Dathlir yr ŵyl arbennig yma ar Chwefror 2il. Mae'r ŵyl yn coffau puredigaeth y Forwyn Fair gan ei fod yn digwydd 40 niwrnod wedi genedigaeth ei mab Iesu Grist.
Erstalwm roedd y diwrnod yma yn un pwysig iawn yng nghalendr yr amaethwyr gan ei fod yn arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd. Yn un o garolau gwirod y 17eg Ganrif, caiff yr ŵyl ei galw yn 'Gŵyl Fair forwyn ddechre gwanwyn'.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Roedd yn arferiad i oleuo canhwyllau yn y cartref ar noson Gŵyl Fair. Yn ôl Marie Trevelyan (wedi ei nodi yn llyfr Welsh Folk Customs gan Trefor M Owen), un traddodiad yng Nghymru oedd goleuo dwy gannwyll a'u gosod ar fwrdd. Yna byddai pob aelod o'r teulu fesul un yn eistedd rhwng y canhwyllau. Bydden nhw'n cymryd llymaid o ddiod ac yna lluchio'r gwpan yn ôl dros eu pennau. Os byddai'r gwpan yn disgyn â'i ben i fyny, roedd yn arwydd o fywyd hir. Ond os byddai'n glanio wyneb i wyred, credir y byddai'r person yn marw'n ifanc.
Dyma Twm Elias yn egluro mwy am yr ŵyl.
"Y 'canhwyllau' yw'r rhai a ddefnyddir i oleuo'r eglwys ar gyfer yr offeren. Ond mae'n ddifyr meddwl fod hon yn tarddu o hen ŵyl baganaidd a elwid yn Ŵyl y Goleuni. Pwrpas yr hen ŵyl honno oedd ceisio sicrhau ffrwythlondeb y ddaear ar gyfer y cnydau oedd yn cael eu hau yn awr.
"Roedd hon yn disgyn hanner ffordd union rhwng Calan Gaeaf (1af Tachwedd) a Chalan Mai (1af Mai) ac yn un o'r wyth gŵyl fawr flynyddol a ddethlid gan yr hen Geltiaid paganaidd. Yn y cyfnodau cynnar cawsai ei nodweddu gan danau coelcerthi. Yn y rhain y llosgid y celyn gwarcheidiol oedd wedi'i gadw'n ofalus ers y Dolig (neu, yn hytrach, y gwyliau paganaidd oedd yn dathlu'r dydd byrraf). Taenid lludw'r celyn wedyn ar y pridd fel gwrtaith i'r ŷd fyddai'n cael ei hau yr adeg yma.
"Roedd Gŵyl y Goleuni felly yn adlewyrchu goleuni'r coelcerthi a hefyd, wrth gwrs, byddai'n cydnabod yr estyniad amlwg oedd i'w weld erbyn hyn yn hyd y dydd wrth i'r haul gryfhau a dechrau ennill y frwydr dymhorol yn erbyn y tywyllwch.
"Hyd at ganol y 18fed Ganrif roedd cryn fri ar Ŵyl Fair y Canhwyllau. Byddid yn canu carolau arbennig a byddai pobl yn gwaseila o ddrws i ddrws. Ond gyda thwf Protestaniaeth ac Anghydffurfiaeth dirywiodd yr arfer wrth i'r sylw i'r Fair eglwysig leihau. Erbyn hyn, heblaw am wasanaethau eglwysig, chydig iawn o sylw gaiff Gŵyl Fair y Canhwyllau ar y dyddiad hwn."
Roedd yr Hen Å´yl Fair yn arfer cael ei dathlu ar Chwefror 13, cyn newid o Galendr Julius i Galendr Gregori yn 1752.
Dyfyniad o lyfr Tro Drwy'r Tymhorau gan Twm Elias.