Y diawl yn rhoi'r bai ar bechod...
Efallai eich bod wedi dod ar draws ynghylch defnydd y BNP o luniau o gerflun Owain Glyndŵr yng Nghorwen mewn deunydd marchnata. Y cerflun newydd nid yr hen gorrach sy'n cael ei ddefnyddio wrth reswm!
Wrth ymateb mae swyddog y wasg y blaid, John Walker, yn dweud hyn;
"The Lib-Dems and Labour policies have flooded Wales with non-Welsh immigrants, to the point where there are 38 established mosques there. All those who understand the struggle for Welsh identity for which Owain was famous, know that his ideals are being destroyed by the genocidal Labour/Lib-Dem/Tory/Plaid immigration policies"
Ydy'r "non-Welsh immigrants" yna yn cynnwys pobol o Loegr, tybed? Fedra i feddwl am un enghraifft amlwg o'r ffenomen yna sy'n byw nid nepell o Sycharth.
Gyda llaw, beth os oedd ffigur y BNP o 38 mosg yng Nghymru yn gywir? Dyw e ddim, ond os oedd e, byswn i'n tybio bod hynny'n golygu bod nifer yr addoldai Mwslimaidd bellach yn curo'r Bedyddwyr Albanaidd, yn closio at gyfanswm yr Undodiaid ond dim eto yn herio Capel Wesle!
SylwadauAnfon sylw
heb son am Walker ei hun wrth gwrs, sy'n fewnfudwr i Ddeiniolen!
Dywedodd Michael D. Jones fod "Seisnigeiddio gyfystyr a Phaganeiddio" Cymru ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Profodd R. Tudur Jones wrth ymchwilio i honiad hynod MDJ fod ystadegau troad yr Ugeinfed Ganrif yn dangos mae'r mewnlifiad Seisnig wnaeth y difrod empiraidd mwyaf i'r Gymru Gymraeg Gristnogol - roedd honiad MDJ felly yn dal dŵr. Pisho driw yw dyfodiad Moslemiaeth o'i gymharu.
Crefydd newydd i Gymru yw Cristnogaeth hefyd wrth gwrs yn nhermau'r milawdau. Nid credo grefyddol wna genedl, diolch byth.
O ran y 38 - mae rhestr ohonynt ar wefan y BNP.
"Crefydd newydd i Gymru yw Cristnogaeth hefyd wrth gwrs yn nhermau'r milawdau." Ond i ba raddau mewn gwirionedd y gellid siarad am y genedl Gymreig yn nhermau milawdau beth bynnag?
Er nad ydy Cristnogaeth wedi bod yn lywodraethol trwy ein hanes ni y mae tystiolaeth o dystiolaeth Gristnogol o ryw fath wedi bod cyhyd a fod tystiolaeth yn dangos fod y genedl yn bodoli o gwbl oddeutu'r ail ganrif ar ôl Crist ymlaen.
Gore po gynta mae pob addoldy o bob ffydd yng Nghymru yn amgueddfa i anwybodaeth y gorffennol...Does dim angen crefydd i benderfynu beth sydd yn gyfiawn na gwrthod honiadau'r BNP.