Cafodd y diwydiant gwlân ddylanwad economaidd, diwylliannol, a chymdeithasol ar Drefach Felindre ac fe ddaeth yn bwysig iawn yn y ffordd roedd y bobl yno yn byw. Roedd y lleoliad yn berffaith oherwydd y tair afon sef Bargoed, Bran ac Esgair yn pweru'r felin ac roedd digon o wlân a brethyn o'r ffermydd yn yr ardal i'w gael i ddefnyddio fel y defnyddiau crai.
Fe adeiladwyd rheilffyrdd ym Mhencader ac yn ddiweddarach yn Henllan i alluogi'r gwlân gael ei ddosbarthu i gymoedd y de. Roedd mwy o alwad am y gwlân yn Nrefach Felindre ac wrth iddynt ehangu yno roedd y felin ym Mhowys yn dirywio oherwydd diffyg trafnidiaeth. Felly roedd y diwydiant llechu yn fawr iawn yn y gogledd, y diwydiant glo yn y de ac yng Ngorllewin Cymru roedd y diwydiant gwlân a brethyn yn ffynnu. Fe barodd yr Oes Aur hyd at 1920 ond fe ddirywiodd ar ôl yr Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd y dirwasgiad.
Diwydiant Cartref
Hyd at 1870 y diwydiant cartref oedd yr unig math o ddiwydiant gwlân yn Nrefach Felindre. Roedd nifer fawr o deuluoedd yn manteisio ar hyn ac yn ei ddefnyddio fel ffordd arall o wneud arian. Roeddent rhan amlaf yn ffermwyr yn y dydd ond gyda'r nos byddent yn defnyddio'r defnyddiau crai i greu dillad, er enghraifft sanau a chrysau. Roeddent bron yn hunan gynhaliol ac enghraifft o deulu fel hyn oedd teulu'r Ogof.
Benjamin Jones oedd pennaeth y teulu ac roedd hefyd yn feistr. Roeddent yn gwerthu gwlân cyn i'r rheilffyrdd fodoli yn Henllan yn 1895 ac roedd y teulu cyfan yn teithio i Langyfelach bob wythnos. Byddent yno yn gosod stondin yn y farchnad ac yna yn gwerthu gwlân, brethyn a blancedi dros yr wythnos ac yna yn teithio yn ôl i Drefach Felindre.
Datblygiad y ffatrïoedd
Datblygodd y ffatrïoedd bach o'r cartref i bedair ffatri fawr. Enwau'r ffatrïoedd oedd Ffatri Cambrian, Meirios, Square Hall a Cilwendeg. Roedd y Ffatri Cambrian ar hen safle gweithdy gwehydd. Roedd y ffatri yn cyflogi dros hanner cant o bobl, ac yn un o'r rhai fwyaf yn yr ardal, ac roeddent yn canolbwyntio yn bennaf ar werthu'r gwlân i ardaloedd diwydiannol y de. Ar ôl y tân yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf ailadeiladwyd rhannau o'r felin ac mae Ffatri Cambrian yn dal i gynhyrchu nwyddau allan o wlân heddiw.
Heddiw mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi ei hadeiladu ar y safle. Mae'n cynnwys casgliad mawr o beiriannau a ddefnyddiwyd dros y canrifoedd diwethaf ac hefyd mae arddangosfa o luniau a hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru yno. Ffatri Meirios oedd un o'r ffatrïoedd mawrion arall a godwyd yn yr un cyfnod â Ffatri Cambrian. Ar ôl i'r ffatri gael ei llosgi i'r llawr yn y dauddegau fe'i hailgodwyd ar raddfa lai. Fe'i chaewyd yn y pedwardegau ac ar adegau fe'i defnyddiwyd fel stordy. Roedd Ffatri Cilwendeg yn un o'r melinau mwyaf yn Drefach Felindre ac fe'i hadeiladwyd tua 1880.
Y perchnogion diwethaf oedd D. Williams & Sons ac fe'i caewyd i lawr yn y 1920au. Ffatri fawr a adeiladwyd yng nghanol Drefach Felindre yn nawdegau'r ganrif oedd Square Hall. Mae'n debyg fe'i hadeiladwyd ar safle melin flawd. Cafodd ei disgrifio fel 'Y Felin Isa' ac roedd gwehyddu llaw wedi cael ei gario allan yn y ffatri trwy'r bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Caewyd Square Hall yn 1957 ac fe'i defnyddir yn awr fel ystordy.
