91热爆

Fantastic Mr Fox

Golygfa o'r ffilm

24 Hydref 2009

PGPedair seren

  • Y S锚r: George Clooney, Meryl Streep, Bill Murray, Jason Scheartzman, Michael Gambon. .
  • Cyfarwyddo: Wes Anderson.
  • Sgrifennu: Addasiad o lyfr Roald Dahl (1970) gan Wes Anderson a Noah Baumbach.
  • Hyd: 87 munud

Teirgwaith gwaeth nag Eban Jones!

Adolygiad Glyn Evans.

Yng ngwlad Si么n Blewyn Coch, Nel Trwyn Tamp a Si芒n Slei Bach byddai rhywun yn disgwyl diddordeb mawr yn y ffilm hon am frwydr barhaus "Mr Fox" a thri ffermwr diwydiannol.

Ac yn wir o ran pryd, gwedd a dilladu mae Mr Fox yn atgoffa rhywun o rai o luniau Peter Fraser yn y Llyfr Mawr y Plant cyntaf a gyhoeddwyd yn 1932!

Ond mae'r archelynion Boggis, Bunce a Bean yn Fantastic Mr Fox yn rhai tra gwahanol i'r tyddynwr Eban Jones yr oedd Sion Blewyn Coch a Sian Slei Bach yn sleifio i'w gwt ieir yn y Tridegau. Nid yn unig mae yna deirgwaith mwy ohonyn nhw ond maen nhw hefyd deirgwaith teirgwaith yn fwy sinistr na'r ffermwr o Gymro a'i wn haels.

Boggis and Bunce and Bean
One fat, one sgort, one lean
These horrible crooks
So different in looks
Were none the less equally mean
oedd y limrig a luniodd Roal Dahl i'w disgrifio yn ei lyfr Fantastic Mr Fox a gyhoeddwyd yn 1970.

Gwerinwr gwledig

Tra bo Eban Jones yn werinwr gwledig yn crafu bywoliaeth ar erwau Eryri perchnogion ffatr茂oedd da pluog enfawr ydi Boggis, Bunce a Bean. Triawd ariangar, cas, brwnt a hafin wedi ymrwymo i gael gwared 芒 Mr Fox (George Clooney) a'i deulu sydd newydd symud i'w tiriogaeth.

A thra bo rhywbeth yn hwyliog a chartrefol yn rhyfel y Blewyn Coch ag Eban Jones nid oes ond ariangarwch a dialedd creulon yn gyrru'r BBB i ddistrywio Mr Fox.

Dan arweiniad Mr Bean (Michael Gambon) sy'n byw ar ddim ond seidr cryf y mae'n ei fragu nid oes dyfais erchyll y maent yn fodlon ei hanwybyddu i gael y llaw uchaf.

Bean heb os yw'r creulonaf o'r tri yn edrych, pan welwn ef gyntaf gyda'i wn luger yn ei law fel poster ffilm James Bond a wyneb heb fod yn annhebyg i un Spitting Images Norman Tebbit ganddo.

Arwyr a dihirod

Er bod y stori yn ei hanfod yn driw i nofel Dahl mae'r ffilm gyfandir o'r nofel gyda'r prif gymeriadau yn Americanwyr rhonc.

Ond fel sy'n digwydd mor aml gyda chynyrchiadau Americanaidd Saeson ydi'r dihirod - a does dim amheuaeth ym meddwl neb nad y ffermwyr yw'r rheini.

Siarad dros yr 'uneatable' yn erbyn yr 'unspeakable' mae hon.

Yn y stori cred Mrs Fox (Meryl Streep) fod ei g诺r wedi troi ei gefn ar ddwyn da pluog er mwyn canolbwyntio ar sgrifennu colofn bapur newydd - ond y gwrthwyneb sy'n wir a heb yn wybod iddi hi mae'n ymwelydd cyson a ffatr茂oedd ieir, hwyaid a gwyddau Boggis, Bunce a Bean.

"Sut y gall llwynog fod yn hapus," meddai, "heb gyw i芒r yn ei safn?"

A hynny sy'n enyn llid y tri ffarmwr sy'n ymroi i ddinistrio cartref newydd y cadnoid a difa'r preswylwyr.

Er bod Mr Fox gam ar y blaen i'r dinistrwyr fe gyrraedd awr yr argyfwng olaf iddo ef, ei deulu a'i gyfeillion anifeilaidd eraill sy'n cynnwys Badger ei dwrnai (Bill Murray).

Yn hwyl

Mae'r ymlid a'r dinac dan ddaear yn wych ac yn lot o hwyl ond y mae Fantastic Mr Fox yn cynnig mwy na rhedeg a rasio Tom-an-Jeriaidd wrth i faterion cymdeithasol fel cytgord teuluol, cyfrifoldebau rhiant ac yn y blaen amlygu eu hunain a'r anhawster a wynebir wrth i 'bobl' geisio newid eu natur.

Hyn, wrth gwrs, yn gwneud hon yn fwy na ffilm blant ond yn un y gellir cnoi cil arni os dymunir.

Ac i'w gwneud yn haws inni adnabod ein hunain yn y cymeriadau mae'r holl anifeiliaid yn y ffilm wedi eu dynoli - Mrs Fox gyda bronnau yn y lle priodol dan ei ffrog - ond Mr Fox yn ein hatgoffa deirgwaith, bedair, "mai anifeiliaid gwylltion ydym ni" yn y gwraidd a hynny'n cael ei adlewyrchu yn drawiadol iawn yn y ffordd y mae'r cymeriadau sw芒f, un munud, yn slaffio'u bwyd oddi ar blatiau.

Dydi Fantastic Mr Fox gyda'i holl wahanol onglau ddim beth fyddai rhywun wedi'i ddisgwyl ac am unwaith mae hynny'n ei gwneud yn well ffilm na'r disgwyl.

Byddai Sion Blewyn Coch - ac Eban Jones hefyd - rwy'n si诺r, yn gwylio gyda diddordeb mawr.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.