes ystyr llonydd a chyfarwyddyd i edrych hefyd dan bywiog.

Fy hun byddwn wedi gweld hwn yn gyfle i gynnwys y gair gogrwn hefyd a chynrhoni a ddefnyddir yn aml i gyfleu aflonyddwch yn y gogledd.

Mae hynny'n gwneud imi synhwyro mai deheuol, yn gyntaf, yw islais y gyfrol hon er bod nifer o ymadroddion gogleddol yn cael lle cwbl haeddiannol hefyd.

Er enghraifft y defnydd o achwyn sy'n cael ei gynnig yw'r un o gwyno a grwgnach gyda canmol yn groes ystyr.

Ond er y cynigir swnian fel gair am "achwyn yn uchel (yn y Gogledd)" anwybyddir yr ystyr gogleddol o gario straeon neu chwidlo - "Roedd Huw yn un drwg am achwyn ar ei gyfeillion wrth yr athro."

Rhan o ddwy ddalen yn y Thesawrws

Ond awn ni ddim i chwalu rhagor o fanus gan ei bod yn amlwg ar yr olwg gyntaf y bydd y gyfrol hon yn un hynod ddefnyddiol mewn ysgol a chartref a'i diwyg - a'i defnydd ystyriol o liw - yn sicr o'i gwneud yn un atyniadol i blant ac yn un i bori ynddi yn ddiddiwedd.

Hoffais yn arbennig y defnydd o banelau melyn i gynnwys gwybodaeth ychwanegol am rai geiriau.

Er enghraifft, dan y pennawd anifail mae rhestr o ddywediadau am anifeiliaid. Pethau fel; Mor addfwyn ag oen, mor ara deg 芒 malwen; mor bigog 芒 draenog, mor brysur 芒 morgrugyn ac yn y blaen.

Wedyn dan bwrw / curo / taro/ mae enghreifftiau o wahanol ffyrdd o fwrw fel cicio, cnocio, cledro, chwipio, ffustio, morthwylio, [ond dim 'gorddio'] penio, ergydio, llorio a geiriau penodol ogleddol fel pannu, colblio, waldio, rhoi stid i, leinio ochr yn ochr 芒 geiriau deheuol fel hemo, wado, colbo, pwno, rhoi coten i, rhoi bonclust i.

Wn i ddim beth mae o'n i ddweud amdanom fel cenedl bod hwn yn faes mor hynod 'gyfoethog' ac fe ellid fod wedi ychwanegu clustan, peltan, dwrn, bonclust ymhlith eraill at y rhestr!

Heb os mae cyfoeth rhwng cloriau'r llyfr hwn a ddyluniwyd yn glir a hwylus. Mae'n cloi gyda mynegai sy'n hwyluso'r gwaith o ddod o hyd i eiriau perthnasol.

Er mai ar gyfer plant oed cynradd mae Mewn Geiriau Eraill yn benodol ac wedi ei fwriadu i'w ddefnyddio ochr yn ochr 芒 Geiriadur Cynradd Gomer, bydd rhai o bob oed yn gweld iws iddo a dylai fod o gymorth mawr i ddysgwyr.

Ac mae hynny hefyd yn addas o gofio mai un o Ynys-y-b诺l, Morgannwg, ydi D Geriant Lewis ac wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ei hun.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.