"Siarad yn iaith cyfnod y bobl" ydi cyfrinach pregethu da yn ôl arbenigwr ar y pwnc.
"Pwrpas iaith yn ei hanfod ydi mynegi teimladau pobl, eu dyheadau nhw ond mae yna ystyr arall i siarad yn iaith y bobl - cyffwrdd a'u cyfarwydd nhw ac a'u cynefin nhw a'u bob dydd nhw," meddai Gerallt Lloyd Evans, Llangristiolus a draddododd Ddarlith Goffa John Williams Brynsiencyn Hydref 2008.
"Ac ni fyddai'r hen bregethwyr clasurol yng Nghymru byth yn brin o fedru gwneud hynny," meddai wrth John Roberts ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ddydd Sul Tachwedd 2, 2008.
Camp cyfathrebu Dywedodd mai hanfod pregethu yw cyfathrebu ac mai ystyr wreiddiol y gair hwnnw yw "creu perthynas agos, agos".
"Dwad a phethau yn un â'i gilydd - dyna ydi hanfod ystyr y gair cyfathrebu a dyna ydi gwaith y pregethwr hefyd; dod a'r gynulleidfa a'r pregethwr yn un mewn rhywbeth sy'n fwy na'r cyfan i gyd.
"Yn fwy na'r pregethwr, yn fwy na'r gynulleidfa. Dod a nhw'n un drwy'r cyfathrebu."
'Digwyddiad' mawr Dywedodd hefyd fod pregeth yn ddigwyddiad neu yn 'event'.
"Mae nifer o ysgolheigion wedi bod yn trafod y gair hwnnw [event]. Mae'n anodd ei gyfieithu i'r Gymraeg - digwyddiad o bosib ond dydi hwnnw ddim yn cyfleu ystyr event yn llawn; y peth anesboniadwy yma sy'n digwydd mewn gwir gyfathrebu."
Parhau'n berthnasol Ychwanegodd bod pregethu yn rhywbeth sy'n gwbl berthnasol hyd yn oed heddiw:
"Mae o'n rhan o'r comisiwn mawr. Mae'n wir ein bod yn byw yn oes y soundbites, yn oes y dweud bachog ac eto mae pregethu'n berthnasol oherwydd bod yr angen yn fawr .
"Fedr y cyfryngau modern fyth â chyfarfod anghenion dyfnaf pobl. Mae'r [anghenion] rheini yn aros o hyd; ofn, unigrwydd, profedigaethau, siom, gofid a llawenydd a gorfoledd.
"Mae'r anghenion mawr yna ac fe ddylai pregethu fod yn ymgais i gyfarfod â'r anghenion yna yn llawn," meddai.
Gwerthoedd amgen "Mi ddylai pregethu gynnig gwerthoedd amgen.
"Heddiw, a siarad yn gyffredinol, gwerthoedd y geiniog sy'n mynd â hi bob gafael, Rydym ni'n byw mewn diwylliant sydd i ni yn gwbl ddieithr ac yn wir yn llawn ofn [ond] mae pregethu yn cynnig gwerthoedd amgen sydd yn rhaid i bobl wrthyn nhw yn y diwedd," meddai.
Yr oedd John Williams Brynsiencyn yn un o bregethwyr enwocaf Cymru ddechrau'r ugeinfed ganrif.
|