Ai hwn yw'r tro cyntaf i ti gystadlu yn y Genedlaethol?
Dwi wedi bod yn cystadlu yn y Genedlaethol ers rai blynyddoedd bellach - mae'n wir i ddweud ei fod wedi troi'n dipyn o obsesiwn! Mi es ati i gystadlu yn y mân gystadleuthau i ddechre, gan ennill gwobr sgript deledu, ac yn dilyn hynny, ysgoloriaethau Geraint Morris a ysgoloriaeth Emyr Feddyg. Ac wrth gwrs, mi fuais hefyd yn anobeithiol o aflwyddiannus mewn sawl cystadleuaeth! Wedi i mi ennill ar y stori fer yn 2004 mi benderfynais rhoi cynnig ar y Fedal Ryddiaith gyda'r nofel Lliwiau Liw Nos. Gan iddi gael beirniadaeth ffafriol, mi benderfynais ei chyhoeddi y flwyddyn honno. Y nod, bob amser, am wn i, oedd ennill y Fedal Ryddiaith, a phan enillais i eleni nes i feddwl "wel 'na ni, tra'd lan am sbel nawr!"
Pam cystadlu o gwbl?
Mae cael beirniadaeth di-duedd yn rhywbeth prin iawn yng Nghymru, felly mae'n braf llechu tu nôl i ffugenw a chael beirniadaeth gynhyrchiol a gonest wrth awduron profiadol. Dwi wedi dysgu cymaint trwy wneud hynny dros y blynyddoedd - o gystadlu yng nghystadleuthau llenyddol Eisteddfod Coed y Bryn pan ro'n i'n ddim o beth, i gystadlu yn yr Eisteddfod Ysgol yn Nyffryn Teifi a Steddfodau lleol fel Castellnewydd Emlyn a Pontrhydfendigaid, ac yna ymlaen at Eisteddfod yr Urdd. Dwi'n meddwl bod cystadlu'n gyson yn rhywbeth iach iawn i'w wneud, mae'n rhoi nod pendant i chi - ac yn gwneud i chi wthio eich hunan dipyn ymhellach bob tro. Mae e hefyd yn rhywbeth anodd, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n cael beirniadaeth anffafriol - ond mae'n rhaid dysgu i ddelio â hynny, ac i barchu barn y beirniaid a gweld lle mae'r gwendidau.
Shwt deimlad oedd hi i ddarganfod dy fod yn fuddugol?
Teimlad braf a rhyfedd iawn! O'n i wedi bod bant yn yr Eidal ac wedi blino'n lân a dyma alwad yn dod rhyw nos Sul a finne'n dweud wrth fy nghariad "Ateb di e - wy ddim ishe siarad da neb." Ond gan ei fod wedi synhwyro rhywbeth 'swyddogol' yn y llais mi basiodd y ffôn i mi a minne'n clywed y geiriau mae pob cystadleuydd yn gobeithio eu clywed: "Helo, Hywel Edwards trefnydd y Steddfod sydd yma!" Wedi i mi ddadebru mi rhannais botel o siampên gyda fy nghariad ac ymfalchïo a chwerthin a mynd i gysgu y noson honno yn gwenu fel giât! Mi es adre wedyn i ddweud wrth mam wyneb yn wyneb, a hithe'n lled-hysterig o hapus! Yna, dweud wrth Dad, a oedd ar y ffordd i Gaerdydd yn ei gar. Roedd e'n gyrru dros rhiw Alltwalis pan ffonies i fe ar y ffôn symudol a dweud, "Mae gen i rywbeth i ddweud wrthot ti," ond wrth gwrs, gan nad yw'r signal ffôn yn gryf iawn yn y fan honno, mi ddiflannodd y signal ac bu'n rhaid i Dad ddyfalu pob math o bethau anffodus cyn fy ffonio'n ôl rhyw bum munud wedyn!
Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl tra'n eistedd yn y pafiliwn a gwrando ar y beirniadaethau?
Dwi'n meddwl bod pawb yn ofni i'r foment fawr gael ei ddifetha trwy glywed mai mond nhw sydd yn y ras! Ond wedi i mi glywed y feirniadaeth a chlywed bod 13 wedi cystadlu, fy meddylfryd nesaf oedd, a fyddaf i'n gallu codi ar fy nhraed? Fe aeth yr utgorn a dyma fy nghalon yn dechrau curo'n uwch nag arfer. Pan dwi'n meddwl nôl dwi'n chwerthin am y nerfusrwydd hynny - y cyfan oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd codi ar fy nhraed a cerdded i'r llwyfan. Ond o dan amgylchiadau dwys fel 'na, mae'r pethau symlaf yn ymddangos yn arallfydol!
Rho fraslun o'r nofel
Hanes awdur preswyl yn cyrraedd Ynys Enlli ac yn cwrdd â chymysgedd o gymeriadau lliwgar - archeolegwyr, ecolegwyr, adaryddwyr a chriw teledu. Mae hi'n stori sy'n pendilio rhwng y llon a'r lleddf ac yn rhoi darlun triw, gobeithio, o'r ynys fel y mae hi heddiw. Mae hi hefyd yn cwestiynu y broses o greu stori, ac yn gofyn y cwestiwn - stori pwy yw hi mewn gwirionedd? Mae pawb ishe hawlio'r ynys yn y nofel hon, a rhai yn mynd i eithafion digri a gwallgo wrth geisio gwneud hynny. Ond yn y pendraw, dwi'n gobeithio ei bod hi'n stori dda am bobl diddorol - ac yn rhywbeth ar gyfer pobl o bob oed.
