91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr: Catrin Jones Cyfnither dlawd Bridget Jones
Adolytgiad o
Catrin Jones yn Unig


Hefyd ar y ddalen hon:

Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau

Dydd Iau, Ionawr 25, 2001

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:


Neu darllenwch yn gyntaf adolygiad o Catrin Joners yn Unig.

•ˆCatrin Jones yn Unig gan Meleri Wyn James. Un o nofelau Cystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer. £6.95.

Adolygiad gan Gaynor Jones.


Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli’n lân rhwng cloriau llyfr da.

Felly, gyda siwrnai wyth awr, rhwng Gatwick ac Efrog Newydd o fy mlaen, dyma fi’n setlo lawr mewn rhes gyfyng iawn, (oedd yn gyfle imi ymarfer fy symudiadau loga bob tro ro’n i’n dymuno chwythu fy nhrwyn) i ddarllen Catrin Jones yn Unig.

Fy unig ofid oedd ymgolli mor llwyr yn y llyfr y byddwn yn anghofio twidlo fy nhraed yn ddigon aml er mwyn osgoi ‘Deep Vein Thrombosis’.

Heb ddeall y teitl

‘Catrin Jones yn Unig’ - teitl amwys i ddechrau!

Ai dim ond un Catrin Jones sydd? Ydy Catrin Jones yn berson unig? Neu, ydy Catrin Jones ar ei phen ei hun?

Dwi’n dal heb ddeall y teitl ond wedi i mi orfodi fy hun i gwblhau’r llyfr, hoffwn weld yr awdures yn cael ei dedfrydu i gyfnod hir o solitary confinement mewn lle y gall ddatrys ystyr y teitl a pherffeithio ei harddull ysgrifennu digrif.

Ar ffurf dyddiadur cawn ddilyn helyntion CJ yn ystod y flwyddyn mae’n colli ei thad yn ddisymwth. Am ryw reswm, mae ei thad yn gadael y rhan helaethaf o’i eiddo iddi hi a hynny yn codi gwrychyn ei mam, sydd yn achosi i CJ i symud i fyw at ei sboner.

Yna, cawn gwrdd â’i ffrindiau (prin); ei mam-gu, ei thad-cu a’i chydweithwyr yn y cwmni PR (swnio’n gyfarwydd?) cyn iddi gael y sac, teimlo’n flin dros ei hunan, colli ei sboner a dechrau coleg.

Grêt, dechrau addawol!

Cymeriadau sy'n taro deuddeg

Cyfle i ateb cwestiynau am y berthynas rhyngddi hi a’i rhiant; darganfod pam yr esgymunwyd ei mam o’r ewyllys a hefyd i chwerthin am y troeon trwstan sy’n codi yn sgil bywyd gorffwyll CJ a’i ffrindiau/sboner/perthnasau waci … Ym?….

Rheol rhif un wrth ysgrifennu nofel yw creu cymeriadau cyflawn sy’n taro deuddeg. Cymeriadau sy’n ennyn eich diddordeb/empathi ac yn y blaen.

Gwaetha’r modd, nid yw hyn yn wir am "CJ yn unig".

Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na’i chydnabod - ar wahân i’w mam-gu.

Mae’r awdur wedi colli’r cyfle i ddatblygu’r cymeriadau gan roi rhywfaint o hygrededd a rhesymeg y tu ôl i’w gweithredoedd.

Er enghraifft, pam y mae’r fam wedi penderfynu troi’n peroxide blonde a boncio’r athro hunan-amddiffyn?

Pam fod y fam-gu eisiau wig yn anrheg ‘Dolig ac yn chwerthin wrth ddisgrifio y driniaeth mae’i gwr yn ei dderbyn am gancr?

Cyfnither dlawd Bridget Jones

Mae’n amlwg fod Catrin Jones yn ail gyfnither dlawd i Ms Jones arall, Bridget.

Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi’r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.

Digon teg yw dilyn fformat llwyddiannus fel Bridget Jones ond rhaid cael y deunydd crai. Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy’n taro’r hoelen ar ei phen.

Yn anffodus, ni chwerthais unwaith yng nghwmni Catrin a’I chyfeillion, er falle, nad dyna bwrpas y stori yn y lle cynta.

Mae holl fwriad y llyfr yn ddirgelwch llwyr i mi …

Ar ben hyn oll, cur pen oedd ceisio’i orffen mewn pryd.

Cryfder? Ym - o oes, mae’r iaith yn hwylus i’w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli’n llwyr ynddo.

Yn bersonol, roeddwn yn falch iawn o’r esgus i ymuno gyda’r dorf oedd yn codi ar eu traed ac yn y martsio o gwmpas yr awyren bob awr.
Gaynor Jones

Dyma'r rhest ddiweddaraf o lyfrau sydd wedi cyrraedd y siopau:

Cymraeg a dwyieithog
CYFLWYNO'R GYMRAEG - LLAWLYFR I DIWTORIAID: Gol. Christine Jones 1859029035 Gwasg Gomer £9.95 Nodiadau defnyddiol ar gyfer tiwtoriad sydd yn dysgu Cymraeg i oedolion.

CYFRES TEIGR BACH: AROS AMDANA I, TEIGR BACH!: Julie Sykes Addas. Elin Meek Darl. Tim Warnes 1859029264 Gwasg Gomer £3.95 Llyfr stori-a-llun i blant ifanc am Teigr Bach yn gofalu am Teigres Fach.

DRAMÂU SAUNDERS LEWIS - Y CASGLIAD CYFLAWN (CYFROL 2): Saunders Lewis Gol. Ioan M. Williams 0708311830 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Yr ail gasgliad o holl ddramâu Saunders Lewis.

SHOMPA O INDIA: Jean Harrison 0904379434 Cymorth Cristnogol £14.50 Llyfr lliwgar fformat mawr yn rhoi hanes Shompa a’i bywyd yn India.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
THE ART OF SEAMUS HEANEY: Gol. Tony Curtis 1854112562 Seren £12.95 Casgliad o 13 o ysgrifau beirniadol.

COLLECTED POEMS R.S. THOMAS: R.S. Thomas 0753811057 The Phoenix Press £6.99 Casgliad o holl gerddi’r diweddar fardd rhwng 1945 ac 1990.

DEBATING DIALECT - ESSAYS ON THE PHILOSOPHY OF DIALECT STUDY: Gol. Robert Penhallurick 0708316697 Gwasg Prifysgol Cymru £20.00 Ysgrifau ar dafodieithau gwahanol o fewn yr iaith Saesneg.

THE POLITICS OF ITALIAN NATIONAL IDENTITY: Goln. Gino Bedani, Bruce Haddock 0708316220 Gwasg Prifysgol Cymru £40.00 Golwg ar wleidyddiaeth a hunaniaeth genedlaethol yr Eidal.

SUN AND STORM AND OTHER STORIES: Kate Roberts Addas. Carolyn Watcyn 0707403472 Gwasg Gee £5.00 Cyfieithiad o gyfrol Kate Roberts, Haul a Drycin.

WALES ON SCREEN: Gol. Steve Blandford 1854112481 Seren £9.95 Casgliad o ysgrifau yn edrych ar y sîn ffilm Gymreig.

THE WELSH KING AND HIS COURT: Goln. T.M. Charles-Edwards, Morfydd E. Owen, Paul Russell 0708316271 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Astudiaeth o waith y llysoedd yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar

Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy