|
|
Twr
Pisa a chiosg yng Nghymru
A
chynlluniau Cymro i sythu'r ddau!
19 Rhagfyr 2001 |
gan Ioan Roberts
Cyhoeddwyd yr wythnos yma fod arbenigwyr wedi llwyddo i wneud rhwybeth
sydd wedi bod yn herio dynoliaeth ers canrifoedd.
Dan arweiniad yr Athro John Burland, peiriannydd sifil o Loegr, llwyddwyd
i wneud Twr Pisa yn yr Eidal yn ddiogel, ac unioni digon arno i ofalu
na fydd yn disgyn.
Ond pe byddai pobl wedi cymryd sylw o syniadau John arall, fe allai
hyn fod wedi digwydd flynyddoedd maith yn ôl...
Siopwr a gwerthwr petrol ym Mhen Llyn oedd John Griffith, Pengroeslon.
Dyfeisio oedd ei ddileit mawr mewn bywyd ond oherwydd styfnigrwydd
pobl eraill, ychydig o’i ddyfeisiadau a welodd olau ddydd.
Mae gen i gof iddo esbonio i mi, gyda phwt o bensel ar gongl papur
newydd ar gownter siop oedd yn llawn o ddarpar gwsmeriaid, ei gynllun
ar gyfer ‘perpetual motion machine’.
Adeiladu awyren
Y cynllun a ddaeth agosaf at weld golau ddydd oedd awyren a adeiladodd
ei frawd ac yntau mewn sgubor ar y tyddyn lle magwyd nhw.
Injan Austin Seven fyddai’n ei gyrru ond chawn ni byth wybod a fyddai‘r
ddyfais wedi codi hediad achos ar ôl misoedd o waith fe ganfuwyd ei
bod yn rhy fawr i fynd allan trwy ddrws y sbubor!
Achub rhag rhewi
Does gen i ddim tystiolaeth bod y rhan yna o lên gwerin Llyn yn wir.
Ond mi ddywedodd wrtha i ei hun fel yr oedd o unwaith wedi achub y
rhan hwn o’r byd rhag rhewi.
Pan ddarllenodd yn y Readers Digest am gynllun i newid lefel
y dwr ar y naill ochr i Gamlas Panama, sylweddolodd yn syth, pe bai
hynny’n digwydd y bydden nhw’n newid cwrs y Gulf Stream, a fyddai’n
ei gyrru chynhessrwydd ymhellach oddi wrth arfordir Cymru.
Byddai hynny'n drychineb i bysgod a phobl. Felly mi sgwennodd lythyr
ar faer Dinas Panama yn ei rybuddio am y peryglon.
"Gawsoch chi ateb, John Griffith?" medda fi.
"Naddo," meddai, "ond mae’n rhaid ei fod o wedi’i gael o, achos soniwyd
dim gair mwy am y cynllun."
Hitler yn galw
Yn ystod y rhyfel mi alwodd Hitler a Mussolini yn ei garej mewn car
mawr pen-agored i brynu petrol.
John Griffith ei hun fu’n troi’r handlan i lenwi’r tanc a chafodd
y digwyddiad hwnnw ei ail-greu flynyddoedd wedyn gan John Roberts
Williams ar y rhaglen Heddiw.
Unioni Twr Pisa
Ond ymgyrch fwyaf John Griffith, un fu’n obsesiwn ganddo am dalp dda
o’i oes, oedd unioni Twr Pisa.
Doedd
o ddim yn fodlon datgelu’r gyfrinach hyd yn oed wrtha i, pam fum yn
sgwennu’r hanes i’r Cymro ar ddechrau’r saithdegau.
Y cyfan ddywedodd o oedd bod â wnelo’r cynllun fwy â’r sylfaeni nag
â gweddill y twr.
Yn gyfleus iawn, roedd yna giosg y tu allan i’w siop, ac roedd hwnnw
hefyd yn gogwyddo.
Pe byddai Maer Pisa wedi derbyn ei wahoddiad i ddod draw byddai John
wedi esbonio i hwnnw, ond i neb arall, sut y dylid unioni’r twr, gan
ddefnyddio’r Leaning Tower of Pengroeslon fel model.
Dwi ddim yn credu iddo gael ateb gan hwnnw chwaith.
Ond yr wythnos yma mi gyhoeddwd fod Twr Pisa, oedd ond y dim a dymchwel
ddeng mlynedd yn ôl, erbyn hyn 17 modfedd yn unionach ac yn hollol
gadarn.
Roedd
y broblem y dechreuwyd pendroni yn ei chylch pan welwyd bod y twr
yn gogwyddo yn ystod y gwaith adeiladu 800 mlynedd yn ôl wedi ei datrys.
Y rhan fwyaf allweddol o’r cynllun oedd tyllu gyda 41 o ddriliau ar
ongl o 30 gradd o dan un ochr i’r sylfaeni, a defnyddio pwysau plwm
i wthio’r ochr honno yn ddyfnach i’r ddaear.
Tybed oedd Maer Pisa, fel un Panama, wedi defnyddio syniadau John
Griffith ond heb eu cydnabod?
|
|
|
|
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
|
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
|
|
|
|