Wnes i gwrdd 芒 phobl o Wlad P诺yl ac America oedd wedi dod i'r Sioe yn arbennig i weld y Frenhines. Roedden nhw'n aros yn Lloegr ar eu gwyliau ac wedi clywed am yr ymwelydd Brenhinol ac felly penderfynu dod draw i Lanelwedd. Roedd na dipyn o ffws a chyffro gan bod Y Frenhines a Dug Caeredin yma, wnes i ddim cwrdd 芒 hi yn bersonol ond roedd hi yng Nghylch y Gwartheg yn cyflwyno gwobrau pan o'n ni yno yn ffilmio. Er mai diwrnod mawr y Cobiau Cymreig oedd hi yn y sioe heddiw, lot mwy o logio siots camera o wartheg oedd hi i fi eto. Yng Nghylch y Gwartheg o'n i am ran helaeth o'r bore - lot mwy o ddom da a phen 么lau! A dweud y gwir falle eich bod chi wedi fy ngweld i ar y teledu heddiw. Roedd criw ffilmio'r rhaglen ddigidol sy'n fyw ar S4C drwy'r dydd o'r sioe, yn ffilmio linc byw yng Nghylch y Gwartheg. R'on i'n canolbwyntio gymaint ar y clipboard yn fy llaw, heb i fi sylweddoli, mi wnes i gerdded reit o flaen y camera ac yn syth i mewn i lwmpyn o ddom da! A hynny yn fyw ar y teledu. Cywilydd! Mae gen i un trainer wen ac un trainer frown nawr. Ma' heddi di bod yn ddiwrnod amrywiol iawn mae'n rhaid dweud. Gafon ni gyfle i wylio cystadlaethau'r ffermwyr ifanc - y tug of war a chystadleuaeth Seren W卯b (Stars In Their Eyes.) Roedd y rhai enillodd o Went yn dynwared The Darkness - r'on nhw wir yn dda. Ges i glonc 'da Merched y Wawr pnawn 'ma hefyd - r'odd rhaid aros am ddwy awr i Sulwyn Thomas gyrraedd i wneud eitem, felly bues i'n yfed te a bwyta Ginger Snaps gyda'r menywod draw ar eu stondin nhw! Dim ond diwrnod arall i fynd, ond cyn hynny mae amser am noson arall o joio. Mynd i'r YFC Dance ym mhentref y bobol ifanc heno, ond bydd rhaid codi eto bore fory am 5.30 y bore am ddiwrnod arall o waith cyn mynd adre'! Jyst gobeithio wna' i ddim cwympo i gysgu dros fy mowlen o Coco Pops eto bore fory, fel wnes i bore 'ma! Hwyl am y tro, dewch n么l fory i ddarllen y cofnod olaf o'r dyddiadur! Owain Ll欧r
|