91热爆

Concyrs

Plant yn chwarae concyrs

Yn nhymor yr hydref bydd y concyrs fel arfer yn disgyn oddi ar y coed. Mae'n gyfnod ble mae nifer o blant a theuluoedd yn eu hel er mwyn chwarae concyrs.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Mae g锚m concyrs yn cael ei chwarae rhwng dau berson, gyda llinyn yn mynd drwy'r concyr. Bydd y chwaraewyr yn cymryd twrn i daro concyrs ei gilydd gan drio eu malu. Yr enillydd fydd yr un gyda choncyr cyfan, neu'r un sydd heb ei falurio'n ormodol beth bynnag!

Credir i'r gastanwydden, sef y goeden sydd berchen ar hadau concyrs, ddod i Brydain yn 1600au.

Cofnodwyd y g锚m goncyrs gyntaf n么l yn 1848 ar Ynys Wyth. Mae llawer wedi bod yn defnyddio hen driciau i gryfhau'r goncyr er mwyn ennill gemau. Mae'r rhain yn cynnwys eu berwi neu socian mewn finegr, eu pobi ar dymheredd isel am amser hir, a hefyd eu peintio gyda farnis ewinedd clir.

Ond mae'r g锚m a oedd yn arfer bod yn gyffredin iawn ar iard yr ysgol bellach wedi cael ei wahardd mewn rhai ysgolion. Mae rhesymau iechyd a diogelwch yn amrywio o fod yn cael eu gweld fel 'arf bygythiol', i'r ofn y byddai'n gallu bod yn beryglus i blant gydag alergedd i gnau.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.