Tuag at un bryd
Omid Behi yn sôn am hanfodion ffydd µþ²¹³óá'Ã.
Y mae'r Ffydd µþ²¹³óá'à yn un o'r prif grefyddau ieuengaf yn y byd. Fe'i sefydlwyd yn Iran ym 1863 gan µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó (1817-1892).
Mae enw µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yn cyfieithu o'r Arabeg i Gogoniant Duw ac mae'r dilynwyr yn credu mai ef yw'r negeseuwr, neu'r amlygiad, diweddaraf o Dduw - ond ddim y negeseuwr terfynol.
Mae'r Ffydd µþ²¹³óá'à yn derbyn Abraham, Krishna, Moses, Zoroaster, Buddha, Iesu, Muhammad a'r Pab fel negeseuwyr Duw cyn µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó.
Dysgodd µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó bod negeswyr Duw yn ymddangos ac yn datgelu o'r newydd ei ewyllys a'i bwrpas i ni pryd bynnag y mae dynoliaeth yn symud ymaith oddi wrth Dduw ac yn anghofio ei ddysgeidiaethau.
Byd newydd
Mae'r µþ²¹³óá'à yn credu y bydd ddysgeidiaethau µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yn galluogi'r ddynoliaeth i lunio byd newydd a chyflawni ein pwrpas trwy sefydlu undod ar y ddaear.
Dysgodd µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó mai dynoliaeth megis fel un genedl yw'r cyflwr terfynol o esblygiad dynioliaeth.
Credir fod yr amser wedi cyrraedd y mae rhaid i ddynoliaeth symud ymlaen i aeddfedrwydd byd-eang ar ffurf un teulu dynol.
Meddai µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó: "Un wlad yw y byd a dynolryw yw ei dinasyddion."
Mae dysgeidiaethau'r µþ²¹³óá'à yn sôn am bwysigrwydd cydraddoldeb gan ymwrthod ag unrhyw fath o ragfarn gan weithio yn y gwahanol wledydd i ddileu ffafriaeth ac anghytgord.
Credir ym mhwysigrwydd 'undod mewn amrywiaeth' i ddatblygiad dynoliaeth
Fel gardd
Mab µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yw 'Abdu'l-Bahá ac mae ef yn sôn am ardd enfawr lle mae blodau o bob lliw, llun ac arogl yn tyfu gyda'i gilydd ac yn amrywiaeth yr ardd hon y mae ei harddwch a'i phleser
Mae'r Bahá'i heddiw yn brysur mewn proses o ddysgedigaeth byd-eang gan annog pawb i weithio â'i gilydd i wella cydlyniad cymdeithasol trwy weithredoedd a fydd yn gwella cymunedau.
Mae yna chwe miliwn yn dilyn y ffydd mewn 235 o wahanol wledydd gyda rhyw 6,000 ym Mhrydain.