![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](http://www.bbc.co.uk/furniture/blackpix.gif) |
Gweithdy'r S锚r
Er i'r gorsafoedd niwcliar ddod 芒 llawer o waith i bobol Meirionnydd a M么n, 'roedd yr ofn fod dyn yn pilffro yn ormodol yng ngweithdy'r s锚r ac yn defnyddio grym yr heuliau i greu marwolaeth yn peri pryder o hyd. 'Doedd y Rhyfel Oer ddim wedi dod i ben eto. Nid amddiffynwyr Capel Celyn oedd yr unig rai i brotestio. Cododd mudiad heddwch CND o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki. Os oedd y Cwm dan gwmwl 'roedd y byd dan gysgod y bom. 'Roedd anniddigrwydd yn dechrau cyniwair drwy'r byd yn gyffredinol.
' Roedd dyn yn dechrau pilffro 芒'r s锚r mewn ffordd arall hefyd ac 'roedd y dechnoleg newydd yn dechrau ymestyn ymhell y tu hwnt i ffinau'r ddaear, 'Roedd y ras arfau rhwng America a'r Undeb Sofietaidd yn ras yn y gofod yn ogystal. Yn ei awdl anfuddugol, 'Llef Un yn Llefain', yn Eisteddfod Llanelli ym 1962, mae James Nicholas yn cyfeirio at y ffordd 'roedd dyn yn defnyddio'r wybodaeth a'r wyddoniaeth newydd i greu difrod ac i fentro.
'Roedd T. Llew Jones yn ei awdl fuddugol, 'Y Dringwr', a enillodd Gadair Eisteddfod Caernarfon wedi rhagweld yn union beth fyddai canlyniad anturiaethau technolegol dyn yn y gofod. Aeth chwyldro'r teledu gam ymhellach pan lwyddwyd i drosglwyddo lluniau byw ar draws yr Iwerydd drwy gyfrwng y lloeren Telstar. Llygaid-dyst i hanes ar yr union bryd y digwyddai oedd perchen pob set deledu bellach, nid gwyliwr cyffredin.

ymlaen...
|
|
![Radio a Teledu](/staticarchive/fde7a9160f7e2552e085c7d721add94b666f8d1e.jpg)
|
Tynged yr Iaith
Parhad y genedl er gwaethaf helyntion ac ofnau'r ddynoliaeth yn gyffredinol oedd yn flaenllaw ym meddyliau caredigion yr iaith. Poenai llawer y byddai Cyfrifiad 1961 yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Un o'r rheini oedd Saunders Lewis. Ym 1962 traddododd Saunders Lewis ddarlith flynyddol y 91热爆, cyn i'r Llywodraeth gyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad:
'Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb Gymraeg. Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny'.
Pan gyhoeddwyd ffigyrau'r Cyfrifiad, 'roedd mwy o sioc nag o siom yn aros y Cymry. 'Roedd y Gymraeg wedi colli trigain mil o'i siaradwyr mewn degawd, ergyd arall ar ben y dau gan mil a gollwyd rhwng y tridegau a'r pumdegau. Er mai anogaeth uniongyrchol i Blaid Cymru oedd darlith Saunders Lewis, esgor ar fudiad arall a wnaeth 'Tynged yr Iaith', ond 'roedd y baban newydd hwnnw eisoes wedi dechrau ymffurfio yn y groth cyn y ddarlith. Y fydwraig oedd darlith 'Tynged yr iaith; Tryweryn oedd y fam. Saunders Lewis, fodd bynnag, a roddodd nod a chyfeiriad i'r mudiad newydd: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Swydd a Swyddfa Newydd
Un ateb i'r sefyllfa a gynigiai Cymdeithas yr iaith. O safbwynt gwleidyddiaeth Brydeinig daeth y Blaid Lafur yn boblogaidd eto wedi i'r economi ddirywio yng ngafael y Tor茂aid. 'Roedd tair blynedd ar ddeg o deyrnasiad y Ceidwadwyr ar fin dod i ben ym 1964. Un o'r pethau cyntaf wnaeth Llywodraeth Harold Wilson oedd sefydlu Swyddfa Gymreig a chreu sedd yn y Cabinet i Ysgrifennydd cyntaf Cymru, James Griffiths. Er i helynt Tryweryn ailgynnau'r ysbryd gwladgarol, ei siomi a gafodd Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1964. Yr un oedd y stori yn Etholiad 1966 pan etholwyd Llafur gyda mwyafrif ysgubol. Ymunodd rhai o hoelion wyth Plaid Cymru 芒'r Blaid Lafur, gan dybio mai drwy berthyn i blaid Brydeinig gref y gallen nhw wasanaethu Cymru orau. 'Roedd disgwyliadau mawr pan etholwyd Aelodau Seneddol Llafur newydd fel Elystan Morgan, Ednyfed Hudson Davies, a Wil Edwards, ond gobeithion a chwaluwyd oedd rhain oherwydd agweddau canoliaethol Brydeinig pobol fel George Thomas.
Ond un ateb oedd yr ateb gwleidyddol. Tybiai eraill fod angen gwarchod y Gymru Gymraeg drwy fyw a gweithio o fewn ei therfynau. Bachwyd yr ymadrodd 'Tua'r gorllewin yn awdl fuddugol T. Llew Jones, 'Caerllion ar Wysg', yn Eisteddfod Glynebwy, 1958, fel slogan gan genedlaetholwyr a geisiai annog y Cymry Cymraeg i ddychwelyd i gefn-gwlad Cymru. Ychydig fisoedd wedi Etholiad Cyffredinol 1966 daeth dwy fuddugoliaeth i'r cenedlaetholwyr. Enillodd Gwynfor Evans y sedd yn is-etholiad Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf, a chyhoeddwyd ffurflenni trwyddedau ceir modur yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Dwy Ysgol
Ond yn yr un flwyddyn digwyddodd trychineb, diweddglo creulon i'r diwydiant glofaol yng nghymoedd y De. 'Roedd y tipiau glo yn parhau i greu dioddefaint, hyd yn oed yn eu segurdod. Carreg fedd uwch celain y diwydiant glo oedd y mynydd gwastraff a lithrodd ar ysgol Pant-glas, Aberfan. 'Roedd y diwydiant hwnnw wedi hawlio rhai o'i feirwon olaf. Symbolau o'r ecsbloetio a fu ar Gymru ers cenedlaethau oedd mygu'r ysgol yn Aberfan a boddi'r ysgol yng Nghapel Celyn.
Fe welir yn awdl anfuddugol James Nicholas, 'Yr Ymchwil', ac yn awdl Gwilym R. Tilsley, 'Cwm Carnedd', gyfeiriadau at y clwyfau a oedd yn parhau'n agored wedi i bwll neu chwarel gau. Er na lwyddwyd i achub Capel Celyn, erbyn canol y chwedegau 'roedd anniddigrwydd yn dechrau crychdonni'r dyfroedd. Ond dechreuad oedd Tryweryn, nid y diwedd. Er i Gapel Celyn ddiflannu dan y d^wr, byddai holl hanes boddi'r Cwm yn bellgyrhaeddol yn ei effaith a'i ddylanwad ar Gymru yn y blynyddoedd i ddod.
'Roedd Oes y Brotest ar fin gwawrio.
Rhaglen
5...
|
|