Dawns draddodiadol i sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf a chroesawu'r haf yw'r Cadi Ha'. Caiff ei pherfformio fel arfer ar Galan Mai ac mae'n parhau'n gryf yn Sir y Fflint.
Bob Calan Mai mae dawnswyr yn llenwi strydoedd Treffynnon i ddathlu'r hen 诺yl sy'n croesawu'r haf ac yn ffarwelio a'r gaeaf.
G诺yl ddawns 芒'i gwreiddiau yn nwfn yn Sir y Fflint yw'r Cadi Ha ac mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau glof盲ol gorllewin y sir, yn arbennig y Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa, yn gorymdeithio a dawnsio ar ddydd cyntaf Mai.
Chris Bailey, cadeirydd yr 诺yl sydd 芒 hanes y dathliadau yn Nhreffynnon heddiw:
"Ar y bore Sadwrn mae cannoedd o blant ysgol yn cymryd rhan mewn dawnsfeydd gwerin Gymreig efo criw mawr o oedolion.
"Daw ymwelwyr a cherddorion i'r dref o bob rhan o Gymru - diolch i Ddawnswyr Delyn, y t卯m lleol o ddawnswyr gwerin Gymreig.
"Rydym hefyd yn cael t卯m o du allan i Gymru ac yn y gorffennol wedi croesawu timoedd o Fflandrys, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw.
"Gorymdaith y Cadi Ha yw'r prif ddigwyddiad. Mae pawb yn duo eu hwynebau efo llwch glo er mwyn cuddio o'r diafol.
"Mae cofnod o'r ddawns a ch芒n yn mynd yn 么l i 1815 yn ardal Treffynnon. Roedd y Cadi yn hel pres gyda ladal (ladle)."
Roedd wyth yn dawnsio yn y Cadi Ha gyda dau gymeriad ychwanegol. Y naill oedd Bili'r ff诺l, wed'i wisgo mewn du, a'r llall oedd Cadi, dyn wedi'i wisgo fel merch - yn dynodi perffeithrwydd. Ei swyddogaeth oedd sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf i baratoi am y gwanwyn, a gynrychiolid gan ddawnsiwr yn cludo cangen. Weithiau 芒i'r efo nhw.
Weithiau aent cyn belled 芒 Dyffrynoedd Clwyd a Chonwy gyda'u wynebau wedi'u duo.
Mae sawl fersiwn o'r geiriau oedd yn cael eu canu, meddai Chris Bailey, yn dibynnu ar y pentref ond dyma rai:
Hwp Ha Wen, Cadi Ha,
Morys stowt am yr uchla neidio,
Hwp dene fo,
Fy ladal i, a'i ladal o, a'r ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!
A fi di gwr y rhuban coch,
Neidiaf dros y gafna,
Hwp dene fo!
A Chynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!"