91热爆

Cowbois Rhos Botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog

Tri brawd o bentref Rhos Botwnnog , Ll欧n sy'n aelodau o'r band llwyddiannus, Cowbois Rhos Botwnnog. Yn arbrofi gyda ffurfiau canu gwlad, gwerin a roc, ffurfiwyd y band yn 2006 gan ennill gryn sylw o'r s卯n roc Gymraeg gydag ymddangosiadau ar nifer o raglenni cerddoriaeth Gymraeg.

Rhyddhawyd yr albwm gyntaf ganddynt, 'Dawns Y Trychfilod' ar label Sbrigyn Ymborth yn 2007. Roeddent eisioes wedi denu nifer o ffans a chyrhaeddodd yr albwm rif 1 ar siart C2. Enillodd y band y Wobr yng Ngwobrau RAP 2007 am y Band a ddaeth i amlygrwydd yn ogystal.

Yn 2008, penderfynodd y band newid ei sain gan ffocysu'n fwy ar elfen canu gwlad. Gan gydweithio 芒 Gwyneth Glyn a'r cerddor Euron "Jos" Jones, rhyddhawyd y sengl, 'Paid a Deud' hefyd ar label Sbrigyn, gyda'r trac teitl yn defnyddio c芒n werin Gymreig draddodiadol fel ysbrydoliaeth.

Yn ystod haf 2009, ymunodd Llyr Pari o Jen Jeniro 芒'r band fel giatrydd byw ychwanegol gan berfformio gyda'r Cowbois mewn cyngerddau mawr fel G诺yl Wakestock ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2010, cyfansoddi oedd y brif ffocws. Ym mis Rhagfyr 2010 rhyddhaodd y Cowbois yr albwm, 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.'Nerth y band yw'r unigolrwydd yn ei sain -does neb yn swnio fel y Cowbois!

Newyddion

Cowbois a Gwyneth

2 Awst 2007

Cowbois a Gwyneth

2 Awst 2007

Sesiwn Fawr Dolgellau '07

Ebrill 15 2006

Sesiynau

Coeden Nadolig C2

Caneuon Nadolig Sesiwn C2

Caneuon Nadoligaidd 芒 recordiwyd yn arbennig i C2.

Cowbois Rhos Botwnnog

05 Tachwedd 2009

Sesiwn newydd gan Cowbois Rhos Botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog

Tachwedd 8, 2006

Adolygiadau

Sion Llwyd yn adolygu gig 'Stafell fyw

31 Ionawr 2008

Y cerddor Sion Llwyd yn adolygu y cyntaf mewn cyfres o gigs gan Gymdeithas yr Iaith a Siarc Marw.

Cowbois Rhos Botwnnog

Mai 29, 2007

Eraill

Sesiwn Unnos 2011 - Cowbois Rhos Botwnnog a Karen Owen

Lluniau o'r Sesiwn Unnos gydag Cowbois Rhos Botwnnog a Karen Owen.


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

91热爆 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.