91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair am air

Vaughan Roderick | 10:54, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009

alunf.jpgDyw cyfieithu ddim yn jobyn hawdd ar y gorau. Mae hi bron yn amhosib pan mae'r geiriau sydd i'w cyfieithu mewn rhyw fath o god gwleidyddol.

Cymerwch eiriau Alun Ffred Jones ar "Good Morning Wales" y bore 'ma. Dywedodd ei fod yn "miffed" bod Swyddfa Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth am gynnwys yr LCO iaith cyn i aelodau'r cynulliad weld y gorchymyn.

Sut mae cyfieithu "miffed", tybed? Fe wnes i awgrymu "gandryll" wrth y gweinidog gan gael dim byd mwy na gwen mewn ymateb. Yn ddiweddarach awgrymodd rhywun wrtha i y byddai "* gandryll" yn fwy cywir!

Yr halen yn y briw yw briffio Swyddfa Cymru mewn gwirionedd. Er bod Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd y gorchymyn yn ei galluogi i "gyflawni addewidion Cymru'n Un" y gwir amdani yw bod y Cynulliad wedi colli brwydr gyfansoddiadol hynod bwysig.

Pan ddaeth ail Ddeddf Llywodraeth Cymru i rym roedd aelodau'r cynulliad, ac yn fwyaf arbennig y Llywydd, yn dadlau mae rôl ffug-gyfreithiol oedd gan San Steffan yn y broses. Hynny yw, pe bai'r cynulliad yn gwneud cais am bwerau, yn enwedig cais oedd yn seiliedig ar addewidion maniffesto, fe ddylid rhoi rhwydd hynt iddo heb ymholi pa ddefnydd yr oedd y cynulliad yn bwriadu gwneud o'r gorchymyn.

Dyna, ar y cyfan, sydd wedi digwydd yn NhÅ·'r Arglwyddi. Mae TÅ·'r Cyffredin, ac yn fwyaf arbennig y Pwyllgor Dethol Cymreig, wedi gweld pethau'n wahanol. I bob pwrpas mae'r Pwyllgor wedi ymddwyn fel rhyw fath o ail siambr i'r Cynulliad gan osod cyfyngiadau pendant a phlaen ar yr hyn y gall y Cynulliad wneud.

Mae hynny'n boen i wleidyddion y Bae a hynny mewn gyfnod lle mae 'na lywodraethau o liwiau gweddol debyg yn San Steffan a Chaerdydd. Sut fydd pethau ar ôl yr etholiad cyffredinol, tybed, o gofio y byddai mwyafrif Ceidwadol ar lefel Brydeinig yn golygu mwyafrif Ceidwadol ar y Pwyllgor Dethol?

Mae'n bosib y byddai ambell wleidydd yn "* * gandryll".

Gyda sibrydion cynyddol bod Confensiwn Syr Emyr yn "gung ho" ynghylch refferendwm mae'r bleidlais honno yn ymddangos yn fwyfwy tebygol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:32 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Gobeithio na chaiff y newidiadau, fel y'u hadroddir ar wefan Golwg360, eu derbyn. Maen nhw'n gwanychu'r LCO i'r fath raddau nad oes pwynt cael un. Mam bach, gobeithio y daw'r refferendwm yn o handi!

  • 2. Am 18:53 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd DandyDin:

    "Sut fydd pethau ar ôl yr etholiad cyffredinol, tybed, o gofio y byddai mwyafrif Ceidwadol ar lefel Brydeinig yn golygu mwyafrif Ceidwadol ar y Pwyllgor Dethol?"

    Ydy'r mwyafrif llethol yn ffaith felly Vaughan? Ynteu proffwydo wyt ti?

  • 3. Am 20:03 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pe bai hi'n ffaith byddwn wedi defnyddio "bydd" (s.will) yn hytrach na "byddai"(s.would). Mae byddai yn ffurf amodol o'r ferf.

  • 4. Am 22:17 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Mae hyn yn sarhaus ar ran Hain ac mae'n rhaid i Alun Ffred ymateb.

    Yn bwysicach mae'n rhaid i'r Blaid fynnu ar ddyddiad ar gyfer y Refferendwm bellach. Dim mwy o chwarae gems. Fydd Hain a'i griw ar y clwt mewn 12 mis a bydd y Ceidwadwyr mewn grym am dros ddegawd. Mae Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur wedi chwarae digon o gemau bellach. Mae'n amser i Blaid Cymru benderfynnu os nad oes dyddiad am refferendwm yn cael ei benderfynu cyn Dolig yna mae dyddiadu Cymru'n Un wedi eu rhifo.

    Mae agwedd Hain at Alun Ffred a'r Cynulliad yn sarhaus.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.