Ond 'roedd gwaith pwysicach na diwygio'r Orsed 1935 Cynan. O
1935 ymlaen, cafwyd cyfnod o ddiwygio'r Eisteddfod dan arweiniad Cynan a
D.R. Hughes, ysgrifennydd Cymdeithas yr Eistedfod. Y bwriad oedd creu un
corff llywodraethol i'r Eisteddfod, drwy uno'r Orsedd a Chymdeithas yr
Eisteddfod, a chau'r bwlch rhwng yr Orsedd a'r Brifysgol ar yr un pryd.
Cynhaliwyd cyfarfod tyngedfennol rhwng cynrychiolwyr yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod yn Llundain ym 1935, gyda Lloyd George yn
cadeirio. Bwriad y cyfarfod oedd symud i uno'r ddau gorff.
Eisteddfod
Uniaith
'Roedd un o brif
bynciau llosg yr Eisteddfod yn yr ugeinfed ganrif yn codi i'r wyneb yn y
cyfnod hwn. Ceisiwyd troi 1935 ddfod Caernarfon ym 1935 yn Eisteddfod uniaith Gymraeg, a bu peth protestio ar y maes.
Ym mis Medi 1936, 'roedd tri o aelodau mwyaf blaenllaw Plaid Genedlaethol
Cymru, Saunders Lewis, D.J.Williams a Lewis Valentine, wedi rhoi rhai o
ddefnyddiau ac adeiladau'r Ysgol-fomio ym Mhenyberth yn Ll^yn ar d芒n, mewn
protest yn erbyn bwriad y Weinyddiaeth Awyr i droi un o gadarnleoedd y
Gymraeg yn faes i hyfforddi awyrenwyr. 'Roedd hi'n brotest o blaid heddychiaeth hefyd, yn enwedig gyda'r Almaen Ffasgaidd yn ymarfogi ac yn
cynyddu yn ei grym milwrol. 'Roedd rhyfel, unwaith yn rhagor, yn bygwth
sefydlogrwydd y byd.
Er mai safiad yn erbyn rhyfel oedd protest Penyberth yn rhannol, dedfrydwyd
y protestwyr i naw mis o garchar yn llys yr Old Bailey. Achosodd y carchariad
dyndra anniddofeol yng Nghymru. Eisteddfod dan gysgod yr Ysgol-fomio, Eisteddfod y t芒n a'r tyndra, oedd Eisteddfod Machynlleth ym
1937.
ymlaen...
|