Cofio Santes
Croeso i fis Chwefror! "White rabbits, white rabbits," fel y bydde Grav yn ei ddweud ar ddiwrnod cyntaf mis newydd.
Mae heddiw yn ddydd Sant Brid, neu Bridget, yn Iwerddon ac felly yn 糯yl San Ffraid yma yng Nghymru.
Cyn iddi ddod yn santes Gristnogol, un o'r hen dduwiesau Celtaidd oedd Brid, fel Rhiannon a Modron - yn wir, mae'r chwedlau Gwyddelig yn honni mai hi oedd berchen ar y Twrch Trwyth.
Roedd ei dydd g诺yl yn achlysur pwysig iawn yn y dyddiau cyn-Gristnogol, ac yn cael ei gysylltu 芒 gobaith am ddyfodiad y gwanwyn.
C芒i ei ystyried yn ddiwrnod cyntaf y gwanwyn, coeliwch neu beidio - er nad oedd hi'n teimlo lawer felly wrth i mi grafu'r rhew oddi ar y car y bore ma!
Diwedd y gaeaf
Dyma'r diwrnod hefyd, yn 么l yr hen grefydd, y byddai pobl yn gallu gweld a oedd diwedd y gaeaf gerllaw.
Os oedd yr hen wraig hyll Calach (Cailleach), yn penderfynu dod allan i gasglu coed t芒n, a hithau'n ddiwrnod braf a heulog, yna byddai o leiaf chwe wythnos o aeaf caled eto i ddod.
Ond ar ddiwrnod o dywydd gwael, prin fyddai gobaith y gwelid y Galach am ei bod yn dal i gysgu, ac roedd hynny'n newyddion da - roedd yr hirlwm ar fin dod i ben.
Dyma wreiddyn Groundhog Day yn yr Unol Daleithiau, sy'n cael ei ddathlu fel arfer ar yr ail o Chwefror, diwrnod G诺yl Fair y Canhwyllau, neu Candlemass Day - diwrnod arall a gysylltir 芒 Brid, Bridget neu Ffraid, a diwrnod a gafodd ei amsugno gan Gristnogion cynnar i fod yn un 芒 diwrnod Puredigaeth Mair - 40 niwrnod ar 么l geni Iesu.
Onid yw hi'n rhyfedd cynifer o'r hen wyliau paganaidd hyn sydd wedi cael ei cymhwyso gan Gristnogaeth ar hyd y canrifoedd - dydyn ni ddim yn deall arwyddoc芒d llawer o'r pethau sy'n digwydd weithiau ond mae atgof neu gysgod ohonynt yn dal i barhau er i'r ystyr gwreiddiol fynd yn angof.
O chwith
Ond hanner ffordd rhwng y Nadolig a'r Pasg, tybed nad y ffordd arall y mae'r cymhwyso'n digwydd ar hyn o bryd? Ein gwyliau Cristnogol pwysig yn cael eu troi'n wyliau masnachol?
Aeth y Nadolig yn '诺yl y siopa gorffwyll' a 'g诺yl y siocled ymhob twll a chornel' fydd y Pasg os na wnawn ni sy'n Gristnogion ddal i atgoffa pobl o'r gwir ystyr.
Mae digon o resymau dros ddathlu bob dydd. Mwynhewch eich Chwefror!