I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Mae Yr Ods yn feistri ar gymysgu gitar indie gyda phop modern gan greu caneuon bachog a chofiadwy." (Dyl Mei)
Mae gen i ebost o Ionawr 2007 gan Griff Lynch sy'n cyflwyno'r band trwy ddweud, "'Da ni wedi recordio yr holl ganeuon ar laptops yn Pantycelyn gan ddau foi sy'n gneud dim gwaith o gwbwl. Mae yr Ods yn mynd i chwalu dy ben, sbeitio dy dad a rhamantu dy fam, BYDD BAROD! (plis chwaraewch y caneuon ma!!)".
Rhyw flwyddyn wedyn recordiodd y band sesiwn i raglen Huw Stephens. John Lawrence oedd cynhyrchydd y sesiwn, ac ma 'na dair c芒n wych arni, yn cynnwys yr hit radio Gobeithio Heno!
Mae'r band wedi rhyddhau dwy sengl - Defnyddio a Fel Hyn Am Byth - ond dydy hynny ddim yn gwneud tegwch hefo'u prysurdeb nhw yn y dair blynedd diwetha. Ma nhw di gigio'n gyson, a di gyrru dwn i ddim faint o ganeuon draw i ni - y cyfan yn wych, a phob un yn wahanol. Tecno, pop, roc, a hyd yn oed fersiwn o g芒n Lily Allen, The Fear!
A s么n am recordio caneuon pobol eraill, mae'r Ods hefyd wedi recordio cyfyr o un o fy hoff ganeuon i erioed, a hynny i gyfres Geraint Jarman ar C2 - Tracsuit Gwyrdd.
Ar 么l ennill Gwobr Roc a Phop 91热爆 Radio Cymru am y band newydd gorau yn 2009, chwaraeodd y band ar lwyfan y "Queens Head" yng Ng诺yl Glastonbury, yn ogystal 芒 pherfformio yng ngwyliau Wakestock a S诺n.
Yn 2010 rhyddhaodd y band yr albwm, Yr Ods oedd yn cynnwys caneuon melodaidd a chofiadwy fel 'Cofio Chdi o'r Ysgol' a 'Nid Teledu oedd y Bai'. Enillodd y g芒n, 'Fel Hyn am Byth' Wobr Roc a Phop 91热爆 Radio Cymru am y g芒n orau. Yn 2011 enillodd y band Wobr RAP Radio Cymru arall, y tro hwn fel 'Band y Flwyddyn'. Yn ogystal enillodd yr Ods Wobr am EP Gorau 2010 yng Ngwobrau Cylchgrawn Y Selar. Dilynwyd hyn gydag albym arall yn Nhachwedd 2011, Troi a Throsi
Ond dwi am gloi hefo geiriau rhywun arall am Yr Ods. Dyma ddywedodd Emily Eavis, trefnydd g诺yl Glastonbury, amdanyn nhw ar 么l eu gweld nhw'n fyw yn yr 诺yl: "Ma nhw'n ifanc, rhywle rhwng y Super Furry Animals a'r Arctic Monkeys, ac ma ganddyn nhw ganeuon pop gwych, llawn egni. Os ewch chi i'w gwylio nhw, dwi'n gaddo, newch chi ddim gadael tan y diwedd un!"
Lisa Gwilym
Newyddion
Pwy fydd bandiau 2008?
2 Ionawr, 2008
'Tips' ar pa fandiau ddylech chi wylio allan amdanyn nhw yn 2008.
Sesiynau
Adolygiadau
Eraill
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
91热爆 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.