Adolygiad Gyn Evans o Byw yn y Wlad - y ffotograffydd yng nghefn gwlad 1850 - 2010 gan Gwyn Jenkins. Cyfrol ddwyieithog. Y Lolfa. 拢14.95.
Beth oedd yna i bobl ers talwm ei wneud gyda'r nosau hirion y gaeaf cyn bo na radio, heb s么n am deledu, i'w difyrru.
Tybed oes yna awgrym o ateb yn nau o luniau'r gyfrol ddifyr hon.
Griff Davies a'i wraig, fferm Parc-y-neithur ger Cilgerran, Penfro, gyda'u saith merch ac un mab ar y buarth yn 1910 ar dudalen 45.
Ac ar dudalen 22 torllwyth arall o blant y tu allan i ffermdy yn Chwiliog yn cael tynnu eu llun gan John Thomas tua 1885.
"Tystia un ffermwr fod ganddo saith o blant, gyda dau ohonynt yn ei gynorthwyo ar y fferm; byddent yn codi am 5.30 y bore, mynd i'r ysgol erbyn 9 o'r gloch, a'i gynorthwyo eto wedi iddynt ddod adref," meddir.
Y gnoc ar y drws heddiw fyddai rhywun o'r NSPCC si诺r o fod!
Fel y bu
Un o'r cyfrolau dangos sut mae pethau wedi newid hynny ydi hon ac un ddifyr ydi hi hefyd. Y lluniau wedi eu casglu ynghyd gan Gwyn Jenkins a fu ar un adeg yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol n Aberystwyth.
Ef yw awdur cofiant Huw T Edwards, Prif Weinidog Answyddogol Cymru a enillodd ei le ar restr Llyfr y Flwyddyn 2008.
Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon o'i eiddo wedi ei rhannu yn bum rhan; Byd yr amaethwr, Prynu gwerthu ac arddangos, Byw yn y wlad, Hela, hamdden a digwyddiadau a Teithio ac ymwelwyr.
Mae llun ar bob dalen a brawddeg neu ddwy amdano ac enw'r tynnwr lluniau.
Er bod lluniau o bob rhan o Gymru, mae'r rhan fwyaf o Bowys a'r de orllewin.
Go brin iddyn nhw dybio hynny ar y pryd ond erbyn heddiw mae'r datblygiadau ffotograffig a welwyd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen yn adnodd y tu hwnt o werthfawr i'r hanesydd - ac yn ffrwyth pleser i ninnau hefyd.
Yn Gymry
Diddorol cael ein hatgoffa yn y gyfrol hon fod i'r Cymry eu rhan yn y chwyldro hwnnw.
"Mae'r ffotograffwyr - y rhan fwyaf ohonynt yn Gymry pybyr - sydd wedi crwydro cefn gwlad dros y blynyddoedd yn amlwg yn adnabod eu cynefin yn drylwyr," meddai Gwyn Jenkins.
"Maent wedi ymateb yn reddfol i ysblander y golygfeydd a bywiogrwydd y gymdeithas, ond nid ydynt chwaith wedi osgoi adlewyrchu caledi bywyd y werin bobl o ddydd i ddydd," ychwanega.
Mae'r rhan fwyaf o'r lluniau yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol ond mae yma luniau hefyd gan rai sy'n dal wrth y gwaith fel Marian Delyth, Arvid Parry-Jones a Raymond Daniel.
Ar bobl y mae'r pwyslais, eu defnydd o dechnegau amaethyddol a'u ffordd o fyw yn werin, yn fonedd ac yn weision i fonedd fel y llun ar ddalen 85 o weision crand y Faenol ger y Felinheli yn eu lifrai.
". . . ni chyflogwyd gweithwyr lleol ar gyfer y gwaith hwn," meddir. "Deuai'r coetsmyn a'r gweision lifrog o Loegr neu o'r gogledd ddwyrain."
Fel yr oedd yn ofynnol yn nyddiau cynnar y camera - ac mae'n werth darllen cyfrol Iwan Meical Jones am y tynnwr lluniau arloesol John Thomas, Hen Ffordd Gymreig o Fyw , i gael gwybod mwy am hyn - lluniau wedi eu gosod yw nifer o'r lluniau cynnar gyda'r bobl wedi eu hamlwg roi i sefyll yn daclus ar gyfer y llun a hwythau wedi dilladu eu hunain ar gyfer yr achlysur ac yn sythu fel sowldiwrs weithiau.
Mae'r llun ar y clawr yn dangos hynny.
Ni all rhywun ond dychmygu diwrnod pa mor fawr oedd hwn yn eu bywyd. Rhaid iddynt fod yn siarad am y peth am fisoedd a blynyddoedd wedyn!
Heb yn wybod
Er yn ddiddorol, fodd bynnag, difyrrach fyth yw'r lluniau hynny a dynnwyd heb yn wybod i'r gwrthrych megis y ffermwyr yn bargeinio yn arwerthiant defaid Pontarfynach (tud. 69) neu'r ymateb i'r ceffyl hardd Wenlock Tysul yn ffair Glamai Y Bala, 1952 (73).
Wedyn, mewn llun a dynnwyd ddiwrnod agored hufenfa Rhydymain yn 1954 mae'n ddiddorol gweld sut mae rhai yn y llun yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd ond eraill 芒 mwy o ddiddordeb yn yr hyn mae'r dyn efo'r camera yn ei wneud!
Un peth sy'n sicr mae i bob llun ei stori ac mae'n braf gadael i'r dychymyg greu ei stori ei hun hefyd.
Dychmyger y sgwrs wedi i'r tynnwr lluniau adael rhwng y dyn a'r tair gwraig yn y llun ar ddalen 86 - hen 欧d y wlad yn wir yn wynebu gydag amheuaeth fygythiol bron y ddyfais newydd a fyddai'n eu fferru am byth. Un a'i gafael yn dyn yn y llidiart o'i blaen.
Lladd ar helwyr
Ddeuai rhywun byth i ben a dechrau s么n am y lluniau i gyd - ond rhaid imi, o safbwynt atgof personol, gyfeirio at un. Nid am ei fod yn llun arbennig o dda ond am yr hyn sy'n cael ei ddweud ynddo.
Cofiaf y llun hwn a rhai eraill tebyg iddo yn cyrraedd swyddfa'r Cymro mewn amlen oddi wrth Geoff Charles yn dilyn protest yn erbyn hela dyfrgwn yn 1968 a rhai o'r protestwyr yn erbyn yr hela yn dangos posteri gyda'r geiriau bendigedig, "Cachgwn sy'n hela dyfrgwn".
Slogan na allai ond bodoli yn y Gymraeg ac a roddai rai eraill y prynhawn fel "Put an end to this babarity" a "Down with blood sport" yn y cysgod.
Braf medru dweud i'r floedd gael ei chlywed ac nad oes gan yr un cachgi yr hawl i hela'r un dyfrgi erbyn heddiw!
Daw y lluniau ag atgofion gwahanol i eraill - myrdd ohonyn nhw a dyna bleser y pori.