Arferai Calan Mai fod yn ddyddiad pwysig iawn yn y calendr Geltaidd gan ei fod yn gychwyn swyddogol i'r haf. Ar noswyl Galan Mai byddai pobl yn cynnau coelcerthi fel ffordd o ragweld y dyfodol.
Roedd hefyd yn ddathliad gan fod amaethwyr yn dod 芒'r anifeiliaid o'r hendre i'r hafod.
G诺yl sydd bennaf yn gysylltiedig 芒 Chalan Mai ac yn cael ei harfer yng ngogledd ddwyrain Cymru yw'r Cadi Haf. G诺yl ddawns ydyw wedi cychwyn o gymunedau cloddio.
Yn draddodiadol, roedd gorymdaith gyda'r dynion yn defnyddio llwch glo i dduo eu hwynebau. Roedd dau gymeriad ymhlith y dawnswyr. Un oedd Bili'r ff诺l, wedi'i wisgo mewn du, a'r llall oedd Cadi, sef dyn wedi'i wisgo fel merch.
Draenen Wen
Ar Galan Mai byddai'n arferiad i bobl addurno tu allan eu tai gyda'r ddraenen wen gan ei fod yn arwydd o ffrwythlondeb. Credent y byddai'n anlwcus i gario'r goeden fechan yma i mewn i'r t欧.
Byddai'r trigolion yn mynd ati i greu Bedwen Fai, sef polyn wedi ei addurno gyda rhubanau, dail y fedwen a blodau gwyllt. Cofnodwyd yr arfer yma cyn belled 芒'r 14eg ganrif. Nodwedd arall o'r 诺yl fyddai dawnsio a chanu carolau haf.