![Gwyneth Glyn](/staticarchive/e5802e9dac57c0f58a395cb4f5d4b674da386f4c.jpg)
Y gantores amryddawn o Bwllheli sydd yr un mor hapus yn sgrifennu nofel neu'n englyna ag y mae hi'n cyfansoddi caneuon gwerin a chanu gwlad perffaith. Gyda'i llais Bobby Gentry-aidd a geiriau cofiadwy, gwerthodd eu halbwm gynta Wyneb Dros Dro yn ei miloedd, gyda'r gân Adre yn arbennig yn taro tant ar y dulcimer cenedlaethol.
Cyrhaeddodd synau swynol Gwyneth Glyn glustiau'r Cymry yn 2005 pan ryddhaodd recordiau Slacyr ei record hir gyntaf Wyneb Dros Dro. Roedd yr albwm yn gampwaith o felodïau gwerin pop, odlau hawddgar ac offeryniaeth gynnil.
Chwa o awyr iach persawrys - a'r gynta, yn fy marn i, o don newydd o gantoresau Cymraeg oedd o'r diwedd yn cymryd mantell artistiaid hÅ·n fel Heather Jones, Caryl Parry Jones, a'r artist dwi'n gweld Gwyneth debycaf i, Mary Hopkin.
Roedd y gân Adre, oddi ar yr albwm, yn drysor prin, cân oedd yn apelio at unrhywun efo clustiau, gyda DJs fel Huw Stephens yr un mor debygol o'i chwarae ar y radio â John ag Alun.
Yn dilyn dwy flynedd o gigio yn ddi-baid o amgylch Cymru, sgrifennu dramâu a bod yn fardd plant Cymru, rhyddhaodd Gwyneth eu hail albwm Tonau yn 2007 ar ei label ei hun, Gwinllan. Methodd yr albwm gael yr un effaith â'r gynta, er ei bod, yn fy marn i, yn albwm llawer mwy safonol. Mae Cân y Siarc yn arbennig yn sefyll allan, gan ddangos gallu Gwyneth i adrodd stori mewn cân - mae'n fy atgoffa i o Ode to Billy Joe gan doppelgänger Gwyneth, Bobbie Gentry.
Un o brif ddylanwadau Gwyneth (ar wahân i'r holl rhai sy'n cael eu rhestru yn y gân Adre) yw'r gantores ganu gwlad enwog Emmylou Harris, ac mae Gwyneth wedi dod yn ryw fath o Emmylou Cymraeg, drwy fenthyg ei llais i ganeuon gan artistiaid fel Euros Childs, Derwyddon Dr Gonzo, Cowbois Rhos Botwnnog a Genod Droog.
Er iddi gael ei phenodi'n Fardd y Plant yn 2006-7, bu Gwyneth yn weithgar o hyd ym myd Cerddoriaeth gan ryddhau albwm newydd, Tonau yn 2007 a Cainc yn 2011. Mae artistiaid Cymreig poblogaidd fel Alun Tan Lan a LlÅ·r Pari wedi cyfrannu i 'Cainc' gyda Dave Wrench yn cynhyrchu.
Storïwr o'r radd flaenaf a cherflunydd cân dawnus, mae'n hen bryd i Gwyneth Glyn orffen pa bynnag nofel/sgript/cerdd/ffilm mae hi wrthi'n sgrifennu, ac ail-gydio yn ei gitâr fel y gallwn syrthio mewn cariad â hi unwaith eto.
Huw Evans
Newyddion
![](/staticarchive/23e1869ddf24c4cb198576d74bbc7a08620e811a.jpg)
Llanast Llanrwst 2007
21 Tachwedd 2007
Wythnos o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Llanast Llanrwst - dyma'r manylion.
Llanast Llanrwst 2007
25 Hydref 2007
Wythnos o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Llanast Llanrwst - dyma'r manylion.
Cowbois a Gwyneth
2 Awst 2007
Sesiynau
![Gwyneth Glyn](/staticarchive/23e1869ddf24c4cb198576d74bbc7a08620e811a.jpg)
Gwyneth Glyn
Rhagfyr 20, 2005
Gwyneth Glyn
Rhagfyr 20, 2005
Adolygiadau
Gwyneth Glyn
Mehefin 26, 2007
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Sesiwn Unnos 5
Y bumed Sesiwn Unnos ar gyfer Radio Cymru gyda'r gantores Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog a Pete Richardson a Sion Glyn o'r Niwl. Y dasg: cyd-weithio i gyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau EP newydd mewn un noson.
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
91Èȱ¬ Wales Music
![Sian Evans](/staticarchive/40d47d278803ba4e94937f3aa8a82fe31e3930dc.jpg)
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.