Y Mab Darogan
Ychydig iawn o wleidyddion Cymru sy'n gallu denu newyddiadurwyr gwleidyddol i neuadd cynhadledd er mwyn gwrando ar araith. Gwrando ar y ffid deledu yn ystafell y wasg yw'r drefn arferol gan fod hynny yn caniatau ffeilio (a blogio!) ar yr un pryd.
Un o'r eithriadau prin yw Adam Price- un sy'n gwybod nid yn unig lle mae "g-spot" ei blaid ond un y wasg hefyd. Mae gan Adam y gallu i bleisio pob carfan o'i blaid gan gyfuno cyfeiraidau at Dryweryn, Streic y Glowyr, Merched Beca a Nye Bevan mewn ffordd sy'n swnio'n gwbwl naturiol. Roedd ei araith heddiw hyd yn oed yn cynnwys ymdrech i estyn llaw i ambell i Geidwadwr gyda gwahoddiad (drygionus efallai) i David Melding ymuno a'r blaid. Fe awgrymmodd Adam hefyd ei bod hi'n bryd iddo fe'i hun "ddod gartref" o San Steffan.
Mae Plaid Cymru yn hoff iawn o ddrindodau. Efallai mai Trioedd Ynys Prydain neu cysgod yr hen driban sy'n gyfrifol. Cafwyd drindod Penyberth ar boster enwog yn y tridegau a drindod arall ar boster arall yn 1974. Saunders, DJ a Lewis Valentine yn '36, Gwynfor, Wigley a Dafydd El yn '74, Wigley Adam a... phwy arall yn 2011?
"Watch this space", fel maen nhw'n dweud!
SylwadauAnfon sylw
Peidiwch â gwneud i mi chwerthin! Rwy'n cofio bod Glyndwr Dechreuodd ei symud ar gyfer annibyniaeth â gweithredu. Gall Cymru fizzled allan! Hefyd, nid Blaid Cymru yn y Parc Cenedlaethol. Pryd y gall Plaid ethol cynghorwyr yng Nghas-gwent yn gyfforddus â Caerfyrddin, ni fydd pethau'n newid.
"Wigley Adam a... phwy arall yn 2011?" `
Ti'n sôn am restr fer Castell Nedd Vaughan?
Nac ydw... rhyw ensyniad bach ynghylch newydd-ddyfodiaid y pedwerydd Cynulliad oedd hwnna er efallai y byddai "re-treads" yn well disgrifiad!
O wefan y Cyngor Mynwy. "2008 Election Results; Caldicot Castle Ron Stewart Plaid Cymru The Party of Wales 214 Elected." Dyw Cilycoed ddim mor bell a hynny o Gasgwent! Rhyw filltir efallai?
Dafydd, Adam a Ron, wrth gwrs.
Bocs o siocledi i Geraint!