Ramadan yw'r nawfed mis o'r calendr Islamaidd. Yn ystod y mis hwn bydd Mwslemiaid yn ymprydio am fis. Eirian Hasler sydd yn trafod y paratoadau ar gyfer Ramadan yn Dubai.
Bu gw欧r crefyddol y gwledydd Arabaidd wrthi'n galed ers tro yn chwilio am y cip cyntaf o'r lleuad newydd. Unwaith y gwelir hwn bydd mis crefyddol Ramadan yn cychwyn.
Yn ystod y cyfnod yma bydd pob Moslem ar wahan i rai eithriadau fel yr hen, y claf a phlant bychain yn gorfod cadw'n glir o fwyd a diod rhwng codiad a machlud haul.
Dim ond pan fydd hi'n dywyll y mae caniat芒d i ail-ddechrau bwyta.
Yn draddodiadol, gwneir hynny gydag ychydig o dd锚ts a chwpaned o dd诺r.
Bwyta bwffe a smygu shisha
Yna, mi gawn nhw fwyta'r bwffe Iftar - gwledd sy'n cynnwys pob math o fwydydd traddodiadol, Arabaidd.
Mae hwn ar gael tan tua 20.30 gyda phob gwesty a'i babell neu ei fwyty arbennig ar gyfer y bwffe a lle mae'r shisha yn cael ei ysmygu.
Yma hefyd mae chwaraeon bwrdd fel backgammon ar gael gyda theuluoedd a ffrindiau yn cyfarfod bob nos i ddathlu.
Wedyn daw sohour, pryd ysgafn sydd ar gael yn oriau m芒n y bore ac i'w fwyta cyn codiad haul.
Carchar am dorri'r ympryd
Wrth gwrs, mae'r ymprydio yn hynod bwysig i'r Moslemiaid a phob blwyddyn mae straeon yn y papurau am rai yn cael eu carcharu ar 么l cael eu gweld yn bwyta yn ystod y dydd!
Er mai mis crefyddol yw hwn, y mae awyrgylch parti hefyd gan fod y dydd yn cael ei droi o chwith wrth i oriau gwaith gael eu cwtogi a swyddfeydd yn cau yn gynnar yn y pnawn.
Mae'r siopau yn brysur gydag arwerthiannau Ramadan ond mae eu horiau hwythau yn newid hefyd ac yn cau tua 13.00 gan ail-agor eto tua 19.00 tan oriau m芒n y bore.
Mae llawer o'r bwytai yn agored tan bedwar o'r gloch y bore.
Rhaid i ferched wisgo'n barchus
Mae bywyd tramorwyr fel minnau yn newid hefyd. Yn ystod y mis mae'r rhan fwyaf o'r clybiau nos yn cau oherwydd na chaniateir adloniant byw. Dim ond rhai bwytai a bariau sy'n cael gwerthu alcohol.
Hefyd, dydan ni ddim i fwyta, yfed nac ysmygu yn gyhoeddus. Mae lleoedd bwyd cyflym fel McDonalds yn gwerthu bwyd i bobl ei fwyta allan yn unig ac yn y gwestai mae'r bwytai sy'n agored ar gyfer ymwelwyr yn ystod y dydd yn cadw mor dawel ac mor ddisylw 芒 phosib rhag temtio'r ymprydwyr.
Rhaid i ferched, yn arbennig, wneud yn siwr eu bod yn gwisgo'n fwy parchus gyda llewysau hirion gan osgoi gwisgo shorts neu sgertiau cwta pan fo nhw allan.