Fel rhan o'r gweithgareddau, cynhaliwyd cystadleuaeth rhychio, gan ddefnyddio ar gyfer y gwaith, Raw Aberaeron.
Rhaw drionglog gyda choes hir oedd Rhaw Aberaeron ac fe'i cynhyrchid yn y dref ar arfordir de Ceredigion a'i hallforio ledled y byd o'r harbwr lleol. Safai'r efail lle'i cynhyrchid ar lan afon Aeron ger hen felin wl芒n, ac un o'r cynhyrchwyr enwocaf ganrif yn 么l oedd Dafydd Davies Y Gof. Cai'r rhofiau eu llunio drwy eu stampio allan o ddur gan y Mwrthwl Mowr (Morthwyl Mawr), a chlywid s诺n y taro drwy'r dref.
Daeth gwneuthuriad Rhaw Aberaeron i ben ganol y ganrif ddiwethaf ond parhawyd y gwaith ymlaen i'r saithdegau gan Griff Jenkins, gof o Gwrtnewydd. Mae'r offer gan Griff o hyd, ac ar gyfer yr 糯yl Gerdd Dant, er iddo fod wedi hen ymddeol, cytunodd i gynhyrchu deg rhaw. Cant eu gwerthu i godi arian ar gyfer yr 糯yl.
Cystadleuaeth rychio
Cafodd y rhaw ei defnyddio hefyd mewn cystadleuaeth rychio a drefnwyd yn Llanerchaeron, nid nepell o'r dref lle cynhyrchid y rhofiau. Cynigiwyd gwobr arbennig iawn i'r rhychiwr gorau sef model efydd o Raw Aberaeron wedi ei chastio mewn efydd a'i gosod i sefyll ar bren a fu'n rhan o Ywen Dafydd ap Gwilym yn Ystrad Fflur. A chan fod y fynachlog wedi bod yn ganolfan amaethyddol yn ogystal 芒 bod yn ganolfan grefyddol, rhaid bod y mynachod lleyg eu hunain wedi bod yn rhychwyr o fri. Bydd y rhaw fechan yn wobr a gaiff wedyn ei chynnig yn flynyddol ar gyfer y gystadleuaeth.
Yr enillydd eleni allan o bedwar ar ddeg o gystadleuwyr oedd Tomi Griffiths o Benuwch, gydag Aeron Daveis, Dihewyd yn ail a John Giant Griffiths o Ledrod yn drydydd.
'Rhychwyr Llanerchaeron' gan Gwyn Evans
Mwy am 糯yl Gerdd Dant 2007
|