Cafwyd dwy eitem gan y ddau gôr yn unedig hefyd, a chan fod y darnau hynny wedi eu paratoi, beth am gystadlu hefyd yn y gystadleuaeth Côrau Cymysg yn y Steddfod ei hunan, awgrymodd rhywun, dan yr enw Côr Codi'r To.
Wedi dechrau cael blas ar ganu fel côr cymysg, awgrymodd y Côr Meibion wedyn y dylid cystadlu yn Steddfod Castellnewydd Emlyn ym mis Medi, a rhwng popeth fe enillodd y côr undebol ddwy ail wobr o rai cannoedd o bunnau.
Penderfynodd y Côr Meibion roi eu rhan nhw o'r enillion i eluseun Canolfan Therapi Ocsigen Aberteifi, a rhoddodd y merched eu cyfran i elusennau Dystroffi'r Cyhyrau a Gofal Canser Aberteifi.
Nid dyna fydd diwedd y daith, fodd bynnag, oherwydd bydd cyfle i chi eu clywed eto yn Neuadd Aberporth nos Sul, 9 Rhagfyr, ynghyd â Phlant Ysgol Blaenporth, mewn cynerdd Nadolig, a'r elw'n mynd at gronfa i godi neuadd newydd yn Aberporth. Cadwch y dyddiad hwnnw'n rhydd felly.
 |