- Y S锚r: Michael Sheen, Dennis Quaid, Helen McCrory a Hope Davis.
- Cyfarwyddo: Richard Longcraine.
- Sgrifennu: Peter Morgan.
- Hyd: 88 munud
Rhwng dau
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Yn gynharach yn yr Hydref ar 91热爆2, dangoswyd y drydedd yn nhrioleg Peter Morgan o'i gyfres am Tony Blair, The Special Relationship, ac os colloch chi hwnnw mae'r ffilm gyda pherfformiad trydanol arall gan y Cymro Michael Sheen yn awr ar DVD.
Yn dilyn astudiaethau o'r gystadleuaeth gynnar rhwng Blair (Michael Sheen) a Brown (David Morrissey) yn The Deal (2003), a'r dylanwad gafodd y Prif Weinidog ar y Frenhines (Helen Mirren) yn sgil marwolaeth y Dywysoges Diana yn The Queen (2006), y tro hwn dyma benderfynu canolbwyntio ar y cyfeillgarwch gwleidyddol rhwng Blair a Bill Clinton (Dennis Quaid) - perthynas gaiff ei chyflwyno fel rhamant a aeth o chwith, ac sy'n rhannol egluro'r penderfyniadau mawrion a wnaethpwyd yn sgil hynny, gan gynnwys mynd i ryfel yn Iraq ac Afghanistan.
I ddechrau, caiff Blair ei gyflwyno'n canlyn Clinton, ac yn ceisio efelychu'i arwr. Yna, ar 么l derbyn s锚l bendith "Bill", datblyga cyfeillgarwch strategol rhyngddynt sy'n siwtio'r ddau ddyn - am resymau personol a PR.
Gogledd Iwerddon
Daw traddodiad y "Berthynas Arbennig" rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau yn ddefnyddiol iawn pan fo angen cymorth Clinton i sicrhau etifeddiaeth wleidyddol y ddau wrth hawlio heddwch yng Ngogledd Iwerddon, ond pan lithra coron foesol Clinton, diolch i'w berthynas 芒 Monica Lewinsky, datblyga rhwyg yn y berthynas a ddyfnheir gan oedi mawr yr Americanwr i ymrwymo'n llwyr i ryfel yn Kosovo.
Yn 么l yr awdur Peter Morgan, y frwydr hon - yn fwy na dim - sy'n cynrychioli'r trobwynt mwyaf ym mherthynas y ddau ddyn - ac ym meddwl y Prif Weinidog - wrth i arweiniad cadarn gan Blair yn erbyn Slobodan Milosevic ddenu clod rhyngwladol, a chadarnhau ei gred fod gweithredu milwrol yn erbyn unben eithafol yn bolisi cyfiawn ac effeithiol.
Tua diwedd y ffilm, wrth i George W Bush ddisodli Clinton a chael y gorau ar Gore, caiff Bill y cyfle i holi Tony yngl欧n 芒'i deyrngarwch gwleidyddol, a does gan y Blair blinedig ddim barn gadarn.
Ond wrth i'r ffilm orffen ag archif newyddion o ymweliad cyntaf Blair 芒 Bush, fe welwn ni o'i w锚n lydan a chynnwrf bachgennaidd yr hyn ddeallodd Clinton o'i ymateb amwys - fod yn rhaid i'w Bramant ddod i ben os yw'r "Berthynas Arbennig" am barhau.
profiad rhyfedd
Mae'n brofiad rhyfedd gwylio portread o ddigwyddiadau hanesyddol sy'n dal o fewn cof diweddar ond diolch i berfformiadau cynnil a chrefftus gan bob un o'r prif gast, yr argraff drosgynnol a geir wrth wylio The Special Relationship ydy mai stori ddynol iawn sydd wrth wraidd y saga hon, sy'n ein tywys y tu 么l i'r llenni llywodraethol.
Fel gyda'r ffilmiau eraill, dyw hi'n cymryd braidd ddim i'r actorion ein darbwyllo mai nhw yn wir yw'r ffigurau dan sylw, ac yn ymuno 芒 Michael Sheen a Helen McCrory y tro hwn y mae Dennis Quaid a Hope Davis fel Bill a Hillary Clinton - dau actor sy'n cyfrannu haenen sylweddol o emosiwn i'r ffilm diolch i'w dehongliad o briodas dan bwysau.
Sheen yn seren
Ond Michael Sheen yw seren y sioe, wrth lwyddo i gyflawni gwyrth a chyflwyno Tony Blair fel g诺r meidrol a hoffus.
Os am ragor o ffantasi, gwyliwch amdano yn y blocbyster 3-D Tron: Legacy - yn 么l yr actor ei hun, mae e'n chwarae "fersiwn albino o Ziggy Stardust" yn y dilyniant hir ddisgwyliedig o'r clasur cyfrifiadurol Tron (1982), sydd allan dros y Nadolig.