Y diwrnod olaf oedd y diwrnod prysuraf dw i'n meddwl. Ar un adeg roeddwn i'n cario tri ymbar茅l, bocs y camera, tripod a mwy ac o'n i wir yn meddwl bydde'n nghoesau i'n rhoi o dana' i! Gorfod i fi gael buggy yn nes mlaen yn y dydd achos bod yr holl offer i'w cario. Rhwng edrych ar gystadleuaeth dringo pyst, ffilmio anifeiliaid y bridiau cynhenid, edrych ar 么l y cyflwynwyr a chael sgwrs gyda Dai Lewis o Sir G芒r - Llywydd y Sioe flwyddyn nesa', mae wedi bod yn ddiwrnod amrywiol iawn unwaith eto. Gafon ni noson dda ym mhentref y bobol ifanc neithiwr. Gig y grwpiau Mercury ( tribute band i Queen) a Crazy Apes oedd yno. Roedd hi'n noson dda, ond gan nad o'n ni'n gallu cael bws mini na thacsi yn 么l i'r gwesty fe wnaeth tua deuddeg ohonon ni gysgu mewn caraf谩n! R'on ni wedi dod 芒'n cesys gyda ni yn barod, felly roedd hi'n iawn. Er fy mod wedi mwynhau'r wythnos ma's draw rydw i'n edrych mlaen i gael cwsg iawn adref, bwyd mam (yn hytach na jymbo sosej a tjips!) a gwylio Big Brother. Wrth edrych yn 么l ar yr wythnos mae gen i atgofion meys iawn. Fe gwrddes i 芒 lot o bobol, gwneud ffrindiau newydd a chael lot fawr o sbort. Dw i'n methu aros i fynd yn 么l eto y flwyddyn nesa'. Hwyl fawr am eleni! Owain Llyr
|