91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 29 Mawrth 2011

21 o garfan y Scarlets yn ymrwymo i'r rhanbarth

Mae George North, Rhys Priestland, Josh Turnbull, Tavis Knoyle, a Rob McCusker o blith 21 o chwaraewyr y Scarlets i arwyddo estyniad i'w cytundebau efo'r rhanbarth.

Yn ôl y prif hyfforddwr, Nigel Davies, mae'r ffaith fod gymaint o sêr ifanc y rhanbarth wedi torri'u henwau ar gytundebau newydd yn arwydd o ymroddiad y Scarlets i feithrin talentau lleol ac i lwyddo drwy ddatblygiad:

"Rydym ni wrth ein boddau fod gymaint o chwaraewyr allweddol wedi ymrwymo i'r Scarlets am dymhorau i ddod - i'n arddull ni o chwarae, a'n diwylliant ni.

"Roedd hi'n holl bwysig i ddatblygiad ag uchelgais y rhanbarth fod cnewyllyn y garfan yn aros yma.

"Mae'n arwydd o'n buddsoddiad ni mewn datblygu talent o fewn ein rhanbarth, fod y tîm a wynebodd Treviso ar y penwythnos yn gyfan gwbl Gymreig.

"Mae'n athroniaeth ni o ddarganfod, meithrin a datblygu talent ifanc yn dwyn ffrwyth ac yn dechrau dangos ei werth. Rydym wedi gweld hynny ar y llwyfan rhyngwladol efo gymaint o'n chwaraewyr yn cynrychioli Cymru ar bob lefel - o'r tîm dan 18 i fyny.

"Mae hynny'n destun balchder i'r holl dîm hyfforddi a chefnogwyr y Scarlets.

"Pan fo rhywun yn ystyried arweiniad a phrofiad chwaraewyr fel Stephen Jones, Matthew Rees, ac Iestyn Thomas, mae 'yma gymysgedd da. Mae'r gymysgedd o chwaraewyr ifanc a'r profiadol, ynghyd â'r tîm hyfforddi yn ychwanegu egni ac yn gwneud yr awyrgylch yma yn gystadleuol a deinamig."


chwaraeon



About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý