Trioedd Ynys Echni
Rwyf wedi bod yn brwydro annwyd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r blogio wedi bod yn ysgafn felly ond rwyf wedi llwyddo i ymlwybro i mewn ar gyfer CF99. Keith Davies, Myrddin Edwards a Trefor Jones yw'r gwesteion heno. Yn y cyfamser dyma gasgliad o bethau difyr oedd yn fy nisgwyl ar y cyfrifiadur gan gychwyn gyda fideo bach.
1. Diolch i Sion am y cyfle i weld un o fy nghydweithwyr yn cael slap! Nid fy lle i yw dweud pu'n ai oedd hynny'n haeddianol ai peidio!
2. Mae Dewi, sy'n gadael sylwadau yn rheolaidd ar y blog yma wedi dechrau sgwennu am wleidyddiaeth Cymru ar safle rhagorol - blog mwyaf dylanwadol gogledd Iwerddon.
3. Mae manylion cynadleddau'r gwanwyn wedi eu cyhoeddi. Dim ond un (Y Torïaid) sydd yn Llandudno. Mae Lafur yn ôl yn Brangwyn (eto!!!), Plaid Cymru yn Stadiwm Swalec am y tro cyntaf a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Theatr y Grand, Abertawe. Hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio i gynhadledd gael ei chynnal yn y Grand. Beth ddigwyddodd i'r canolfannau traddodiadol, tybed? Llefydd fel Bedwas, y DVLA a Tymbl?
SylwadauAnfon sylw
Diolch am y "plyg" Vaughan.