|
|
Trychineb
9:11 ac United 93
Dau fyd yn parhau i gamddeall ei gilydd |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Mehefin 4, 2006
United
93
Y mae rhyfeddod teithio ein byd modern yn caniat谩u i rywun fel fi
droedio o gwmpas Ground Zero yn Efrog Newydd brynhawn Llun
ac eistedd mewn sinema ym mhrifddinas Cymru brynhawn Iau'r un wythnos.
Yr wythnos hon, cefais achos i feddwl am deithio drwy'r awyr.
Cofio 9:11
Dau ddigwyddiad hanesyddol sy'n caniat谩u imi gofio, dros ystod deugain
mlynedd o'r bron, beth yn union yr oeddwn yn ei wneud pan ddigwyddodd
y pethau hynny.
Y mae'r ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig 芒'r Unol Daleithiau.
Roeddwn yn blentyn bach pan glywais dros radio fan chips Trawsfynydd
am lofruddio Kennedy yn Dallas.
Roeddwn yn ddyn canol oed yn cerdded drwy strydoedd Wrecsam pan welais
luniau'r awyrennau hynny'n hedfan i'r Twin Towers yn Efrog
Newydd.
Ymweld 芒 Ground Zero
Daeth yr atgof hwnnw yn 么l i'r cof yn y modd mwyaf amrwd ddydd Llun
diwethaf yn Efrog Newydd.
Wrth droed lle're oedd y Twin Towers yn sefyll yn gadarn ceir
Eglwys Anglicanaidd Sant Thomas.
Yn
rhyfeddol, mae'r eglwys dal yn sefyll ac yn agored. Byddai ambell
un yn honni i'r adeilad oresgyn cwymp y tyrrau fod yn ddim arall ond
gwyrth ar 9:11.
Bu'r adeilad eglwysig hwn yn hynod o ddefnyddiol fel adnodd ar gyfer
y gwasanaethau argyfwng a weithiodd mor ddygn a dewr y diwrnod cofiadwy
hwnnw o Fedi.
Cefais gyfle ddydd Llun diwethaf i goffau'r trueiniaid hynny a gollodd
eu bywydau yn eu miloedd ar y dydd hwnnw a drodd yn rhif: 9:11.
Cefais gyfle hefyd i wedd茂o dros eu teuluoedd yn Eglwys Sant Thomas.
Ffilm bwysica'r flwyddyn
Y mae'r ffilm United 93 yn dechrau ar ffurf gweddi.
Darlunnir y pedwar terfysgwr ifanc a feddiannodd yr unig awyren a
ddygwyd y diwrnod dieflig hwnnw i fethu a chyrraedd ei tharged yn
gwedd茂o'n daer am gymorth eu duw i ddial a lladd.
Ceir lluniau eraill yn y ffilm o bobl ddiniwed ar daith yn mwynhau'r
pethau hynny sy'n nodweddu teithiau hir ar awyrennau - diod, bwyd
a mwy o ddiod.
Rhoddir diodydd er mwyn cadw teithwyr yn ddiddig, yn fyw ac yn iach.
Fe gollodd pob un ar United 93 eu bywydau diolch i'r bobl ifanc
ddieflig hynny a wedd茂odd mor daer am gymorth eu duw y Medi erchyll
hwnnw yn 2001.
Cyn marw, gwelwyd ambell un yn dweud ei bader.
Cefais fy nwysbigo'n fawr gan fy ymweliad a Ground Zero.
Cefais fy nwysbigo hefyd gan olygfeydd y ffilm hon sydd, i mi, beth
bynnag, ymysg y pwysicaf a ddangoswyd eleni.
Cwestiwn moesol
Wedi gweld y ffilm gallaf ddeall pam y gwelodd ambell un yn dda i
fynegi pryder ynghylch ei chynhyrchu mor fuan ar 么l 9:11.
Yn amlwg, mae llawer o'r rhai a ddioddefodd brofedigaeth y diwrnod
hwnnw dal yn fyw.
Fel diddanwch, mae'r ffilm hon yn wirioneddol wych gyda phob eiliad
o'r tyndra yn gafael oherwydd bod y profiadau'n real.
Nid diddanwch yw ambell beth ond atgof hynod boenus o'r hyn a ddigwyddodd.
Teimlais i mi gael fy nghymryd weithiau i fannau na ddylwn fod ynddyn
nhw wrth glywed trueiniaid y daith arbennig honno'n ffonio eu hanwyliaid
cyn i'r awyren blymio i'r ddaear.
Bydd llawer yn cofio derbyn y galwadau hynny neu orfod eu clywed ar
beiriannau ateb wedi i'r cyfan ddigwydd.
Nid wyf yn sicr y dylid fod wedi dychwelyd i'r mannau preifat a chysegredig
hynny mor fuan.
Bywyd yn mynd rhagddo
Wedi dweud hyn, wrth fwynhau cinio anferthol mewn ty bwyta moethus
wrth droed Ground Zero gwelais sut y gwelodd America'n dda
i ymateb yn gorfforol i gwymp y ddau dwr.
Cododd allorau'r gred gyfalafol yn fuan ac yn iach o'r hyn a ddisgynnodd.
Y mae bywyd yn mynd rhagddo er gwaethaf yr holl alaru.
Pryderaf yn fwy na hynny bod dilynwyr dau ddiwylliant a aeth i wedd茂o
mor daer y bore hwnnw o Fedi yn 2001 yn parhau i addoli'r un duwiau.
Er gwaethaf yr holl golli, y mae dau fyd yn parhau i gamddeall ei
gilydd.
Hynny i mi yw trychineb pennaf 9:11 ac United 93.
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau
Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch
Bwrw Golwg
Ebostiwch ymateb
|
|
|
|
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
|
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
|
|
|
|