Faint o dy amser a gymerodd i ti ei hysgrifennu?
Dwi'n cofio'n glir y foment nes i ddechrau arni. Ro'n i yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2004, wedi blino'n lân ar fy ngwaith ymchwil, ac mi ddiffoddais y ddogfen o'n i'n gweithio arni a syllu ar y dudalen lân o 'mlaen, a honno'n llawn posibiliadau. Sgwennais i'r geiriau yma'n unig - `Colli'r cwch cyntaf - am mai dyma'n wir a ddigwyddodd y tro cyntaf i mi ymweld ag Enlli. A rhywsut, daeth rhyw ffrwd o syniadau o rhywle, a mi fum i'n sgwennu'n ddibaid am awr, a chreu, yn ddiarwybod i mi, beth fyddai ail bennod y nofel 'Atyniad'. Yna, wrth gwrs, dechrau teimlo'n euog am esgeuluso fy ngwaith ymchwil a mynd yn ôl at hwnnw, yn ddigalon ddigon.
Rhyfedd meddwl bu'n rhaid aros blwyddyn a hanner, bron, cyn mynd ati i sgwennu'r gweddill rhwng Hydref a Rhagfyr 2005. Ond rhwng y ddau gyfnod ges i dipyn o amser i feddwl ynghylch beth o'n i am ei ddweud, a sut ro'n i am ddweud y stori, ac roedd y pellter hwnnw yn angenrheidiol er mwyn clymu'r holl beth at'i gilydd.
Hon yw dy ail nofel; cafodd dy un gyntaf `Lliwiau Liw Nos' ymateb da iawn. Pam felly, gystadlu â nofel arall yn hytrach na'i chymryd at y wasg a'i chynhyrchu?
Ro'n i wedi bwriadu sgwennu am Enlli ers i mi ddod oddi yno yn 2002, ac mi rhoddodd thema'r Fedal y flwyddyn honno - `Llanw a Thrai' - gyfle perffaith imi wneud hynny. Mae angen dyddiadau cau ar rywun fel fi i orfodi fy hunan i ddod â darn o waith i ben. Dwi'n gweithio'n well dan bwysau, ac at bwrpas, ac mae'r Eisteddfod yn gosod cyfyngiadau angenrheidiol. Gan i mi ddod yn agos y llynedd ro'n i'n teimlo y dylwn gystadlu eto - ac mae'r ffaith bod y nofel bellach yn gwisgo bathodyn cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith wedi gwneud tipyn o wahaniaeth, o ran poblogrwydd a gwerthiant, sydd yn braf o beth.
Rwyt ti'n ddarlithydd yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe - oes gen ti ddiddordeb ysgrifennu yn yr iaith honno?
Dwi ddim yn erbyn sgwennu yn Saesneg, ond pe bawn yn gwneud hynny, fe fyddwn yn addasu neu gyfieithu syniadau o'r Gymraeg er mwyn trosglwyddo'r syniadaeth. Mi sgwennais stori fer yn Saesneg ar gyfer prosiect Ewropeaidd y Scritture Giovani a oedd yn gyfieithiad o stori fuddugol Eisteddfod Casnewydd, a chafodd honno ei chyfieithu wedyn i Eidaleg, Almaeneg a Norwyeg, ac roedd hi'n gyffrous i weld y stori honno'n 'teithio' o'r naill ddiwylliant i'r llall ac yn cael ei gwerthfawrogi tu allan i Gymru. Iaith academaidd y bu Saesneg i mi'n bennaf - ces fy swyno gan yr iaith a'i llenyddiaeth wrth astudio dan arweiniad Y Prifardd Ceri Wyn Jones yn Nyffryn Teifi, a mynd ymlaen wedyn i wneud gradd yn Saesneg. Roedd hi'n fwy o sialens, rhywsut, ac yn anoddach ei meistroli, ac mae 'na bob amser rhyw atyniad rhyfedd at rywbeth 'estron,' a'r ysfa i deall a dehongli yr elfen estron honno.
Beth wyt ti am ysgrifennu nesaf?
Dwi wedi bod digon ffodus i gael nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru i ysgrifennu nofel arall. Mae hon yn gomedi tywyll sy'n olrhain hanesion trefnwyr angladdau yn Sir Gâr, lle dwi bellach yn byw. Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod tad fy nghariad yn drefnwr angladdau, felly mae gen i gysylltiadau da! Dwi hefyd yn sgriptio i Pobol y Cwm ar hyn o bryd.
Rwyt ti hefyd yn chwarae'n gyson gyda'r band 'Fflur Dafydd a'r Barf' gan gyfansoddi'r caneuon, beth yw amser hamdden i ti?
Bu cerddoriaeth yn hobi ers cyhyd dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi sylwi ei fod wedi mynd yn waith! Ond mae'n wir i ddweud bod darllen, sgwennu, hyd yn oed gwylio sebon bellach yn perthyn i'r categori 'gwaith'! Yr unig bryd dwi wir yn teimlo'n ymlaciedig ac 'off-duty' yw pan dwi'n gwylio ffilmiau - prynodd fy mrawd lyfr imi'n ddiweddar o'r enw '2001 films to see before you die' felly dwi'n meddwl fydd gen i ddigon i fy nifyrru am sbel!
Fflur Dafydd yn ennill y Fedal Ryddiaith (cyfres o luniau)
Holi Fflur Dafydd: Papur Bro Cwlwm Hydref 2006