Dyn ifanc golygus oedd Culhwch, ac roedd yn chwilio am wraig. Ond tyngodd ei lysfam na ch芒i briodi neb ond Olwen - ac roedd priodi Olwen yn amhosibl. Hi oedd y ferch brydferthaf yn y byd, ond nid oedd neb yn gwybod ble roedd hi'n byw. Gyda help Arthur a'i filwyr bu Culhwch yn chwilio amdani am flwyddyn gron. Daeth o hyd iddi o'r diwedd - yn gwisgo mantell sidan fflamgoch ac yn harddach na neb byw.
Byddai'n rhaid i Culhwch gael caniat芒d i'w phriodi. Roedd tad Olwen, y cawr mileinig Ysbaddaden, yn enwog am ladd pob dyn a ddeuai i ofyn am law ei ferch. Pam? Oherwydd byddai Ysbaddaden yn syrthio'n farw ar ddydd priodas Olwen.
Ar 么l bargeinio'n galed 芒'r cawr cafodd Culhwch ganiat芒d i briodi Olwen ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau cwbl amhosibl i unrhyw ddyn byw fedru eu cyflawni. 'Dim problem!' meddai Culhwch wrth glywed y rhestr, a rhedodd at Arthur am help.
Un o'r tasgau oedd dod o hyd i Mabon fab Modron. Pan oedd Mabon yn dair noson oed ac yn cysgu'n braf yng ngwely ei fam, daeth rhywun a'i gipio i ffwrdd. Ni welodd neb mohono fyth wedyn. Ble gallai fod? Penderfynodd Culhwch ofyn i'r Anifeiliaid Hynaf yn y Byd a oeddynt hwy yn gwybod ble roedd Mabon.
Gwyddai Eog Llyn Llyw am ddyn a oedd mewn carchar creulon iawn. Mabon! Gyda help rhyfeddol milwyr Arthur, ymladdodd Culhwch yn ffyrnig yn erbyn milwyr y carchar, a chario'r dydd. Roedd Mabon yn rhydd.
Tasg arall oedd hela'r Twrch Trwyth. Baedd gwyllt oedd hwnnw, a chariai grib, siswrn a rasel ar ei ben. Roedd angen dwyn y grib, y siswrn a'r rasel er mwyn i Ysbaddaden Bencawr fedru ymbincio ar gyfer y briodas.
Yn Iwerddon yr oedd gw芒l y Twrch. Dyma Arthur yn gosod ei g诺n ar y Twrch, ac yn gorchymyn byddin o Wyddelod i ymosod arno. Dim llwyddiant. Yna fe ymosododd milwyr Arthur arno - a hyd yn oed Arthur ei hun - ond dianc a wnaeth y Twrch. Nofiodd dros y m么r i Gymru a brwydro ei ffordd drwy'r de.
Ar lan afon Hafren ymosododd milwyr Arthur arno unwaith eto a chau'n dynn amdano. Llwyddiant! Cipiodd Mabon y rasel o ben y Twrch. Rhuthrodd Cyledr Wyllt i'w ben o'r ochr arall a chipio'r siswrn. Ond cyn i neb fedru cael gafael ar ei grib, dihangodd y Twrch a rhedeg fel y gwynt i Gernyw, a'r milwyr a'r c诺n yn dynn ar ei sodlau.
Bu brwydr fawr yng Nghernyw. O'r diwedd cipiwyd y grib a diflannodd y Twrch Trwyth i'r m么r.
O un i un, cyflawnodd Culhwch y tasgau nes mai dim ond un oedd ar 么l. Casglu gwaed y Wrach Ddu Iawn oedd y dasg olaf.
Dewiswyd dau frawd, Cacamwri a Hygwydd, i gasglu gwaed y wrach. Wrth iddynt sleifio i mewn i'w hogof dywyll, gafaelodd y wrach yn Hygwydd gerfydd gwallt ei ben, a'i daro'n galed ar lawr. Rhoddodd gosfa iawn i'r ddau. Ac felly hefyd i ddau arall a geisiodd ymladd 芒 hi.
O'r diwedd cipiodd Arthur geg yr ogof ac anelu at y wrach 芒'i gyllell, Carnwennan. Tarodd y wrach yn ei chanol, a'i thorri'n ddau ddarn nes bod ei gwaed yn llifo'n goch. Casglodd Caw ef i bwced mewn dim o dro.
Aeth Culhwch ar ei union i lys Ysbaddaden Bencawr. Eilliwyd barf Ysbaddaden hyd yr asgwrn. Gofynnodd Culhwch iddo, 'A gaf fi briodi Olwen yn awr? Mae'r tasgau i gyd wedi eu cyflawni.'
'Dros fy nghrogi!'
Torrwyd pen Ysbaddaden a chipiodd Culhwch ei deyrnas.
A dyna sut cafodd Culhwch Olwen ferch Ysbaddaden Bencawr yn wraig.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.