91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Elvis, Tegi a Peter Kellner

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Llun, 26 Hydref 2009

bookie1.jpg1. Fe fydd Elvis yn cael yn cael ei ganfod yn fyw ac yn iach ym Mhenmachno.

2. Fe fydd 'na brawf pendant o fodolaeth anghenfil yn Llyn Tegid.

3. Fe fydd arolwg barn awdurdodol a chynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru.

Fe fydd un o'r straeon amhosib yma yn dod yn wir yfory. Y lleiaf tebygol ohonyn nhw i gyd, sef rhif tri, sydd yn mynd i gael ei gwireddu. Mae hyn yn fanna o'r nefoedd i newyddiadurwyr a gwleidyddion fel ei gilydd!

Nawr mae'r peth wedi clymu lan mewn mwy o embargos nac oedd 'na yn erbyn De Affrica yn nyddiau apartheid ond mae 'na un neu ddau o bethau rwy'n awyddus i gael allan o'r ffordd cyn cychwyn.

Yn gyntaf diolch i'r academyddion hynny sydd wedi gwneud i'r peth ddigwydd. Diolch iddyn nhw hefyd am lunio'r union gwestiynau oedd angen eu gofyn. Fe wnewch chi synhwyro bod 'na "ond" yn dod!

Dydw i ddim yn credu y byddai Roger Scully na Richard Wyn na neb arall yn anghytuno a hyn. Mae cael un arolwg gan un cwmni yn wych. Fe fyddai pethau hyd yn oed yn well pe bawn yn cael hanner dwsin o arolygon gan wahanol gwmnïau. Ni fydd modd gwybod os oes ydy'r pôl yma yn "outlier" (ac mae unrhyw arolwg yn gallu bod) heb arolygon eraill i ddefnyddio fel cymhariaeth. MWY! Mae angen mwy! Mae'r polau 'ma fel losin. O gael un mae'r awch am un arall bron yn ormod!

Gair yn olaf am fethodoleg YouGov y cwmni wnaeth gynnal yr arolwg. Mae system y cwmni yn wahanol iawn i'r dull traddodiadol o gynnal arolygon lle mae'r cwmnïau'n cysylltu â phobol newydd bob tro. Yn lle hynny mae YouGov yn talu panel o bobol i ateb cwestiynau ar y rhyngrwyd gyda rhyw faint o waith atodol yn mynd ymlaen i gymhwyso'r canlyniadau a natur y boblogaeth gyfan.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i ac eraill yn amheus iawn am y dull yma o bolio pan ddechreuwyd ei ddefnyddio rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Ond prawf y pwdin yw ei flas ac mae canlyniadau YouGov cystal os nad gwell na chanlyniadau cwmnïau sy'n defnyddio dulliau traddodiadol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:53 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Roedd yna drafodaeth ar flog Betsan ynglyn a phwy sy'n talu. O beth rwy'n gwybod am YouGov maent yn defnyddio y panel i ymchwilio ar gyfer cwmniau masnachol yn ogystal a ymchwil gwleidyddol?
    Edrych ymlaen am y canlyniadau beth bynnag....


  • 2. Am 15:05 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd PEREDUR CHOPRA:

    Canlyniad siomedig i’r pol yfory ‘te Vaughan?

    Pam ?

    Tybed a wyt ti’n paratoi i saethu’r negesydd cyn iddo adrodd ‘i hanes. Mae pwysleisio mai un pol yn unig sydd fan hyn ac yna amau dulliau YouGov yn awgrymu hynny. A beth yn y byd yw ‘outlier’? Rhywbeth i wneud a ‘out and out liar’

    Mae gen i rhyw deimlad petai’r poll yn dweud 55% o blaid ‘Ie’ fyddet ti ddim wedi ysgrifennu fel hyn – ac mae llai na 55% yn mynd i orfodi rhywun i bwyllo.

    Falle mod i’n darllen rhwng dy linellau, ond wedyn dyna shwd ma dehongli poliau. Tybed a fydd Syr EJ-P am ail sgwennu pennod olaf ‘i adroddiad?

  • 3. Am 15:06 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    A fydd y rhain allan y peth cynta'n y bore, Vaughan?

    (Dwi'n dal i gasau'r rhifau a llythrennau! Pam fod yn rhaid i'r blog hwn eu defnyddio nhw?)

  • 4. Am 15:09 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dyna yw fy nealltwriaeth i hefyd Dewi. Unwaith mae panel wedi ei sefydlu mae arolygon YouGov llawer yn rhatach na arolygon cwmnïau eraill ac mae rhydd i unrhyw un ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas. Mae'n ymddangos bod y cwmni wedi penderfynu bod 'na ddigon o waith yng Nghymru i gyfiawnhau sefydlu panel Cymreig. Yn enw Prifysgol Aberystwyth y mae'r arolwg cyntaf yn cael ei gyhoeddi.

  • 5. Am 15:21 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dafydd, Fe fydd y canlyniadau yn ymddangos yn y bore, rhai peth cyntaf yn y bore a'r gweddill cyn cinio. Fe fydd y llythrennau a rhifau yn diflannu cyn bod hir!!!

    Peredur Chopra, Dydw i ddim wedi gweld y canlyniadau eto! Roeddwn i eisiau cael y pwyntiau ynghylch y fethodoleg allan o'r ffordd heddiw ac fel dywedais i mae cywirdeb canlyniadau YouGov yn siarad drostyn nhw ei hun. Term ystadegol yw "outlier" am ganlyniad sy'n gorwedd y tu allan i glwstwr o ganlyniadau eraill. Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am gyfieithiad.Rwy'n dwli ar dy lysenw ,gyda llaw.

  • 6. Am 17:20 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Uthr:

    Rwy'n amheus iawn o'r ffaith mai arolwg ar-lein ydi hwn. Rwy'n deall mai pobl sy'n cofrestru'i hunain ar gyfer poliau YouGov. Oherwydd mai cefnogwyr y Blaid yw'r rhai mwyaf web-savvy o bell ffordd, mae'n amlwg fod arolwg ar-lein am ffafrio 'Ie'. Yn ogystal, mae pobl iau yn gyffredinol yn defnyddio mwy ar y we, ac mae'r genhedlaeth iau am fod yn fwy pleidiol i hunanreolaeth.

  • 7. Am 17:28 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Rwyf yn aelod o banel YouGov ar gyfer y pôl . Dyma'r ail bôl i aelodau'r panel eu cael. Cafwyd un cyn etholiadau Ewrop ond ni chyhoeddwyd ei ganlyniadau, mae'n debyg bod y pôl hwnnw wedi ei ddefnyddio i wirio aelodaeth y panel yn erbyn gwir ganlyniadau'r etholiad, er mwyn gwneud y pôl gyntaf yma i'w chyhoeddi yn fanylach. Cam i'r cyfeiriad cywir am wn i, ond heb hanes o bolio Cymreig anodd yw gwybod pa mor gywir bydd pôl yfory, cam gyntaf at greu traddodiad polio Cymreig yn unig fydd canlyniadau yfory yn hytrach na theclyn darogan dibynadwy.

  • 8. Am 19:08 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diddorol Alwyn, rwy'n credu y bydd gwerth mawr i'r arolygon hyn o safbwynt "trends" yn y dyfodol ond mae angen pinsied bach o halen ar y cychwyn. Does dim modd, er enghraifft, cymharu#r canlyniadau a rhai ICM.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.