Bum yn ddigon ffodus yn ddiweddar i gael fy nerbyn i gynllun cyfnewid Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Wedi cyfres o gyfweliadau a llwyth o waith papur, cynigwyd lle i mi am bum mis ym Mhrifysgol McGill, yng Nghanada.
Roeddwn wedi breuddwydio am Ganada ers yn blentyn, ac wedi ysu ers amser maith i gael ymweld â'r wlad hynod yma. Roedd gen i deulu ar y cyfandir yn ogystal nad oeddwn erioed wedi cal y fraint o'u cyfarfod. Roedd yn cynnig rhy dda i wrthod!
Wedi esbonio wrth Mam y bydden i'n dychwelyd i Gymru fach mewn da bryd, roedd yn amser ffarwelio â fy ffrindiau a chychwyn am faes awyr Heathrow.
Roedd y daith awyren o Lundain yn hirfaith! Roedd hyn efallai yn ganlyniad anochel o'r emosiynau cymysg oeddwn yn teimlo wrth ymadael â Chymru; ar yr un llaw roeddwn yn ddigalon wrth ffarwelio â phawb adref, ac yn bryderus am yr hyn oedd yn fy nisgwyl mewn gwlad gwbwl estron ochr arall yr Iwerydd. Ond mi roeddwn yn llawn cyffro a brwdfrydedd yn ogystal, wrth i mi gychwyn ar gyfnod bythgofiadwy ac amhrisiadwy fel myfyriwr cyfnewid yng Nghanada.
Yn naturiol mi oeddwn wedi gwneud ychydig o waith ymchwil cyn cychwyn ar fy nhaith. Mi oeddwn wedi pori drwy dudalennau'r efengyl bytholwyrdd hwnnw, The Lonely Planet Guide i Ganada.
Cefais fy rhybuddio o flaen llaw gan y tudalennau hynny fod Canada yn wlad gosmopolitan ac aml-ddiwylliannol, ac iddi hinsawdd a thirwedd amrywiol. Roeddwn yn ogystal wedi gwneud nodyn o'r atyniadau lu oedd gwerth ymweld â hwy tra oeddwn yr ochr yma o Fôr yr Iwerydd; Y Niagra Falls, Ynys Vancouver, Mynyddoedd y Rockies, ymhlith nifer lawer o atyniadau eraill i ymweld â nhw.
Roeddwn wedi hanner-clywed fod Canada yn wlad ddwy-ieithog yn ogystal, a bod y sefyllfa ieithyddol yn debyg i'r sefyllfa yng Nghymru, gyda tua 20% o'r boblogaeth yn medru'r Ffrangeg fel ail-iaith.
"Bonjour Monsieur... accueillir à Montréal!."
Dyma oedd y cyfarchiad a dderbyniais i gryn syndod, wrth i mi gyrraedd maes awyr Montreal yng Nghanada. Wrth ymlwybro drwy'r adran duty-free bondigrybwyll, roedd hysbysebion trawliadol Versaces a Channelles y byd 'ma yn gwbwl uniaith Ffrangeg.
Wrth i mi adael y maes awyr mewn tacsi, gorfodwyd i mi droi'n llaw i fy ngeiriadur Ffrangeg. Roedd cyfarwyddo'r gyrrwr i'r gwesty drwy gyfrwng y Saesneg yn dasg gwbwl amhosibl! Yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr cyfnewid yn Quebec, mi oeddwn i ddysgu fod y siaradwyr Ffrangeg mewn gwirionedd yn y mwyafrif yn y dalgylch yma. Nid iaith yr elitiaid neu'r dosbarth-canol ydoedd, ond mewn gwirionedd iaith y sector gyhoeddus a phreifat, y dosbarth ganol a'r dosbarth gweithiol, yr hen yn ogystal a'r ifainc.
Mae'r Ffrangeg yn iaith fyw a gweledol yma.
Bywyd Academaidd
Roedd bywyd academaidd yng Nghanada yn brofiad bur wahanol i'r hyn oeddwn wedi arfer gyda yn y Brifysgol yn y Deyrnas Unedig. I gychwyn, roedd yna fwy o ddarlithoedd, ac roedd cyfaint y gwaith yn drymach. Doedd safonau ddim yn wahanol i'n prifysgolion adref yng Nghymru, ond rywsut roedd disgwyliadau o'r myfyrwyr yn uwch. Roedd y myfyrwyr yn fwy cydwybodol o'i gwaith yn ogystal - yn codi i'w darlithoedd am wyth y bore, ac yn gweithio yn galed yn y llyfrgell hyd berfeddion y nos! Roedd cysgu fewn nes amser cinio cyn mwynhau'r bennod ddiweddaraf o Neighbours, ddim yn opsiwn!
Bywyd Cymdeithasol
Mae Montreal yn ddinas ryngwladol, ac iddi boblogaeth oddeutu tair miliwn. Ffrangeg ydy'r brif iaith, ond wrth gerdded ar hyd y strydoedd clywir cybolfa o ieithoedd; y Saesneg, yr Arabeg, yr Eidaleg, Sbaeneg a'r Hebraeg.
Mae gan y cymunedau ethnig yma bresenoldeb weledol yn y ddinas. Mae yna dref Eidaleg gref a thref Tsieneaidd, ac yma doreth o siopau, tai bwyta a thafarndai amrywiol.
Mae'r bywyd cymdeithasol gyda'r nos yn fywiog, â'r ddinas yn brolio mae hi yw prif ddinas "Bywyd-Nos" gogledd America. Mae yna rywbeth at ddant pawb - o dafarndai tawel a chyfeillgar, i'r clybiau nos mwyaf anferthol a welodd y greadigaeth!
Bum yn ddigon ffodus fel aelod o Gymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol y brifysgol i gael ymweld ag Efrog Newydd a Boston dros y ffin, yn ogystal ag ymweld â phrif ddinas Canada, Ottawa, a'i phrif ddinas masnachol a siopa, Toronto.
Cyrhaeddais i Ganada yn ganol mis Awst, a hithau oddeutu 32C. Erbyn y Nadolig roedd hi oddeutu 20 gradd o dan y rhewbwynt! Roedd gwybdeithiau sgïo ac eira fyrddio, ac yna paned o siocled poeth o flaen crât mawr o dân yn ffynhonnell gwych i'n cynhesu gyda'r penwythnosau.
'Dyw'r golofn bitw yma ddim yn gwneud cyfiawnder i'r holl brofiadau anhygoel a ges i yng Nghanada. Fe ddysgais i lawer am fy hunan yn ogystal am bobl eraill, wrth i mi gwrdd â'r bobl mwyaf diddorol, a gwneud ffrindiau da am oes gyda myfyrwyr o bedwar ban byd.
Er mor boenus oedd cefni ar yr holl brofiadau ac atgofion hapus yn Montreal, roeddwn yn ddigon bodlon i gael dychwelyd i Gymru. Mi fyddai Nadolig yng Nghanada heb ginio Nadolig Mam heb fod yr un fath!
Gan Tomos Dafydd o Gaerdydd.
Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.