Dadl gwasanaeth ysgolion Mesur Gweinidog Addysg yn cyffroi
Cafodd y dadl ynglŷn â hawl disgyblion i beidio â mynychu gwasanaethau crefyddol yn eu hysgolion wynt sylweddol dan ei hadenydd yr wythnos hon.
Mae rhai crefyddwyr wedi ymateb yn ffyrnig i Fesur sy'n cael ei baratoi gan y Gweinidog Addysg yn y Cynulliad i roi'r hawl i ddisgyblion dros 16 benderfynu drostynt eu hunain a ydynt am fynychu gwasanaethau crefyddol yn yr ysgol.
Ar hyn o bryd rhaid i bob disgybl fynd i'r gwasanaeth oni bai bod eu rhieni yn gwrthwynebu hynny.
'Cam gwag'
Mewn e-bost at Jane Hutt fore Llun, Ionawr 12 2009, aeth Alun Lenny, Cadeirydd Adran Addysg a Chyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg cyn belled a disgrifio'r bwriad fel "cam gwag a pheryglus" a fyddai'n erydu 1,500 o flynyddoedd o wareiiad Cymreig wedi ei sylfaenu ar Gristnogaeth.
"Ynghanol argyfwng economaidd enbyd, gyda phryder cyhoeddus am lefel troseddau ac ansicrwydd cymdeithasol, credwn bod angen y dimensiwn ysbrydol sy'n magu cydwybod personol a moesoldeb cyhoeddus ar bobl ifanc yn fwy nac erioed. Yn ein barn ni - fyddai'n cael ei hategu gan nifer o brif athrawon - gweithgarwch crefyddol yw'r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hynny," meddai.
Beirniadodd Jane Hutt hefyd am beidio ag ymgynghori â'r mudiadau crefyddol cyn symud ymlaen.
Croesawu
Ar y llaw arall mae'r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr wedi croesawu'r bwriad.
"Dwi wedi meddwl erioed bod unrhyw fath o addoli gorfodol yn wrthgynhyrchiol," meddai'r Tad John Owen, llefarydd ar ran yr eglwys a Chaplan Prifysgol Caerdydd.
"Dwi'n credu y dylai hwn fod yn benderfyniad personol ..."