91热爆

Islam

Twr Mosg

Rheinallt Thomas yn trafod crefydd Islam

Hanes

Islam yw un o'r crefyddau mwyaf poblogaidd ar y ddaear.

Ni ellir bod yn sicr ai hi yw'r grefydd fwyaf, ond mae'n parhau i gynyddu'n llawer cyf1ymach na Christnogaeth .

Cyn geni Muhammad, roedd rhai o'r credoau sy'n sylfaenol i Islam fel y mae heddiw, eisoes yn bodoli.

Ganwyd Muhammad ym Mecca - yn Saudi Arabia - ac roedd yn byw rhwng 570 a 632 O.C.

Credai iddo gael ei ddewis gan Allah (Duw) i ledaenu neges Islam ymhlith y bobl.

Yng nghyfnod Muhammad roedd amryw o grefyddau eraill yn bodoli yn y Dwyrain Canol a'r hynaf ohonynt oedd Iddewiaeth .

Crefydd gymharol newydd oedd Cristnogaeth ar y pryd.

Dilynai eraill grefyddau llai gan addoli ysbrydion a drigai mewn gwrthrychau fel afonydd a choed.

Lledaenodd Islam drwy'r Dwyrain Canol yn ystod ac ar 么l oes Muhammad.

Wedi iddo farw , bu ei bedwar olynydd,

  • Abu Bakr
  • Umar
  • Uthman ac
  • Ali
yn gyfrifol am ledaenu'r grefydd newydd.

Yn raddol lledaenodd Islam i rannau helaeth o'r byd.

Man addoli

Gelwir y lle y mae Mwslimiaid yn addoli ynddo yn Mosg.

Man i gydwedd茂o yw Mosg, ac yn y rhai mwyaf mae yna hefyd fannau i gredinwyr astudio ac ystafelloedd i addysgu plant.

Gall maint y Mosg amrywio' n arw ac ym Mhrydain ceir hwy mewn adeiladau amrywiol iawn.

Yn y Dwyrain, mae'n llawer haws adnabod Mosg oherwydd y Minaret tal - sef math o dwr lle bydd y Muezzin yn galw'r ffyddloniaid i wedd茂o.

Mae glendid yn hynod bwysig i'r Mwslimiaid, a byddant yn golchi eu hwynebau, dwylo a thraed yn ddefosiynol cyn gwedd茂o.
Mae gan bob Mosg gyfleusterau ymolchi.

Cyn mynd i mewn i'r ystafell wedd茂o, bydd Mwslimiaid yn diosg eu hesgidiau.

Y dynion sy'n cydwedd茂o gan nad yw merched, fel rheol, yn mynychu'r Mosg ond yn gwedd茂o gartref.

Bydd Mwslimiaid yn gwedd茂o gan wynebu Mecca - sydd i'r dwyrain o Brydain - ac ar ddydd Gwener fel rheol.

Yr Imam fydd yn arwain y gwedd茂au.

Mewn Mosg bach, pregethwr lleyg yw'r Imam, ond yn y Mosgiau mawrion, mae'n swydd llawn amser.

Saif yr Imam o flaen y gynulleidfa gan wynebu'r Mihrab, (cilfach neu arwyddnod yn cyfeirio at Mecca), a dechrau gwedd茂o a'r gynulleidfa, hithau, yn ail adrodd ei wedd茂au ac yn efelychu ei symudiadau.

Bydd Mwslimiaid yn gwedd茂o bum gwaith bob diwrnod ar adegau penodedig.

Ysgrythurau Sanctaidd

Y Qur'an yw'r enw ar lyfr cysegredig y Mwslimiaid; weithiau caiff ei sillafu yn Koran.

Credir mai geiriau Duw yw'r darlleniadau o'r Qur'an: geiriau a adroddwyd wrth Muhammad gan yr Angel Gabriel.

Dysgodd hwy ar ei gof drwy eu hadrodd drosodd a throsodd am na allai ddarllen nac ysgrifennu.
Yna, byddai yn adrodd y geiriau hyn wrth ei ddilynwyr yn ei bregethau.

