Glasfedd eu hancwyn, a gwenwyn fu
Mae Ceidwadwyr Cymry yn heglu hi am Fanceinion mewn hwyliau da iawn iawn. Mae perffaith hawl ganddyn nhw deimlo felly. Wedi'r cyfan fe enillodd y blaid y bleidlais boblogaidd yng Nghymru am y tro cyntaf ers Arch Noa Math Fab Mathonwy oes Victoria yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni.
Er i'r blaid fethu ennill yr un sedd seneddol yn 1997 a 2001, a dim ond tair yn 2005, mae 'na ddarogan o ddifri y gallai'r blaid ennill mwy o seddi na Llafur yn 2010. Mae hynny'n dibynnu ar sawl ffactor ac yn eu plith mae cyflwr y drefniadaeth leol.
Mae hi bron yn amhosib gorddweud ynghylch y ffordd yr oedd trefniadaeth leol y Ceidwadwyr wedi ei rhacsio erbyn diwedd y nawdegau gyda chynghorwyr Ceidwadol bron a bod wedi diflannu o'r tir. Mae Llafur mewn sefyllfa tebyg (er nid cynddrwg) nawr, ond i ba raddau y mae'r drefniadaeth Geidwadol wedi ei hadfer? Mewn ardaloedd lle nad yw aelodau annibynnol yn bodoli mewn niferoedd mae'n bosib mesur hynny trwy edrych ar y siambrau cyngor.
Y newyddion da i'r Ceidwadwyr yw bod pethau'n edrych yn iachus iawn i'r blaid yn y rheng flaen o etholaethau. Yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, mae'r Ceidwadwyr yn dal y mwyafrif o'r seddi cyngor. Yn fwy ddiddorol byth, mae'r gweddill yn eiddo i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol. Does dim un cynghorydd Llafur ar ôl yn etholaeth Julie Morgan!
Yr un yw'r patrwm yng ngweddill y rheng flaen er ei fod yn llai eithafol efallai. Mae'r Ceidwadwyr yn rheoli (fel lleiafrif) ar gyngor Bro Morgannwg ac mae 'na ddau ar hugain o Dorïaid a dim ond saith aelod Llafur ar Gyngor Conwy sy'n cynnwys sedd David Jones a sedd darged Aberconwy.
Dyw pethau ddim yn edrych mor addawol yn yr ail reng- y seddi y byddai'n rhaid eu hennill i'r Torïaid oddiweddid Llafur fel plaid seneddol fwyaf Cymru. Dim ond dau gynghorydd Ceidwadol sy 'na yng Ngorllewin Caerdydd, er enghraifft, a dim ond chwech sy 'na ar Gyngor Pen-y-bont.
Y broblem i'r Ceidwadwyr yw hon. Os nad yw'r sefyllfa wleidyddol gyffredinol yn newid fe fyddai'r blaid yn gallu ennill llefydd fel Gogledd Caerdydd heb drefniadaeth leol effeithiol. Mewn etholaethau eraill, yr union etholaethau lle y gallai trefniadaeth leol wneud gwahaniaeth, mae 'na farc cwestiwn dros safon y drefniadaeth honno.
Mae 'na esiamplau di-ri wedi bod yn ddiweddar o bleidiau yn ennill etholaeth "ar y dydd" ond yn ei cholli oherwydd y bleidlais bost. Gallai 'na fod ragor yn 2010.
SylwadauAnfon sylw
Edrychwch ar "consitituency financial reports" Gorllewin Caerfyrddin a Gorllewin Clwyd ar wefan yr electoral commission. Mae'r Toriaid wedi colli tua traean o'i aelodau rhwng diwedd 2007 a diwedd 2008 yn y dwy sedd. Dydy aelodaeth y Blaid dim yn cynyddu a bydd hynny'n achosi lot o broblemau i nhw.
Cystadleuaeth darogan?
Plaid - Arfon, Dwyfor-Meir, Ynys Mon, Ceredigion, Dinefwr a Llanelli
Rhydd Dem - Canol Caerdydd, Dwyrain Abertawe, Brych a Maesyfed.
Toriad - Preseli, Gorll Caerfyrddin, Gorll Clwyd, Aberconwy, De Clwyd, Gogledd Caerdydd, Mynwy, Bro Morgannwg, Penybont, Maldwyn.
Llaf - y gweddill (22)
Rwy'n cymryd mai Gorllewin Abertawe neu Dwyrain Casnewydd yr wyt yn golygu yn achos y Dem. Rhydd. neu wyt ti'n ceisio ei chael hi'r ddwy ffordd?!!!
Gorllewin Abertawe mae'n ddrwg gen i !!!