Lleoliad yr Eisteddfod
Caerdydd
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Ethol John F. Kennedy yn Arlywydd yr Unol
Daleithiau.
- Harold Macmillan yn cynhyrfu'r dyfroedd yn Ne
Affrica gyda'i araith 'wind of change'.
- 56 yn cael eu lladd a 162 yn cael eu hanafu yn y
galanastra yn Sharpville, Transvaal.
- Mil o fyfyrwyr du yn cynnal protest yn Alabama yn
erbyn neilltuad.
- Gwasanaeth Milwrol Gorfodol yn dod i ben.
- Gorfodwyd 5,300,000 i ymuno 芒'r
Lluoedd Arfog.
- Michael Foot yn ennill is-etholiad yng Nglyn Ebwy.
- 45 o lowyr yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yng
nglofa Six Bells, Aberbig, Gwent.
- Esso yn agor y burfa olew gyntaf yn Hwlffordd.
- Cau rheilffordd y Mwmbwls, y gwasanaeth
rheilffordd cyntaf yn y byd i gario teithwyr.
- Llifogydd yn creu difrod yn nghanolbarth Cymru a
Chaerdydd. 'Roedd 0 o dai dan ddwr yng Nghaerdydd a phedair troedfedd o ddwr ar Barc yr
Arfau.
- Erlyn cwmni cyhoeddi Penguin am ffieidd-dra am
gyhoeddi nofel D.H. Lawrence Lady Chatterley's Lover. Ond y llys yn penderfynu nad oedd y
llyfr yn frwnt. Arweiniodd hyn yn ei dro at gyhoeddi Ieuenctid yw 'Mhechod
gan John Rowlands, y nofel Gymraeg gyntaf i roi disgrifiad manwl o'r
weithred rywiol.
- Y 91热爆 yn gofyn am ail sianel deledu.
- Pris cwrw yn codi o geiniog y peint i 3/7 ( llai na
18c )
- Marw Ny Bevan, Sylvia Pankhurst, Albert Camus,
Neville Shute, Boris Pasternak a Clark Gable.
Archdderwydd
Tre-fin
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Dydd Barn a Diwedd Byd' neu 'Morgannwg'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: Gwenallt, Meuryn, S. B. Jones
Cerddi eraill: Gwilym Ceri Jones, James Nicholas, W. T. Gruffydd |