Yn ystod ei fywyd cofnodwyd sawl rhan o'r Qur'an ond dim ond wedi marwolaeth Muhammad y cynhyrchwyd y gyfrol gyflawn gyntaf ohono.

Ysgrifennwyd y Qur'an mewn Arabeg ond erbyn heddiw mae ar gael mewn sawl iaith.

Mae 114 Sura - pennod - yn y Qur'an.

Yn wahanol i lawer o grefyddau eraill, rhydd Islam gyfarwyddiadau manwl i'r dilynwyr sut i fyw eu bywydau bob dydd.

Mae gan Fwslimiaid lyfr arall y byddant yn ei ddarllen yn rheolaidd hefyd; Yr Hadith sy'n cynnwys llawer o ddywediadau a chynghorion.

Credoau

Mae Pum Piler credo sydd yn rhaid i Fwslimiaid eu harddel.

  • Un Duw sydd, Allah, a Muhammad yw ei broffwyd (Shahadah).
  • Mae'n rhaid gwedd茂o (Salat) bum gwaith bob diwrnod.
  • Dylai Mwslim roi 2.5% o'i incwm mewn elusen (Zakat)
  • Dylai Mwslim ymprydio (Sawm) a hynny'n arbennig yn ystod Ramadan.
  • Dylai Mwslim geisio mynd ar Bererindod (Hajj) i Mecca o leiaf unwaith yn ei oes.

Gwyliau

Bydd Mwslimiaid yn dath1u llawer o wyliau gan ddibynnu i pa gangen o Islam maen nhw'n perthyn ac ym mha wlad y maent yn byw.

Dyma rai o'r gwyliau poblogaidd:

  • Id-UI-Fitr (neu Eid) yw'r wyl sy'n dathlu diwedd Ramadan.
    Wedi mis o ymprydio, bydd pobl yn gwisgo'u dillad gorau ac yn ymweld 芒 theulu neu ffrindiau ac yn gwledda am dri diwrnod.

    Byddant yn mynychu'r Mosg ac yn gwedd茂o a diolch i Allah am roi'r nerth iddynt ddathlu Ramadan.

    Yn y Gorllewin bydd pobl yn aml yn anfon cardiau gyda'r geiriau "Eid Mubarak" arnynt, sy'n golygu Eid Hapus.

  • Hijra yw'r wyl sy'n dathlu ymfudiad Muhammad o Mecca i Medina.

    Sefydlwyd Islarn ym Medina cyn i Muhammad ddychwelyd i Mecca.

  • Pen-blwydd Muhammad - dethlir yr wyl hon am fis cyfan, ym mis Rabi'u1-Awwal yn 么l y calendr Mwslimaidd.

    I'r Mwslimiaid y diwrnod y ganwyd y proffwyd oedd yn mynd i'w gwaredu yw'r diwrnod pwysicaf a fu erioed.

Mae llawer o wyliau a dathliadau eraill nad ydynt yn cael eu dilyn gan bawb gan ddibynnu i pa gangen o Islam y perthyn person iddi.

Mwslimiaid a Chymru

Mae Mwslimiaid yn byw ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn gyda nifer yn siarad Cymraeg.

Mae amryw o fosgiau neu fannau cyfarfod mewn nifer o leoedd gan gynnwys Bangor, Y Rhyl, Cyffordd Llandudno, Caerdydd, Abertawe, Casnewydd.

Yng Nghymru Islam, ar 么l Cristnogaeth, yw'r ffydd fwyaf gyda'r rhan fwyaf o Fwslemaidd yn byw yng Nghaerdydd - 4 y cant o'r boblogaeth.

Yn 么l Cyfrifiad 2001 roedd Moslemiaid yn cyfrif am lai nag un y cant o'r boblogaeth yng Nghymru drwyddi draw - 22,000 o bobl.

O gefndiroedd Asiaidd y daw y rhan fwyaf o Foslemiaid, gan gynnwys 7,000 o Foslemiaid Pacistani a 5,000 o Foslemiaid Bangladeshi.

Tair mil o bobl wyn a ddywedodd eu bod yn Foslemiaid.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.