Amodau gwaith
Roedd yr amodau gwaith yn y ffatrïoedd yn wael iawn. Roedd rhaid i'r gweithwyr a oedd yn cynnwys dynion, menywod a phlant weithio oriau hir ac yna derbyn cyflog bach. Roedd y merched yn israddol i'r dynion a byddent yn cael cosbau am siarad wrth weithio ac edrych allan trwy'r ffenestri. Bu cyfarfodydd gan y gweithwyr er mwyn ymdrin â'r anghyfiawnderau hyn.
Ar Hydref 8fed 1891 gwnaethant rybuddio'r meistri byddent yn streicio os na byddent yn cael eu trin yn well. Eu dymuniadau oedd gweithio 7am- 7pm, 2 awr i ginio, dim llai nag 1 swllt yr wythnos, prentisiaeth 3 mlynedd a dim rhaid i'r gweithwyr dalu dim mwy nag 1swllt y dydd am fwyd a llety. Nid oedd y meistri yn fodlon efo'r oriau gwaith felly aethant ar streic. Y broblem gyda ffatrïoedd yn agos i'w gilydd oedd, os bydde gweithwyr yn cwyno a chael eu diswyddo yna byddent yn methu cael swydd mewn ffatri arall oherwydd bydde'r meistri wedi rhybuddio'r ffatrïoedd eraill. Hefyd roedd tŷ^ pob un o'r meistri uwchben yn edrych i lawr ar y ffatri. Bydde'r meistri yn gallu gweld yn union pwy oedd yn hwyr i'r gwaith. Hefyd roedd yn symboleiddio statws y meistri yn y gymdeithas.
Oes Aur y diwydiant gwlân yng Nghymru oedd rhwng 1914 a 1918 sef adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu galw mawr am nwyddau fel lifrau, menig a sanau ar y milwyr a oedd yn mynd i ryfel. Felly bu llawer iawn o waith i'r diwydiant gwlân yn y cyfnod yma. Er ei fod yn gyfnod llwyddiannus yn y 20au bu dirwasgiad mawr a diffyg masnach ar ôl cyfnod mor brysur. Bu'r ffatrïoedd yn tyfu a thyfu yn yr Oes Aur ond ar ôl i'r galw am y gwlân ostwng roedd y ffatrïoedd yn colli arian. Yn ystod yr adeg yma bu llawer o'r ffatrïoedd yn cael eu llosgi lawr mewn cyfnod byr iawn. Roedd llawer yn credu mai ffordd allan oedd hyn trwy gael arian yswiriant er mwyn masnachu eto neu ddianc o'u problemau.
Bywyd cymdeithasol y cyfnod
Yn gyffredinol roedd bywyd hamdden a chymdeithas tu allan i'r ffatri yn dda. Roedd y Capel yn y pentref wedi gorfod cael ei ail-adeiladu i wneud lle i fwy o bobl. Yn y Capel roedd ysgolion Sul, ysgol gân, cymanfaoedd canu a'r Band Of Hope. Hefyd ffurfiwyd y Band Dirwest Urad Annibynnol y Rechabiaid, Dyffryn Bargoed. Roedd llawer o dimau Chwaraeon i gael, sef timau rygbi, pêl droed, hoci a mabolgampau.
Roedd hefyd sioeau garddio, clybiau dramâu, gwnïo, gweithio basgedi, hela, billiards a dosbarthiadau nos i gael yn Nrefach. Roedd hyd yn oed Côr Meibion Bargoed Teifi yn bodoli. Roedd y tafarndai yn boblogaidd iawn, yn enwedig Gwesty'r Red Lion ac roedd Eisteddfodau a Charnifalau yn cael eu cynnal yn y pentref. Roedd sinema yn Nrefach Felindre - roedd hyn yn eithriad yn y gorllewin. Roedd effaith y rheilffyrdd wedi dod â llawer o ddigwyddiadau hamdden y cymoedd i Drefach Felindre.
Gan Dafydd Rhys Evans, disgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cliciwch yma i ddarllen am drip Adran Hanes Ysgol Dyffryn Teifi i'r Amgueddfa Wlân yn Drefach Felindre.
Cliciwch yma i ddarllen am hanes yr ardal