Er gwaethaf y protestio a'r ymddiswyddo, aeth y 'Steddfod yn ei blaen. Ond
er i'r Cymry heidio i'r hen sioe, 'roedd t芒n Penyberth yn bwrw cysgod ei
fflamau dros yr ^Wyl. Yn ystod yr Eisteddfod ei hun, llosgwyd pwerdy trydan
Machynlleth i'r llawr, yn ddamweiniol. Amheuai'r heddlu mai gweithred arall
o brotest gan genedlaetholwyr Cymreig oedd hi, a holwyd nifer, Gwilym R.
Jones, Prifardd Coron Eisteddfod 1935, yn eu plith.
Cynhaliwyd protest danllyd arall ar y maes ym Machynlleth. Cythruddwyd
aelod o'r Blaid Genedlaethol gan argymhelliad y Western Mail y dylai D.J.Williams
ymddiheuro yn gyhoeddus am ei ran yng ngweithred Penyberth cyn y byddai'r awdurdodau'n rhoi ei swydd yn 么l iddo. Ceisiodd llond dwrn o
genedlaetholwyr gynnal protest yn erbyn safbwynt y Western Mail drwy roi
copi o'r papur ar d芒n yn gyhoeddus.
Y Gaer Fechan
Olaf
Y 'Steddfod oedd 'caer fechan olaf' y Cymry yn 么l W.J. Gruffydd, ond bu'r
gaer honno'n gwegian drwy gydol y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Safiad
W.J. Gruffydd a'i gyd-brotestwyr, mewn gwirionedd, a achubodd yr eisteddfod
rhag dirywio i fod yn ^wyl eilradd, ddiystyr. Canlyniad y brotest fu sefydlu'r rheol ym 1937 mai'r Gymraeg yn unig fyddai iaith swyddogol yr
Eisteddfod, rheol na ddaeth i'w llawn rym, oherwydd yr ail Ryfel Byd a
styfnigrwydd ambell un a barhai i areithio yn Saesneg, hyd Eisteddfod Caerffili ym 1950.
Ar 么l holl gyffro Prifwyl Machynlleth, 'roedd gan yr Eisteddfod
gyfansoddiad newydd, a chorff llywodraethol newydd. 'Roedd Cynan wedi diwygio'r Orsedd drwy ddod 芒 rhagor o urddas i ddefodau'r cadeirio a'r
coroni, gan gynnwys arwisgo'r bardd buddugol yng ngolwg y gynulleidfa, y
ddawns flodau,a chyflwyno caneuon newydd i'r ddwy ddefod.
Ym 1937 hefyd y dechreuwyd cydnabod Rhyddiaith o ddifri, drwy sefydlu
cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. 'Roedd seiliau'r Eisteddfod yn ymddangos yn
gadarnach nag erioed o'r blaen.
Rhaglen
3...
|