Chwaden Rost
Efallai na ddylwn i geisio camu cyn cerdded na cherdded cyn cropian. Mae 'na wythnosau i fynd cyn i arweinydd Llafur newydd gael ei ddewis. Siawns ei bod hi'n rhy gynnar i drafod pwy y bydd e neu hi yn rhoi yn ei gabinet? Wel nac ydy, mewn gwirionedd!
Er bod yr ymgeiswyr i gyd yn mynnu nad ydyn nhw wedi dechrau meddwl am y peth mae gyrfaoedd nifer o wynebau cyfarwydd yn debyg o ddod i ben yn weddol o fuan. Yn sicr fe fydd y cabinet newydd yn wahanol i'r un presennol pwy bynnag sydd wrth y llyw.
Gadewch i ni feddwl, er enghraifft beth fyddai'n digwydd pe bai Carwyn Jones yn ennill. Rwy'n dewis Carwyn, nid allan o unrhyw ffafriaeth ond oherwydd y byddai statws bresennol y dyn ei hun yn gorfodi un newid yn syth.
Naw yw uchafswm aelodau'r cabinet er bod 'na ddeg ar hyn o bryd! Sut felly? Wel, fe ychwanegwyd Carwyn at y cabinet gan Rhodri trwy ei benodi'n Cwnsler Cyffredinol, swydd 'na fwriadwyd iddi fod yn un wleidyddol. Does dim un aelod Llafur arall yn gymwys i'r swydd honno ac yn sicr ni fyddai'n bosib "dyblu lan" fel Cwnsler Cyffredinol a Phrif Weinidog.
Nawr, oherwydd bod Rhodri ei hun yn mynd dyw hynny ddim yn golygu y byddai'n rhaid saco rhywun ond mae'n golygu mai naw aelod yn unig fyddai yng nghabinet Carwyn. Fyddai 'na ddim llefydd gwag o gwmpas y bwrdd a dim slac o gwbl.
I ychwanegu at y broblem o'r naw fyddai ar ôl o'r cabinet presennol mae 'na bum aelod sydd i bob pwrpas yn "bomb-proof" sef Carwyn ei hun, wrth reswm, tri aelod Plaid Cymru ac Edwina Hart- o gymryd ei bod wedi gwneud yn iawn yn yr etholiad. Sut mae cael wynebau ffres wrth y bwrdd felly? Sut mae gwobrwyo Leighton a sut mae dod o hyd i le i Huw os ydy e wedi gwneud yn dda yn yr etholiad? Beth am Carl Sargeant a'r angen i gael llais Llafur o'r Gogledd wrth y bwrdd?
Mae 'na bedwar aelod Llafur a'u pennau ar y bloc. Fe fyddai'n rhesymegol efallai i ofyn i Brian Gibbons a Jane Davidson ildio eu llefydd gan fod y ddau yn ymddeol o'r cynulliad yn 2011. Ar y llaw arall mae'r ddau ymhlith yr aelodau wnaeth enwebu Carwyn. Tric brwnt fyddai saco'r naill neu'r llall os nad oeddynt yn dymuno rhoi eu twls ar y bar.
Mae hynny'n gadael Jane Hutt ac Andrew Davies ill dau yn gefnogwyr i Edwina. Gallai Andrew fod yn ddyn peryg ar y meinciau cefn fel un sy'n gwybod lle mae'r cyrff wedi eu claddu. Fe fyddai saco Jane Hutt ar y llaw arall yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd iddi amddiffyn ei mwyafrif o 83 ym Mro Morgannwg. Yn wir, gallai na fod peryg y byddai Jane yn ystyried cerdded i ffwrdd o'r ornest honno pe bai'n colli ei lle ar bumed llawr TÅ· Hywel.
Fe fyddai dewisiadau'r un mor anodd yn wynebu Huw neu Edwina pa bai'r naill neu'r llall yn ennill. Fel dywedais i, dim slac o gwbl... neu bron dim slac.
Mae'r uchafswm yna o naw aelod y soniais amdano yn uchafswm o weinidogion sy'n gallu derbyn cyflog aelod cabinet. Oes 'na unrhyw un sy'n ddigon ymroddedig i fod yn aelod digyflog o'r cabinet? Oes, dw i'n meddwl. Dydw i ddim wedi siarad â'r naill na'r llall ond rwy'n amau y byddai Huw, ac, o bosib Leighton, o leiaf yn fodlon ystyried y peth.